Stori deuluol tair cenhedlaeth drwy gasgliad Archifau Gwent: Y genhedlaeth gyntaf
Roedd fy mlog diwethaf yn gorffen gyda darganfod nodiadau achos Fanny Vella yn Seilam y Fenni a chyfeiriadau at ei thad, George Klein, a oedd hefyd yn glaf yn y Seilam. Ganed George yn 1827 yn Frankfurt, yr Almaen a chafodd ei dderbyn i Ben-y-Fal yn 1879 lle bu’n glaf hyd ei farwolaeth yn 1895.
Sefydlwyd Ysbyty Pen-y-Fal, Y Fenni, a elwir hefyd yn ‘Joint Counties Lunatic Asylum’, ym 1851 ac fe’i hariannwyd yn wreiddiol gan Sir Fynwy, Sir Faesyfed, Sir Frycheiniog a Sir Henffordd. Mae ei nodiadau derbyn yn dweud bod George wedi dioddef pwl o hemiplegia yn 1862, strôc fwy na thebyg, a’i fod wedi cael ei barlysu ar ochr dde ei gorff.

Mae’n ddiddorol nodi bod ei nodiadau hefyd yn cynnwys datganiad o ffynhonnell ddienw sy’n sôn am barlys George, ond hefyd yn dweud “he is a very violent man […] I have witnessed acts of violence committed by him”. Roedd natur dreisgar George yn arwyddocaol gan fod ei nodiadau’n nodi iddo gael ei dderbyn i Ben-y-Fal “from [the] town hall Newport being lodged there under a warranting for assaulting his wife”. Roedd celloedd yn sownd wrth Neuadd y Dref yng Nghasnewydd ac mae’n debygol fod George yn aros i fynd o flaen ei well pan gafodd ei dderbyn i Ben-y-Fal.
Cyn iddo gael ei dderbyn i Ben-y-Fal, mae’n ymddangos bod George wedi teithio gyda’i wraig, Jane Gibson, a’u pump o blant, i Gasnewydd, fwy na thebyg oherwydd y posibilrwydd o ddod o hyd i waith yn Nociau Casnewydd. Yng nghyfrifiad 1861 ac 1871, rhestrir galwedigaeth George fel “Ship Brothers Clerk, Ship Broker and Interpreter” ac ar yr adeg hon roedd y teulu’n byw yn agos iawn at Ddociau Casnewydd, ym Mhilgwenlli. Roedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg yn gyfnod o dwf enfawr i Bilgwenlli, a Chasnewydd, gyda’r galw cynyddol am borthladd lleol i gludo glo a haearn o gymoedd De Cymru. Yn ystod y ganrif hon ehangwyd Camlas Sir Fynwy i Gasnewydd a Philgwenlli, a datblygwyd nifer o ddociau yng Nghasnewydd – Doc y Dref (1842), Y Basn Mewnol (1858), Doc Alexandra (1875), a Doc y De (1893).

Byddwn yn cyhoeddi trydedd ran y stori hon (‘Yr ail genhedlaeth’) ar 24.06.26