Roedd y prosiect Adolygu Disgrifiadau Archifol yn rhan o’r Cynllun Gweithredu Gwrth-hiliol a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru i helpu sefydliadau diwylliannol i edrych ar ffyrdd y gallent gael effaith gadarnhaol yn y maes hwn.

Gan ddefnyddio mabwysiadu’r fethodoleg a ddatblygwyd rhwng Llyfrgell Brotherton Prifysgol Leeds a’r Archifau Cenedlaethol, roedd y prosiect yng Nghymru yn bartneriaeth rhwng nifer o sefydliadau o bob rhan o lywodraeth leol ac addysg uwch i gymharu disgrifiadau catalog archifol gyda rhestr gytûn o dermau sarhaus a rhagfarnllyd. 

Roedd y termau hynny’n ymdrin ag iaith hiliol, rywiaethol a misogynaidd, gwrth-anabledd, homoffobig, trawsffobig, traws-waharddol, gwahaniaethu crefyddol, a’r rhai sy’n sarhaus ar y cyfan.  Dim ond dechrau’r broses oedd yn bosib o fewn amserlen y prosiect, ac ni allai gynnwys y cam nesaf, sef gwneud penderfyniadau ynghylch beth ddylai ddigwydd ar ôl nodi’r termau yma mewn catalogau archifol. 

Mae’r adroddiad terfynol yn amlinellu’r broses a ddilynir, ac yn darparu’r canlyniadau pennawd (dienw).

Mae’r adroddiad ar gael yn Saesneg yn unig ar hyn o bryd. Bydd yr adroddiad Cymraeg yn cael ei gyhoeddi cyn gynted ag y bydd ar gael.

For more details on this project, please contact Vicky Jones: vicky.jones@llgc.org.uk