Pe gofynnir i chi feddwl am rywbeth digrif, nid yw’n debygol mai archifau fyddai’r peth cyntaf i ddod i’ch meddwl. Ond os edrychwch chi yn ofalus, mae ein casgliadau yn llawn anecdotau doniol, cartwnau direidus, dychan gwleidyddol – ac, wrth gwrs, jôcs gwael! O gerdd Fanny Tuckfield o’r 19eg ganrif i gasgliad o folardiau mewn llyfryn Ystadau Prifysgol Abertawe – gallwn ni wastad ddod o hyd i rywbeth difyr yn ein casgliadau archif.
Un o’n casgliadau mwyaf doniol yw papurau newydd Undeb y Myfyrwyr. Maent yn cynnwys dros 700 o gyhoeddiadau a grëwyd gan fyfyrwyr, ac yn dyddio’n ôl i 1921. Mae’r casgliad yn cynnig mewnwelediad (boed yn ddifrifol neu’n ddychanol) i bob agwedd ar fywyd myfyrwyr, megis agweddau tuag at y Brifysgol, rhyw, rhywioldeb, ffasiwn, perthynas, gwleidyddiaeth a materion cyfoes, a’r gymuned gyfagos yn Abertawe.

Mae’r casgliad hwn yn cynnwys detholiad o gylchgronau RAG, sy’n dyddio rhwng 1928 a 1980, a werthwyd i gyd-fyfyrwyr, staff a’r gymuned leol yn ystod wythnos RAG. Roedd wythnos RAG (‘Raise and Give’) yn rhan ganolog o galendr Prifysgol y myfyrwyr ac yn ddigwyddiad cyffredin ar draws Prifysgolion yn y DU. Byddai myfyrwyr yn cymryd rhan mewn digwyddiadau doniol yn ystod yr wythnos i godi arian i elusennau.
Mae cylchgronau’r RAG yn cynnig cipolwg unigryw ar ddatblygiad hiwmor yn yr ugeinfed ganrif. Roedd cylchgronau’r 1920au a’r 30au yn aml yn gwneud hwyl ar ben y strwythur a dosbarthiadau cymdeithasol. Roeddynt yn cynnwys cyfres o ‘very social notes‘; tebyg iawn i’r clecs cymdeithasol a welir gan Lady Whistledown yn y gyfres Bridgerton, a phroblemau chwerthinllyd ar gyfer y modrybedd ofidiau preswyl, Countess Brylcream a Lady Dough-Cooper (weithiau Lady Cough-Dooper).

Ymdrinnir â pherthnasau mewn ffordd ysgafn a chwareus iawn, trwy gartwnau a cherddi comig – er eu bod yn aml yn cynnwys stereoteipiau a rhywiaeth. Er bod y 1920au yn cynnig rhyddid a mynegiant mwy rhamantus o’i gymharu â’r degawd cynt, gwgwyd ar y defnydd o iaith rywiol ac anlladrwydd mewn hiwmor. Ar y llaw arall wrth i ni deithio trwy’r degawdau, gwelwn fod yr hyn oedd yn amhriodol mewn un cyfnod, yn dod yn dderbyniol mewn un arall.
Gyda chwyldro diwylliannol y Swinging Sixties a dechrau’r mudiad myfyrwyr gwelwn dystiolaeth o fyfyrwyr yn herio barn a gwerthoedd y cenedlaethau o’u blaen. Mae’r hyn a ystyriwyd ar un adeg yn bynciau tabŵ bellach yn cael eu cydnabod a’u gwneud yn hwyl. Ym 1968 caiff cylchgrawn RAG ei adnabod fel cylchgrawn ‘SLAG’, ac mae’r cynnwys yn dod ychydig yn fwy beiddgar a phryfoclyd, wrth ddarparu tystiolaeth o ymwybyddiaeth gynyddol gan fyfyrwyr mewn gwleidyddiaeth, y cyfryngau a materion cyfoes.


Yn ogystal â’r elw o werthu cylchgronau’r RAG, roedd myfyrwyr Abertawe hefyd yn codi arian i elusennau trwy ddulliau eraill. Roedd digwyddiadau poblogaidd yn cynnwys gorymdeithiau o fflotiau drwy dref Abertawe, gyda’r myfyrwyr yn wisg ffansi a chasglu rhoddion o’r cyhoedd mewn bwcedi. Wedi’i ysbrydoli gan draddodiadau pantomeim, roedd y gorymdeithiau elusennol hyn yn cynnwys trawswisgo, comedi slapstic, a pharodïau o ddiwylliant poblogaidd – gan gynnwys dylanwadau o gomedi fel Monty Python.

Roedd styntiau, neu pranks hefyd yn boblogaidd ymysg y myfyrwyr yn ystod wythnos RAG trwy ddarparu llawer iawn o gyhoeddusrwydd, ac felly yn cynyddu’r rhoddion. Fodd bynnag, roedd myfyrwyr yn aml yn cael eu rhybuddio y gallai styntiau ffôl, answyddogol, a ‘wacky’ arwain at gyhoeddusrwydd gwael, beirniadaeth a drwgdeimlad gan y gymuned leol – ac weithiau – trafferth gyda’r gyfraith. Yn y clip yma, mae myfyriwr Economeg o’r 1960au, Sal Lalani, yn adrodd hanes un digwyddiad yn arbennig:-
Mae’r casgliadau o archifau sy’n ymwneud ag wythnos RAG ym Mhrifysgol Abertawe yn rhoi cipolwg unigryw i ni ar ddatblygiad hiwmor yn yr ugeinfed ganrif. Gwelwn fod yr hyn oedd yn briodol mewn un cyfnod, yn troi’n sarhaus ac yn amharchus yn un arall. Mae bob amser cysylltiad agos rhwng comedi a chyd-destun gwleidyddol a chymdeithasol y cyfnod: mae hyn yn esbonio pam y gallai rhai puns, jôcs a chartwnau wneud i ni chwerthin (neu ddim) yn y presennol. Wrth i’n gwerthoedd a’n diwylliant newid, mae hiwmor hefyd yn newid- ac felly mae unrhyw eitemau o hiwmor yn yr archifau yn werthfawr iawn er mwyn ddeall ein gorffennol.
Emily Hewitt,
Archifau Richard Burton, Prifysgol Abertawe