Stori deuluol tair cenhedlaeth drwy gasgliad Archifau Gwent: Yr ail genhedlaeth

Dyma'r trydydd mewn cyfres o bostiadau blog gan Bec Howarth o Archifau Gwent.

Priododd George Klein a Jane Gibson yn 1853 a chawsant bump o blant – Sarah Jane (1854), Cornelia (1855), Helene (1857), George (1858) a Fanny (mam Amelia) yn 1861. Mae’n ymddangos bod parlys George wedi effeithio ar ei allu i ddod o hyd i waith oherwydd yn y flwyddyn ar ôl ei bwl o salwch derbyniwyd y teulu cyfan i wyrcws Undeb Casnewydd.

Llwyddais i ddod o hyd i Fanny a’i phedwar brawd a chwaer trwy gofnodion Wyrcws Casnewydd ar sawl achlysur. Ar ôl cael eu derbyn, mae’n ymddangos bod y teulu wedi cael ei rannu. Derbyniwyd chwaer hynaf Fanny, Sarah Jane, i Ben-y-Fal ar 27 Mehefin 1863 ac mae’n glir, o’i nodiadau yn ein casgliad, iddi fod ynglaf yno hyd ei marwolaeth yn 1904. Derbyniwyd dwy chwaer hŷn arall Fanny, Cornelia a Helene, i Ysgol Ddiwydiannol Caerllion – yr ysgol a oedd ynghlwm wrth wyrcws Casnewydd i blant a dderbyniwyd i’r wyrcws – ac yno yr arhoson nhw am chwech i saith mlynedd nes iddynt adael i ‘wasanaethu’ yn 1870 a 1871.

Roeddwn i’n gwybod bod casgliad am Ysgol Ddiwydiannol Caerllion gennym ar gadw hefyd, ac felly llwyddais i ddod o hyd i Cornelia a Helene, yn ogystal â Fanny a George. Derbyniwyd Fanny i Ysgol Ddiwydiannol Caerllion yn ddiweddarach, ar 29 Gorffennaf 1973, a bu yno hyd nes iddi adael i ‘wasanaethu’ ar 30 Awst 1875. Anfonwyd y tair chwaer at gyflogwyr gwahanol gan gynnwys Mr Rees, ffermwr yng Nghaerdydd, Mr Blackmore, llawfeddyg yng Nghwmbrân, a Mr Powell, casglwr yng Nghasnewydd. Fel Fanny, dim ond yn ddiweddarach y derbyniwyd brawd hŷn Fanny, George, a anwyd ym 1859, i Ysgol Ddiwydiannol Caerllion, ym mis Gorffennaf 1872.

Wrth i mi chwilio am George yn ein casgliad, dysgais, yn anffodus, fod gan ei stori ddiweddglo arbennig o drasig. Flwyddyn ar ôl cael ei dderbyn cafodd ei anfon i wasanaethu Mr Hunt, gwneuthurwr gwlanen yn Abercarn. Wythnos ar ôl cyrraedd y ffatri, ffrwydrodd Cronfa Ddŵr Cwm Carn yn dilyn llifogydd trwm yn yr ardal a bu farw naw o bobl yn y ffatri, gan gynnwys George. Cafodd y drasiedi hon sylw mewn sawl papur newydd lleol, ond mae’r cerdyn coffa ar gyfer y trychineb hwn ar gadw gennym yn ein casgliad.


Byddwn yn cyhoeddi rhan olaf y stori hon (‘Y drydedd genhedlaeth) ar 25.06.26