Syniad gwych gan Archifau Swydd Caergrawnt oedd cael ‘Great Archives Bake Off’; ymgyrch cyfryngau cymdeithasol a oedd ein gwahodd ni i roi cynnig ar bobi trwy ddefnyddio ryseitiau o gasgliadau archifau. Dyma rhai o’r canlyniadau ymdrechion staff gwasanaethau archifau yng Nghymru.

Amanda Sweet, Archifau Ynys Môn: ‘Rwyf wedi dewis rysáit o lyfr nodiadau John Elias Jones o Bodelffra yn Rhosgoch o [c. 1889]. Gyda’r teitl “Pwdin Syr Watkin” ni allaf ond meddwl bod y pwdin hwn wedi ei enwi ar ôl Syr Watkin Williams Wynn a fu farw ym 1885.

Roedd y pwdin yn flasus, yn felys medal, ac yn fy atgoffa o bwdinau suet a gefais yn yr ysgol gynradd yn gynnar yn y 70au. ‘

Vicky Jones, Rheolwr Prosiect a Hyfforddiant ARCW: Defnyddiais wefan Papurau Newydd Cymru Llyfrgell Genedlaethol Cymru i chwilio am rysáit. Mae modd culhau’r chwiliad yn ôl dyddiad, felly dewisais ben-blwydd aelod o’r teulu a chwilias am ‘siocled’. Des i o hyd i’r rysáit ganlynol ar gyfer Cacen Siocled o’r ‘Brecon County Times Neath Gazette and General Advertiser for the Counties of Brecon Carmarthen Radnor Monmouth Glamorgan Cardigan Montgomery Hereford’ (Chwefror 1919).

Priodoliad Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Mae’r rysáit yn un eithaf syml, ac roedd popeth yn mynd yn dda nes i mi sylweddoli nad yw un wy yn ddigon ar gyfer gymaint o gynhwysion sych. Er gwaethaf ychwanegu sblash enfawr o laeth, fe edrychodd (a blasodd) y gacen fel bricsen! Roeddwn yn ddiolchgar am rywfaint o felyster wrth ychwanegu’r cwstard oer… yn y diwedd fe wnes i orffen gorffen y cwstard ar ei ben ei hun.

Sarah Thompson, Archifau Richard Burton: A Dreamy Cocktail Flan (O Gasgliad Maes Glo De Cymru yn Archifau Richard Burton). Cylchgrawn ‘The Miner’ oedd ffynhonnell ein cais i’r Great Archive Bake Off, dyma ‘Rysáit i demtio dyn llwglyd’ o ‘Our Women’s Page’.

Rhifyn Tachwedd 1965 o gylchgrawn ‘The Miner’ (cyfeirnod: SWCC/MND/9/3/1/5) 

Gellir creu’r pwdin diymdrech hwn mewn 3 cham hawdd heb lawer o ymdrech, gan ddefnyddio’r cynhwysion egsotig a chyffrous yn y llun cyntaf isod. Arllwys y ffrwythau allan o’r tun i mewn i grwst fflan, actifadwch y gel cyflym, ac arllwyswch dros ben y ffrwythau. Ychwanegwch ‘Dream Topping’ er mwyn addurno. Ac, voila! Fflan coctel ffrwythau blasus i demtio hyd yn oed y glöwr mwyaf barus!

Gallwch weld mwy gan y rhai a gymerodd ran trwy chwilio am #GreatArchiveBakeOff ar Instagram, Twitter a Facebook

Leave a Reply