Dathlu bywyd a gwaith Thomas Richards, Llyfrgellydd
A wyddoch chi fod Thomas Richards wedi’i benodi’n Llyfrgellydd Prifysgol Bangor union ganrif yn ôl eleni? Fe’i hystyrir yn dad yr Archifau a Chasgliadau Arbennig ac rydym yn wirioneddol ddyledus iddo am y casgliadau gwych sydd yn ein gofal – yn enwedig y casgliadau ystâd.
Yn y Llyfrgell ym mhrif adeilad Prifysgol Bangor mae Darllenfa Richards wedi’i lleoli. Ystafell ydyw sydd wedi’i henwi ar ôl Dr Thomas Richards a fu’n Lyfrgellydd Coleg Prifysgol Gogledd Cymru yn ystod hanner cyntaf yr 20fed ganrif. Roedd swydd y Llyfrgellydd yn un bwysig iawn gydag anrhydedd ac awdurdod yn perthyn iddi ac nid oes amheuaeth fod Thomas Richards yn ystod ei gyfnod wedi trawsnewid llyfrgell y Coleg a’i throi’n sefydliad proffesiynol a fyddai’n cael ei hedmygu gan bawb.
Nid dyma ei unig waddol. Gadawodd ei farc ar y casgliadau o lawysgrifau a chofnodion a oedd yng ngofal y Brifysgol hefyd gan gynyddu’i daliadau yn sylweddol. Mae’n debyg fod gan y Brifysgol 200 o lawysgrifau yn ei gofal yn 1925 a bod y ffigwr hwnnw wedi codi i 83,000 erbyn 1933.

Ganwyd Thomas Richards ar y 15fed o Fawrth 1878 ym Maes-glas ger Tal-y-bont, Ceredigion yn fab i Isaac a Jane Richards. Ym 1899 cafodd ei dderbyn yn fyfyriwr i Goleg Prifysgol Gogledd Cymru lle bu’n ddisgybl i’r enwog Syr John Edward Lloyd, a graddiodd ym 1903 gydag anrhydedd mewn Hanes.
Ar ôl gadael y Coleg, dechreuodd ei yrfa fel athro hanes gan ddysgu am chwarter canrif mewn tair ysgol wahanol, yn olynol – yn Nhywyn, Sir Feirionnydd, Bootle, Glannau Merswy a Maesteg.
Yn ystod ei gyfnod yn fel athro, dechreuodd ysgrifennu llyfrau ar hanes crefydd a phiwritaniaeth yng Nghymru – cyhoeddwyd 8 llyfr o dan ei enw gan gynnwys dau hunangofiant.

Llwyddodd hefyd i ennill gradd M.A. ym 1914 a D.Litt ym 1924.
Pan benodwyd Thomas Richards gan y Coleg ym Mangor ym 1926 roedd yn 48 oed. Roedd eisoes yn adnabyddus fel hanesydd ac ysgrifwr. Fel Llyfrgellydd, yn wahanol i’w ragflaenydd Thomas Shankland, roedd yn ddisgyblwr llym ac yn cosbi unrhyw fyfyriwr a dorrodd y rheolau neu gamymddwyn. Er gwaethaf hyn derbyniodd y llysenw hoffus, Doc Tom.
Roedd Thomas Richards yn gasglwr brwd a chanddo ddoniau perswadio arbennig iawn. Casglodd lawysgrifau pwysig ac unigryw yn ymwneud a phob agwedd o hanes gogledd Cymru ac, yn benodol, targedodd y bonedd tiriog gan sicrhau sawl adneuaeth arwyddocaol i’r Brifysol megis, Papurau ystadau Penrhyn, Baron Hill, Bodorgan ac yn y blaen. Mae’r casgliadau hyn yn parhau I fod yn adnodd arbennig iawn I fyfyrwyr y Coleg a phobl yr ardal ac yn denu ymchwilwyr o bell.
Gwthiodd Thomas Richards ei ddiddordeb mewn hel llyfrau a llawysgrifau gam ymhellach trwy gyflogi’r cyn-chwarelwr Bob Owen, Croesor, fel cynorthwyydd i chwilio am eitemau prin mewn arwerthiannau a siopau llyfrau a thai preifat – yn wir daethant yn ddeuawd adnabyddus a chawsant eu disgrifio gan Sam Jones o’r BBC fel “Laurel a Hardy Cymru”.
Treuliodd Doc Tom ddau ddegawd llewyrchus iawn fel Llyfrgellydd Prifysgol Bangor cyn iddo ymddeol ym 1946. Wedi hynny, derbyniodd sawl anrhydedd gan gynnwys Medal Cymdeithas Anrhydeddus y Cymmrodorion yn 1958 a doethuriaeth gan Brifysgol Cymru yn 1959.

Dyma beth ddywedodd Thomas Parry amdano :
“…er yn gwbl annisgwyl, profodd ei benodiad ym Mangor i fod yn ddewis ysbrydoledig, oherwydd byddai’r llyfrgellydd hirgul, doniol, hynod frawychus hwn yn dominyddu llyfrgell y Coleg fel cawr ….ac yn trawsnewid ei rôl a’i statws”.
“Nid oedd ond un “Doc Tom” yn ol R.T. Jenkins. Heb os mae ein dyled yn fawr iddo. Byddai Prifysol Bangor yn sefydliad llawer tlotach heb ei ymgyrchoedd diflino i adeiladu ar gynnwys y Llyfrgell Gymraeg a’r casgliad archifol sy’n un o’r tlysau yng nghoron y Coleg ar y Bryn.
Gallwch wylio ffilm fer am Dr Thomas Richards gan Chasgliadau Arbennig Prifysgol Bangor yma: https://www.youtube.com/watch?v=gFWIE7WegYk&t=64s