Archifau Cymru Byw – Y Diweddaraf am y Prosiect a’r Hyn Sydd i Ddod
Mae Tîm Prosiect Archifau Cymru Byw wedi bod yn brysur yn cyflwyno digwyddiadau ledled Cymru a chreu adnoddau yn ystod Cam 2 y prosiect (Ebrill – Hydref 2026).
Rydym hefyd yn falch iawn o gyhoeddi bod Cam 3 y prosiect bellach wedi dechrau, a bydd yn rhedeg o fis Tachwedd 2026 tan fis Mawrth 2027.
Dyma’r wybodaeth ddiweddaraf am y prosiect a mwy am yr hyn sydd i ddod.
Lansio Ffilmiau ac Adnoddau
Mae ein stori ni wedi ei chuddio o’n cwmpas, yn aros i gael ei hadrodd gan y rheini sy’n chwilfrydig i gloddio ychydig yn ddyfnach…
Fis diwethaf, lansiodd Tîm y Prosiect nifer o ffilmiau cyffrous ac adnoddau hawdd eu defnyddio wedi’u cynllunio i gefnogi cynulleidfaoedd newydd sy’n ymweld ag archifau am y tro cyntaf.
Gan weithio ar y cyd â’n gwneuthurwr ffilmiau gwych Paris Wharton (Videoninja) roedd Emma a James, ein swyddogion prosiectau, am greu cyfres o ffilmiau a fyddai’n ysbrydoli gwylwyr ar hyd pob cam o’u taith drwy’r archifau.
Bwriad ein ffilm gyntaf – ‘Beth fyddwch chi’n ei ddarganfod?‘ – yw ennyn chwilfrydedd ymysg pobl ifanc sydd heb unrhyw ymwybyddiaeth am archifau.
Mae ein hail ffilm – ‘Camu i Fyd Archifau – Canllaw Cyflym‘ – yn canolbwyntio ar y rhai y mae ganddynt ddiddordeb, ond nad ydynt yn gwybod sut i ddechrau arni.
Mae ein trydedd ffilm – ‘Eich Ffenestr ar y Byd‘ – ar gyfer pobl sydd am chwarae mwy o ran yn eu gwasanaeth archifau lleol. Mae’n dangos sut mae archifau fel Archifau Gogledd Ddwyrain Cymru a chydweithwyr fel yr Archif Ddarlledu Cymru yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn gweithio gyda’i gilydd i gysylltu cymunedau â’r gorffennol rydyn ni’n ei rhannu.
Diolch i bawb a helpodd gyda’r gwaith i greu’r ffilmiau, gan gynnwys staff, gwirfoddolwyr a’r rheini a wnaeth ymweld â Gwasanaeth Archifau Conwy, Archifau Gwent, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Archifau Gogledd Ddwyrain Cymru, ac Archif Ddarlledu Cymru. Pleser o’r mwyaf oedd gweithio gyda phob un ohonoch.

Ochr yn ochr â’r ffilmiau hyn, rydym hefyd wedi creu rhai adnoddau ychwanegol ar gyfer ‘Camu i Fyd Archifau’ i helpu defnyddwyr ar eu taith drwy’r archifau:
- Camu i Fyd Archifau – Canllaw Cyflym – Canllaw ymarferol ac estynedig i’r rheini sy’n defnyddio’r archifau am y tro cyntaf, drwy rannu’r archifau yn dri cham: 1. Beth sydd o ddiddordeb i chi? 2. Cysylltu â ni 3. Archwilio’r casgliadau. Mae’r fersiwn ddigidol ar gael ar-lein nawr; bydd gwasanaethau archifau yng Nghymru hefyd yn dderbyn copïau print cyn bo hir.
- Camu i Fyd Archifau – Rhestr Wirio i Ymwelwyr – Canllaw cychwynnol o ran paratoi, a’r hyn sydd ei angen arnoch pan fyddwch yn ymweld â gwasanaeth archifau.
Gallwch ddod o hyd i’r tair ffilm a’r adnoddau cysylltiedig yn ein Canllawiau Ymwelwyr diweddar ar wefan Archifau Cymru.
Digwyddiadau sydd i ddod – Archwilio Eich Archif: Dathlu Blwyddyn yn Y Storfa
Ymunwch â ni yn Abertawe ar 3 Rhagfyr am ddigwyddiad rhad ac am ddim gyda sgyrsiau hanes lleol, teithiau y tu ôl i’r llenni, a’r cyfle i wylio ein ffilmiau newydd am Archifau Cymru am y tro cyntaf yn gyhoeddus.
Ochr yn ochr â dau siaradwr gwych, Mónica Jato ac Alex Langlands, bydd Emma a James yn cyflwyno ein ffilmiau a’n hadnoddau newydd. Manylion llawn y digwyddiad yma.
Y Camau Nesaf
Fel rhan o Gam 3 y prosiect, rydym yn datblygu Banc Astudiaethau Achos a Llyfrgell Cynnwys fel y gall cydweithwyr ar draws y sector rannu arfer gorau a dysgu oddi wrth ei gilydd. Byddwn hefyd yn cynnal Arddangosfa Dros Dro yn dangos eitemau a gweithgareddau gan wasanaethau archifau ledled Cymru.
Edrychwn ymlaen at weithio gyda chydweithwyr wrth fynd ati i greu’r fath adnoddau a rennir. Diolch i bawb sydd wedi cefnogi’r prosiect hyd yma!

