Archifau Gorllewin Morgannwg, Post Blog Gwadd gan Kim Collis
Ar ddydd Llun 15 Ebrill y llynedd, cynhaliwyd arbrawf yn Archifau Gorllewin Morgannwg a allai gael effeithiau pellgyrhaeddol ar archifau yn y DU. Gwnaed cysylltiad byw rhwng meddalwedd catalogio archifau Archifau Gorllewin Morgannwg ac Archifau Richard Burton, Prifysgol Abertawe, gan brofi ei bod hi’n bosibl rhannu data cofrestru darllenwyr rhwng y ddwy ystorfa.

Y potensial sydd o fewn arbrawf 2013 yw ei fod wedi dangos ei bod hi’n bosibl i systemau catalogio archifau perchnogol CALM gysylltu’n fyw â’i gilydd a bod tocyn darllenydd archifau cenedlaethol amlswyddogaethol ar gyfer swyddfeydd cofnodion lleol wedi symud gam yn nes. I Axiell, y cwmni meddalwedd sy’n cynhyrchu CALM, roedd sgil-effaith ddefnyddiol yn eu hymdrechion i ddatblygu platfform meddalwedd ar gyfer catalog aml-ystorfa unedig.
Mae Archifau Gorllewin Morgannwg yn perthyn i gynllun tocynnau darllen Archifau Cymru ynghyd â Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro, Powys ac Archifau Richard Burton. Anfantais system docynnau bresennol Archifau Cymru, fel cynllun CARN (Rhwydwaith Ymchwil Archifau Sirol) llawer mwy sy’n gweithredu yn Lloegr a’r rhan fwyaf o weddill Cymru, yw bod yn rhaid derbyn tocynnau a gyhoeddir gan swyddfeydd fel rhai dilys mewn unrhyw leoliad heblaw eu swyddfa gyhoeddi wreiddiol heb unrhyw ffordd gyflym o wirio eu dilysrwydd.
Mae data tocynnau darllenwyr byw yn golygu y gallai defnyddio tocyn darllenydd archif fod yr un mor syml a rhwydd i’w ddilysu ryw ddydd â’r llu o gardiau plastig rydyn ni eisoes yn eu cario gyda ni o fanciau, siopau ac archfarchnadoedd. Bryd hynny, efallai y byddwn ni’n gobeithio y bydd y llu o docynnau darllenwyr archif y mae’n rhaid i ymchwilwyr teithiol eu cario o gwmpas ar eu teithiau o amgylch y DU yn dechrau lleihau. Rhaid i’r nod fod yn un cynllun tocynnau ar gyfer archifau awdurdodau lleol, prifysgolion ac arbenigol ledled y DU.
Fel rhan o grŵp gwaith Cymdeithas Archifau a Chofnodion y DU ac Iwerddon ar ddatblygu tocyn darllenydd CARN, rwy’n awyddus iawn yn bersonol y dylai pob gwlad gartref gael ei thocyn brand ei hun, yn debyg iawn i’r hyn yr ydym ar hyn o bryd yn cydnabod arian papur yr Alban fel arian cyfreithlon i’r de o’r ffin. Y peth clyfar fydd, er gwaethaf y brandio gwahanol, y byddant i gyd yn rhan o un gronfa ddata fyw o ddefnyddwyr archif cofrestredig yn y DU ac Iwerddon. Bydd hyn yn caniatáu i archifau’r Alban, Iwerddon ac wrth gwrs Cymru greu ymgyrchoedd marchnata ar gyfer eu gwasanaethau sy’n ymateb i hunaniaethau diwylliannol a dwyieithrwydd unigryw eu defnyddwyr eu hunain.