Yng Nghymru, rydym wedi bod yn cydweithio ers blynyddoedd i chwalu’r rhwystrau i gadwedigaeth ddigidol drwy gynyddu capasiti a sgiliau. Cyhoeddwyd Polisi Cadwedigaeth Ddigidol Genedlaethol ar Ddiwrnod Cadwedigaeth Ddigidol y Byd 2017, gyda’r nod o sicrhau y byddai adnoddau digidol o werth parhaus yn cael eu dewis i’w cadw er mwyn parhau’n ddilys ac yn hygyrch yn y dyfodol, ac i godi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd cadwedigaeth ddigidol i randdeiliaid a’r rhai sy’n allweddol mewn gwneud penderfyniadau. Mae cynllun strategol newydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Llyfrgell i Gymru a’r Byd, 2021-26, yn ymrwymo i ddarparu arweiniad a chyngor ar gadwedigaeth, a chodi ymwybyddiaeth o’r peryglon o golli’r cof cenedlaethol yn yr oes ddigidol drwy ddatblygu perthynas â llyfrgelloedd, archifau, amgueddfeydd ac eraill yn y sector treftadaeth.
Yn 2020-21, derbyniwyd cyllid trwy Gronfa Trawsnewid Digidol Llywodraeth Leol Llywodraeth Cymru i ymgymryd â phrosiect i ystyried y materion sy’n codi o reoli cofnodion a gedwir o fewn systemau lle mae oes weithredol y system gryn dipyn yn llai na’r cofnodion sydd i’w rheoli. Nododd yr ymchwil, a gynhaliwyd gan KevinJBolton Ltd, fod capasiti a diffyg adnoddau yn faterion allweddol a oedd yn rhwystro cynnydd o ran ymgorffori cadwedigaeth ddigidol mewn cynllunio sefydliadol. Cyflwynodd yr adroddiad nifer o argymhellion, gan gynnwys datblygu gwaith cadwedigaeth ddigidol ymarferol, a cynyddu sgiliau a hyder drwy ddefnyddio adnoddau presennol i ddatblygu llifoedd gwaith a phrosesau syml ar gyfer casglu a chadw data digidol. Argymhellodd hefyd y dylid annog mwy o bartneriaid i defnyddio’r system cadwedigaeth ddigidol Archivematica a ddatblygwyd i Gyngor Archifau a Chofnodion Cymru gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru.
Mewn ymateb i’r argymhellion hyn, lansiwyd sesiynau ‘Diogelu’r Didau’ ym mis Mehefin 2021. Bwriad y sesiynau oedd cyflwyno cysyniadau cadwedigaeth ddigidol, ac i gynorthwyo gyda datblygu llifoedd gwaith a phrosesau. Dangoswyd y prosesau hyn trwy ddefnyddio Archivematica, gyda’i offer wedi’u hymgorffori, a thrwy lif gwaith wedi’i seilio ar system weithredu Windows 10, ac wedi’i osod gydag offer gyda rhyngwyneb defnyddiwr graffigol hawdd eu defnyddio megis AVG, Antivirus, Teracopy, AVP Fixity, Droid a Jhove.
Mae’r sesiynau, a fynychwyd gan staff y gwasanaeth archifau a chydweithwyr o sefydliadau eraill yn y sector treftadaeth ledled Cymru, wedi codi ymwybyddiaeth o gadwedigaeth ddigidol drwy sesiynau ymarferol a fideos. Mae’r ddogfennaeth a’r fideos o’r sesiynau hyn ar gael i bawb ar wefan Archifau Cymru. Mae’r sesiynau’n dangos bod chwalu’r rhwystrau i gadwraeth ddigidol yn dibynnu ar gydweithio, rhannu gwybodaeth a sgiliau, a rhoi cynnig arni!

Sally McInnes,
Cadeirydd, Grŵp Cadwedigaeth Ddigidol