Fel rhan o ddathliad World Photography Day 2020, dyma Rhiannon Griffiths, Archifau Gwent, yn sôn am gasgliad Helen Kegie.
Wedi’i adneuo yn Archifau Gwent yn 2014, mae gasgliad Helen Kegie MBE yn casgliad gwych o gofnodion hanes teulu yn ymwneud ag hynafiaid o Ynys Wyth a Chas-gwent, Sir Fynwy. Mae’r casgliad yn cynnwys ffotograffau, dyddiaduron, ffilmiau, llythyrau a dogfennau eraill.
Mae rhan o’r casgliad yn cynnwys wyth delwedd Ambroteip o’r 1860au. Phyllis Wyndham Thomas oedd perchennog rhain yn wreiddiol – roedd ei thad, Edmund Ballard, yn Ffotograffydd proffesiynol yng Nghas-gwent ar ddiwedd y 19eg a dechrau’r 20fed ganrif.
Tynnwyd un o’r ffotograffau gan Alfred Winter yn ei stiwdio yn 29 Bourke St. East, Melbourne, Awstralia. Mae cofnodion Llyfrgell y Wladwriaeth yn Victoria yn cadarnhau mae yna roedd e’n gweithio rhwng 1860-1864. Wrth i sawl unigolyn ymddangos mewn mwy nag un ffotograff, ymddengys eu bod yn set o ffotograffau teuluol a dynnwyd tua’r un amser yn Awstralia. Nid oes cysylltiad clir rhwng Awstralia a’r teulu Thomas / Ballard a oedd yn berchen arnynt; mae’n ymddangos yn debygol y daeth yr Ambroteipiau yn eiddo Ballard yn annibynnol.
Mae Ambroteip yn cael ei greu gan ddefnyddio amrywiad o’r broses plât gwlyb colodion, a datblygwyd gan Frederick Scott Archer mewn cydweithrediad â Peter Wickens Fry ym 1852. Mae Ambroteipiau wedi’u tan-amlygu’n fwriadol. Dim ond wrth roi cefndir tywyll, anhryloyw y tu ôl i’r gwydr gellir eu gweld. Defnyddiwyd fframiau cywrain i osgoi crafu’r haen colodion neu osgoi i’r haen colodion i dod i ffwrdd o’r gwydr. Mae pob Ambroteip yn unigryw gan na ellir gwneud copïau.
Wrth asesu Ambroteipiau casgliad Helen Kegie MBE, gwelsom fod pump ohonynt yn dioddef o effaith drych arian, sef staen metelaidd ar arwyneb y gwydr.
Gall llygryddion, tymereddau uchel a lleithder achosi i ronynnau arian mewn ffotograffau i ocsideiddio a mudo. Pan fydd ïonau arian yn cyrraedd arwyneb ffotograff maent yn ffurfio haen fetelaidd adlewyrchol ar y gwydr. Gall effaith drych arian hefyd fod o ganlyniad i’r ffotograffau dod i gysylltiad â deunyddiau o ansawdd gwael.
Er mwyn gwarchod yr Ambroteipiau, penderfynwyd y dylid glanhau’r fframiau’n drylwyr a chael gwared ar rywfaint o’r paent a’r glud anifeiliaid. Ar ôl y gwaith cadwraeth, tynnwyd llun digidol o bob Ambroteip, ei roi mewn ffolder sydd wedi’i wneud i fesur, a cadw’r ffolderi yma mewn blwch pwrpasol – bydd y pecynnu eilaidd hwn yn helpu rhag i lygryddion achosi difrod pellach.
Os hoffech ddarllen mwy am waith Helen Kegie MBE a’i chasgliad gallwch fynd i www.helenkegiecollection.org
Rhiannon Griffiths,
Archifau Gwent