Beth yw Archifau?
Mae ein stori ynghudd ym mhobman. Yn disgwyl cael ei hadrodd gan unrhyw un sy’n ddigon chwilfrydig i durio y tu hwnt i’r wyneb…
Mewn archifau ledled Cymru, mae straeon yn aros i gael eu darganfod. Straeon am ein cyndeidiau, ein cymunedau, y lleoedd lle’r ydym wedi byw neu yr hoffem eu galw’n gartref.
Gall archifau ddweud wrthym beth yr oedd pobl a sefydliadau yn ei wneud, a sut, a pham, ac yn aml beth oedden nhw’n ei feddwl. Maen nhw’n ein helpu i ddeall o ble rydyn ni wedi dod a phwy rydyn ni wedi bod. Mae archifau yn ein cysylltu at y gorffennol ac yn rhoi anadl einioes i hanes. Maen nhw’n ein helpu i wneud penderfyniadau ac yn dylanwadu ar ein dyfodol.
Gall unrhyw un ymweld ag archif. Does dim angen i chi fod yn ymchwilydd, nac yn ‘arbenigwr’. Y cyfan sydd ei angen arnoch yw chwilfrydedd.
Mae archifau yn gasgliadau o wybodaeth, a elwir yn gofnodion. Rydyn ni i gyd yn creu cofnodion yn ein bywydau bob dydd. Mae rhai cofnodion yn bwysig i ni, ac rydyn ni’n eu cadw cyhyd ag sy’n angenrheidiol cyn cael gwared arnyn nhw; rydyn ni’n penderfynu cadw rhai am byth, ac mae’r rhain yn dod yn archifau i ni.
Mae’r miliynau o eitemau unigryw sydd wedi goroesi yn cael eu gwarchod a’u diogelu gan ein timau archifau a chofnodion pwrpasol ledled Cymru. Fe allech chi eu galw’n ‘geidwaid storïau’. Bob dydd, maen nhw’n dewis gwybodaeth, yn ei chasglu ac yn ei gwarchod, i’w defnyddio nawr a gan genedlaethau’r dyfodol.
Gall cofnodion fod o unrhyw oedran ac ar sawl ffurf. Gallant fod mewn llawysgrifen ar femrwn, wedi’u teipio ar bapur, eu sgriblo mewn llyfr nodiadau, neu eu brodio ar frethyn. Gallant fod yn ffotograffau, yn ddarluniau technegol, yn frasluniau neu’n fapiau. Gallant fod yn sain, fideo, delweddau neu ddata digidol neu analog, wedi’u dal ar fformatau gwahanol, o ddisgiau hyblyg i bresenoldeb rhithwir ar-lein ar y ‘cwmwl’. Mae gan bob gwasanaeth archif 695 metr ciwbig o archifau ar gadw, ar gyfartaledd – mae hynny’n ddigon i lenwi tua 7 bws deulawr!
Mae yna archifau o bob lliw a llun: yn rhan o awdurdodau lleol neu brifysgolion neu fel sefydliadau annibynnol. Mae rhai archifau yn sefydliadau sydd wedi’u sefydlu ers amser maith; ffurfiwyd eraill yn y blynyddoedd diwethaf. Mae yna eraill sydd heb eu creu eto. Gyda’n gilydd, rydyn ni’n rhannu’r un nod: eich helpu chi i ddod o hyd i’r hyn rydych chi’n chwilio amdano.
Mae archifau i bawb – beth wnewch chi ei ddarganfod?
Peidiwch â chymryd ein gair ni: mae 98% o ymwelwyr ag archifau Cymru yn cytuno bod ganddynt ddealltwriaeth well am eu cymuned, ei hanes a’i phobl ar ôl defnyddio archifau. Dyma beth sy’n dod i feddyliau rhai o’n defnyddwyr wrth glywed y gair ‘archif’:
Rhyfeddod, llawenydd, dirgelion, a hapusrwydd.
Lle sy’n llawn o gymaint o fydoedd i’w harchwilio a straeon i’w hadrodd.
Embaras o gyfoeth.
Hud yn aros i ddigwydd.
Lle i chwilio am atebion.
Hyfrydwch.
Beth sy’n dod i’r meddwl pan fyddwch chi’n clywed y gair ‘archif’?
Adnoddau
- International Council on Archives (ICA)ica.org
- Yr Archifau Gwladolnationalarchives.gov.uk