Tyfu barf neu beidio…mae’n gwestiwn mawr.

Ym 1969, edrychodd fy nhad yn y drych a phenderfynu nad oedd ei ên moel yn cyfleu’r ddelwedd gywir.  Roedd yn ddyn ifanc o hyd, yr unig athro gwrywaidd mewn Ysgol Ramadeg fawr i Ferched, ac roedd angen iddo gyfleu difrifoldeb ac awdurdod.  Tyfodd farf trwchus hynod.  Roedd yn caniatáu amrediad cyfyngedig o edrychiadau iddo gan bod llawer o’i wyneb yn anweladwy, ond rhestrwyd “llym”, “pefriol” a “difrifol” yn eu plith.  Gallai lyfnu ei farf mewn ffordd fyfyriol wrth edrych fel pe bai’n meddwl;  gallai ei frwsio allan ar achlysur arbennig, fel ei fod yn ymdebygu i dylluan fach, gan sicrhau effaith gomig.  Hwn oedd y gorchudd wyneb perffaith ar ei gyfer fel un a oedd yn dymuno bod yn fardd;  roedd hyd yn oed yn farf da ar gyfer ei wleidyddiaeth, ac roedd yn llawer tebycach i William Morris na Vladimir Lenin.  Cadwodd ei farf trwy gydol ei yrfa, ac yn ddiweddarach, fe’i galwyd yn Hen Ewythr Bwlgaria, ar ôl y Womble, ond roedd yn eithaf hoff o’r teitl.  Cafodd ei ddiffinio gan ei olwg farfog.

Mae barfau wedi cyfleu negeseuon am statws, proffesiynau a chysylltiad gwleidyddol eu perchnogion;  fe’u hystyriwyd yn wladgarol, yn chwyldroadol, yn arwydd o wrywdod, ac yn arwydd o dlodi.  Mae brenhinoedd a chardotwyr wedi tyfu barfau.  Beth mae hyn oll yn ei olygu?  A yw’r “Barf yn creu’r dyn?”.  Yn yr un modd â chymaint o gwestiynau mawr bywyd, dylem droi at y cofnod archifol am y persbectif hanesyddol.

Y Barf Canoloesol

Mae adroddiadau Cymraeg a Saesneg canoloesol yn rhoi statws uchel i’r barf, oherwydd yr arferai barf gael ei ystyried yn symbol o wrywdod a hunan-hunaniaeth ymhlith dynion.  Yn Syr Gawain a’r Marchog Gwyrdd, mae’r Marchog Gwyrdd yn sarhau dynion Llys Arthur ac yn eu galw yn “berdlez chylder” (plant di-farf).  Roedd barf, fel mwng llew, yn arwydd o wrywdod aeddfed.  Yn aml, roedd barddoniaeth Gymraeg ganoloesol yn bygwth “cywilydd ar fy marf” pe na bai gweithred ddewr yn cael ei chyflawni mewn ffordd amserol, ac mae triad cyfreithiol yn bodoli lle y nodir mai un o blith tri rheswm pam y gallai dyn guro ei wraig yw pe byddai hi’n dymuno cywilydd ar ei farf.  Roedd dweud ‘Meuyl ar dy farf’ (cywilydd ar dy farf) yn golygu bwrw sen ar statws cyhoeddus rhywun, ac efallai ar ei wrywdod.

Llun o barnwr gyda barf. O llawysgrifau Peniarth
Barnwr. O gopi Lladin o Gyfreithiau Hywel Dda,
Llawysgrifau Peniarth yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru © LLGCymru

Materion Barf Bayeux

A yw Tapestri Bayeux yn gollfarnol o flew ar wyneb rhywun?  Mae’r ffigurau bychain iawn yn y campwaith hwn yn dangos y Saeson Eingl-Sacsonaidd gyda barfau a mwstashis;  mae gan Frenin Edward y Cyffeswr farf llawn hyfryd.  Ond roedd y Saeson yn colli’r frwydr hon, ac rydym i fod i edmygu’r Peiriant Glân a Diwastraff Normanaidd gyda’i filwyr wedi’u hyfforddi yn dda a’u hwynebau heb flew.

Barf Oes Elisabeth

Mae barfau yn ymddangos yng ngwaith Shakespeare i ddynodi gwrywdod.  Efallai y bydd cystadleuwyr yn hwynebu ei gilydd “barf at farf”, mae dynion ifanc yn protestio na allant actio rhan y fenyw mewn drama gan bod ganddynt “farf sy’n dechrau tyfu”.  Mae gan hen ddynion nodedig farfau arian neu wyn.  Mae gan yr Ynad Heddwch “farf toriad ffurfiol” sy’n addas i’w statws.  Yn As You Like It, mae Rosalind yn nodi y gallai dyn y mae ei sylw yn cael ei dynnu gan gariad, adael i’w farf dyfu yn anniben – sefyllfa anfoddhaol iawn gan bod y barf yn ystod Oes Elisabeth yn cael ei dorri yn dwt ac yn cael ei bwyntio, ac yn aml, roedd mwstash bywiog ac wedi’i dyfu yn dda yn cyd-fynd â hwn.

Barfau yn erbyn Wigiau

Bu barfau mewn ffasiwn ac allan o ffasiwn yn ystod y canrifoedd dilynol.  Yn ystod y ddeunawfed ganrif, wrth i wigiau cywrain ddod yn ffasiynol, aeth barfau allan o ffasiwn.  Roedd cymysgedd o wallt artiffisial ar y pen a gwallt naturiol ar y wyneb yn ymddangos fel rhywbeth amhriodol a rhyfedd.  Cyfyngwyd ar y barf i’r dosbarth gweithiol i raddau helaeth yn ystod y ddeunawfed ganrif, yr oedd eu hincymau, eu galwedigaethau, ac efallai eu hawydd wedi peri iddynt wrthod y wig a gwisgo eu gwallt eu hunain.  Roedd syniadau ynghylch boneddigeiddrwydd yn ystod y ddeunawfed ganrif yn cynnwys glendid ymhlith ei rinweddau, ac nid oedd lle i farfau, a oedd yn cynnwys briwsion, grefi a chwain o bosibl, mewn cymdeithas wâr

Y Barf Milwrol

Mae agweddau tuag at farfau yn y lluoedd wedi newid dros y blynyddoedd, ond wrth bennu cyfyngiadau penodol ynghylch blew’r wyneb yn y fyddin, y Llynges ac yn ddiweddarach, yn yr awyrlu, gwnaethant ymddangosiad corfforol yn rhan o ddisgyblaeth filwrol.

Mae’r Llynges Brydeinig wastad wedi caniatáu barfau ond ers canol y 1850au, roedd yn rhaid i’r barfau fod yn rhai llawn ac roedd yn rhaid bod mwstash yn cyd-fynd â nhw hefyd.  Ni ddaeth blew’r wyneb yn gyffredin yn y Fyddin tan canol y bedwaredd ganrif ar bymtheg;  mae’n ymddangos mai dylanwadau diwylliannol y rhyfeloedd yn Asia ac India, ac ymarferoldeb y gaeaf oer yn Y Crimea oedd wedi caniatáu i’r barf ffynnu ar fochau milwrol yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg.  Effaith Barf Byddin Y Crimea oedd cychwyn ffasiwn am gael barfau trwchus mawr ymhlith dynion Prydain;  yn sydyn, roedd tyfu blew wyneb trwchus yn rhywbeth gwladgarol a deniadol.  Yn nes ymlaen, mynnodd Erthygl 1695 rheoliadau’r Fyddin y dylid eillio pob rhan o’r wyneb ac eithrio’r wefus uchaf, er na welwyd cydymffurfiaeth gyffredinol â’r gofyniad hwn.  Fodd bynnag, arweiniodd at ystod eang o fwstashis milwrol, yr oedd nifer o’r rhain yn cael eu copïo gan y boblogaeth sifil.  Roedd blew’r wyneb a oedd yn cael ei ffafrio gan yr awyrenwyr yn canolbwyntio ar y wefus uchaf hefyd, gan arwain at fwstashis corniog peilotiaid awyrennau ymladd yr Ail Rhyfel Byd.

O gasgliadau yn Archifdy Ceredigion © Archifdy Ceredigion Archives

Barfau mewn Ffasiwn

Yn dilyn cyfnod yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg pan oedd maint y barf yn cynrychioli’r peth amlycaf mewn ffasiwn barfau, daeth trefniant cynnal a chadw yn bwysicach, a’r nod oedd dangos rheolaeth o’ch barf.  Dylai’r barf Fictoraidd awgrymu gwrywdod hoenus wedi’i drimio (yn llythrennol) i gyd-fynd â galwadau cymdeithas.  Ni ddylai’r barf fod yn wyllt oni bai bod y perchennog yn dymuno cyfleu gwylltineb yn benodol – efallai y byddai beirdd ac arlunwyr yn dymuno cael barf gwyllt;  ond y prif arddull o ran barfau oedd un a oedd yn adlewyrchu’r ffaith bod ei berchennog yn wrywaidd, ond yn wâr.

Nifer o luniau du a gwyn o dynion gyda barfau.
O gasgliadau yn Archifdy Ceredigion © Archifdy Ceredigion Archives

Gwaith Cynnal a Chadw !

Er hyn, roedd hwn yn cynnwys dyluniadau y gallai cenhedlaeth heddiw eu gweld yn ecsentrig.

Locsys clust (neu Locsys Picadilly) oedd locsys clustiau gormodol, y byddent efallai yn cyrraedd yr ysgwyddau.  Roedd locsys mutton-chop yn golygu tyfu mwstash a oedd yn cysylltu â locsys clustiau moethus, ond gan gadw’r gên heb farf.

Yng nghefn gwlad Sir Aberteifi, roedd barf a oedd yn ymestyn o un glust i’r llall, a than y gên, yn ffasiynol, ond lle’r oedd rhan flaen y wyneb a safle y mwstash yn cael ei eillio.  Roedd yn dangos gallu i dyfu barf ond eto, rheoli ei baramedrau.

Yn ystod cyfnod mwy modern, rydym wedi gweld y barf gwrthsefydliadol, barf yr hipi a barf yr hipster – y mae pob un ohonynt yn cyfleu neges wahanol ac yn cael ei chymeradwyo yn frwdfrydig gan ei perchennog, gan beri syndod neu syfrdandod mewn cymdeithas ehangach.

Llun du a gwyn o dyn gyda barf
O gasgliadau yn Archifdy Ceredigion © Archifdy Ceredigion Archives

Y Barf Sefydliadol

Yn ystod y ddeunawfed a’r bedwaredd ganrif ar bymtheg, roedd sefydliadau fel carchardai a thlotai yn aml wedi dewis eillio pennau a barfau dynion.  Efallai yr oedd sawl rheswm dros hyn : pan oedd hi’n bwysig gallu adnabod yr unigolyn, efallai y byddai wyneb wedi’i eillio yn cynorthwyo wrth eu hadnabod (ond gweler isod) ;  efallai y byddai chwain a llau yn byw mewn gwallt ar y pen ac ar y wyneb, felly roedd ei waredu yn gwella’r hylendid yn y sefydliad;  efallai y byddai eillio yn gwella’r morâl trwy gadw carcharorion yn lân ac yn drwsiadus ; i’r gwrthwyneb, gallai gael ei ddefnyddio i danseilio’r ymdeimlad o’r hunan, gan erydu syniadau ynghylch unigolrwydd mewn sefydliad lle’r oedd rhywfaint o’r gosb yn ymwneud â dad-bersonoli.

Mae tystiolaeth yn awgrymu mai’r carchardai oedd wedi gorfodi eillio fwyaf – er bod cwestiynau yn codi ynghylch diogelwch caniatáu i garcharorion ddefnyddio raser at ddefnydd personol!  Mewn sefydliadau eraill, megis y Wyrcws, efallai y byddai barfau yn cael eu caniatáu pa baent yn cael eu cadw yn “hynod lân a thaclus”  roedd hyn yn caniatáu rhywfaint o hunan-fynegiant ac unigoliaeth i’r carcharor a oedd wedi cael ei wrthod iddo fel arall.

Y Barf Twyllodrus

Nododd papur newydd The Times 2 Medi 1873 bod barfau a locsys rhai carcharorion wedi cael eu heillio pan y’u trosglwyddwyd i Garchar Newgate a “dywedir na fyddai unrhyw un wedi gallu eu hadnabod ar ôl gwneud y newid hwn i’w hymddangosiad”.

Sylweddolodd y troseddwyr fanteision posibl y sefyllfa hon.  Gallai barf – neu eillio barf – fod yn ffordd hawdd o guddio pwy oeddent, gan drawsnewid a chuddio wyneb cyfarwydd.  Mewn system a oedd yn cosbi y sawl a oedd yn troseddu eto yn fwy na’r rhai a oedd yn troseddu am y tro cyntaf, roedd delwedd newydd o gymorth mawr, ac efallai y byddai barf newydd yn argyhoeddi’r awdurdodau eich bod yn rhywun gwahanol.

Roedd Charles Williams yn ffelwn barfog a anfonwyd i garchar Caerfyrddin ym 1865 a chofnodwyd ei ymddangosiad.  Ond ai Charles ydoedd mewn gwirionedd?  Pan oedd wedi treulio cyfnod yng Ngharchardai Caerfyrddin ac Aberteifi yn flaenorol, ei enw oedd Owen Pritchard, ac nid oedd barf ganddo.  Roedd wedi ymddangos yng Ngharchar Stafford hefyd, heb farf, gan alw ei hun yn William Davies.

I’r un perwyl, bu cyn garcharor yn rhannu atgofion ym 1928 gan nodi “ar yr adeg pan dynnwyd llun yr heddlu, roeddwn wedi bod yn tyfu barf am ychydig fisoedd.  Ar y ffordd i weld y ffotograffydd hefyd, cydiais mewn ychydig gerrig mân, eu rhoi yn fy ngheg a chrychu fy wyneb fel na fyddai fy mam fy hun wedi fy adnabod i hyd yn oed.”

Llun Charles Williams o Gofrestr y Felon Sir Gâr
© Welsh Legal History Society ( drwy ganiatâd Archifau Sir Gaerfyrddin)

Y Dyn Teuluol Barfog

Yn yr un modd ag yr oedd Duw y Tad yn aml yn cael ei bortreadu fel ffigwr barfog aeddfed yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, roedd y penteuluoedd Fictoraidd yn aml yn gwisgo barf, gan ddangos eu haeddfedrwydd, eu gwrywdod a difrifoldeb eu sefyllfa fel y penteulu.  Mae’n siŵr mai cynnydd y rasel ddiogelwch a wynebau di-flew yr actorion ffilm newydd tua dechrau’r ugeinfed ganrif a oedd wedi peri i’r tad barfog fynd allan o ffasiwn.

Llun o deulu oes Fictoriaidd
O gasgliadau yn Archifdy Ceredigion © Archifdy Ceredigion Archives

Barfau Gwaith

Mewn rhai proffesiynau, gallai blew wyneb gormodol fod yn berygl i’w berchennog (meddyliwch am beiriannau sy’n troi, amgylcheddau lle y gallai gwreichion hedfan, mannau lle’r oedd hi’n hanfodol eich bod yn gwisgo mwgwd tynn), ond mewn eraill, efallai y byddai’n cynnig haen inswleiddio, ffordd o ddiogelu rhag dwst a baw, neu’n syml, fel ffordd o arbed arian ac amser wrth eillio.  Yn aml, byddai dynion hŷn yn gadael i’w barfau dyfu, roedd hi’n fuddiol i’r rhai a oedd yn teithio ar y môr gadw eu barfau (mae’n amlwg bod gan ddefnyddio rasel hir yn ystod storm ei hanfanteision) ac yn aml, arferai offeiriaid ddefnyddio barfau i ychwanegu at eu difrifoldeb.

O gasgliadau yn Archifdy Ceredigion © Archifdy Ceredigion Archives
O gasgliadau yn Archifdy Ceredigion © Archifdy Ceredigion Archives

Barfau ym myd Chwaraeon

Un maes ym myd chwaraeon ym Mhrydain lle y gwelwyd y barf yn cael ei ffafrio oedd criced – a ymgnawdolwyd yn y ffordd fwyaf nodedig yn hwyr yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg gan W.G. Grace.  Ond ble mae wynebau barfog pêl-droedwyr cynnar?  Yn amlwg yn eu habsenoldeb;  blew’r wyneb a oedd yn cael ei ffafrio gan bêl-droedwyr oedd mwstash.

O gasgliadau yn Archifdy Ceredigion © Archifdy Ceredigion Archives

Y Barf Yfory

Beth yw dyfodol y barf?  Yn ystod yr unfed ganrif ar hugain ym Mhrydain, mae llawer mwy o amrywiaeth ddiwylliannol nag erioed o’r blaen, ac mae barfau yn rhan o’r stori, a gwelir toreth o farfau a ddylanwadir gan ddiwylliant, crefydd a ffasiwn.  Mae’n ymddangos y bydd y barf gyda ni am sawl blynedd i ddod, gan fod yn amlygiad allanol o’r unigolyn o fewn, ac yn ddatganiad i gymdeithas gyfan.  Ond rhaid cadw rhyw gofnod o’r barfau hyn yn yr archif er mwyn i’r oesoedd i ddod wybod sut yr oeddem yn teimlo am farfau yr unfed ganrif ar hugain – beth fyddai’r ffordd orau i’r proffesiwn bortreadu barfau heddiw?  Penderfynwch chi.

Helen Palmer, Archifydd y Sir
Archifdy Ceredigion Archives

Ffynonellau

ed. Larissa Tracey Flaying in the Pre-modern World Michael Livingston “Flayed Beards and Gendered Power in Arthurian Literature”

Alun Withey Concerning Beards. Facial hair, Health and Practice in England 1650-1900

John Bollard  ‘Meuyl ar uy Maryf : Shame and Honour in the Mabinogi’ Studia Celtica 2013

Daryl Green https://brewminate.com/beards-of-belonging/

https://www.riflemantours.co.uk/facial-hair-and-the-british-soldier/

https://thebeardedbrit.com/a-history-of-beards-part-five/

ed. L. Knaffla Policing and War in Europe. Richard Ireland “The felon and the angel copier”

Leave a Reply