Stori deuluol tair cenhedlaeth drwy gasgliad Archifau Gwent: Y drydedd genhedlaeth
Yn 1879, yn 17 oed, priododd Fanny Vella â Francis Vella, gŵr 31 oed a oedd yn byw un stryd draw. Aeth Fanny ymlaen i gael 11 o blant rhwng 1880 a 1902, gan gynnwys Amelia – yr hynaf. Cefais fy nharo gan gofnodion Fanny o Ben-y-Fal, a nododd (ar ôl cael ei derbyn ym mis Medi 1898) fod ei phwl wedi para 20 mlynedd a’i bod hi’n “very peculiar in her behaviour from time to time during the last 20 years” – sy’n cyd-fynd bron yn union â phan briododd Fanny a dechrau cael plant. Fis cyn i Fanny gael ei derbyn i Ben-y-Fal, diflannodd ei merch hynaf, Amelia.
Gadawodd Amelia Gasnewydd ym mis Awst 1898 wedi’i gwisgo fel morwr a chafodd ei hebrwng o’r SS. Blaenavon yn Grand Canary ar ôl twyllo ei bod yn aelod o griw’r llongau, ac yn fachgen, am bron i ddwy fordaith. Llwyddais i ddod o hyd i stori Amelia mewn nifer o bapurau newydd ac roedd sawl un yn cynnwys brasluniau o Amelia mewn dillad morwr a ffrog ac un hyd yn oed yn cyfweld ag Amelia ei hun.

Roedd gen i ddiddordeb arbennig, o ystyried ein thema, sef mis hanes LHDTC+, fod papurau newydd hefyd yn adrodd am gyfnod Amelia fel gwas i’r Capten Morgan a sut roedd Amelia wedi dweud wrth Mrs Morgan ei bod eisiau bod yn fachgen a Mrs Morgan wedi cynghori Amelia i beidio â gwisgo dillad bechgyn.

Fel y genhedlaeth flaenorol, cefais hyd i Amelia a’i brodyr a’i chwiorydd yng nghofnodion Wyrcws Casnewydd ar sawl achlysur. Mae’n bwysig nodi, ym mis Awst 1898, i rieni Amelia gael eu derbyn i wyrcws Casnewydd gyda phump o frodyr a chwiorydd iau Amelia. Pan gawsant eu derbyn, rhestrwyd tad Amelia fel “Donkeyman” – sef un a oedd yn goruchwylio injan stêm fach ar long. Ysgrifennodd un papur newydd a nododd stori Amelia sut roedd ei thad allan o waith oherwydd ymyriad rhyfel y glo ac mai un rheswm pam yr aeth Amelia dramor oedd i gael arian i helpu ei theulu, yn enwedig ei mam, gan fod ei thad allan o waith.

I archwilio’r hanes hwn ymhellach, gweler llinell amser Gasgliad Amserlen LHDTC+ Cymru – LHDTQ Cymru a darllenwch Forbidden Lives: LGBT stories from Wales gan Norena Shopland i ddysgu mwy am fywyd Amelia a cherrig milltir pwysig eraill yn y rhanbarth.