Mae Archifdai ar draws Cymru yn paratoi i ddathlu eu gwasanaethau a’u casgliadau ar gyfer wythnos Archwilio Eich Archif a fydd eleni’n cael ei chynnal rhwng 23ain a 30ain Tachwedd. Bydd yr ymgyrch hon yn annog pobl i ddarganfod y straeon, y ffeithiau, y llefydd a’r bobl sydd wrth galon cymunedau Cymru.

Fel rhan o’r dathliadau, cynhaliodd Archifdy Ynys Môn brosiect un-dydd o’r enw “Ail-gylchu’r Gorffennol” gyda  Hannah Coates, gemydd o Ogledd Cymru a grŵp o blant o ardal Amlwch sy’n cael eu haddysgu gartref. Nod y prosiect oedd ymchwilio i, a dathlu perthynas agos Ynys Môn gyda’r môr a dwyn sylw at broblem plastig yn ein moroedd.

Gan dynnu ysbrydoliaeth o gofnodiadau morol a archifwyd yn ddiweddar, aeth y plant ati i ailgylchu ac ailddefnyddio deunyddiau a daflwyd a daethant o hyd i eitemau i greu dyluniadau deongliadol o longau cynnar a fu ar un amser yn croesi Môr Iwerddon.

Dywedodd Lia Griffiths, y Cydlynydd Dysgu ac Ymgysylltu “Wrth roi pwrpas newydd i wastraff plastig, mae’r plant wedi creu gwaith celf sydd nid yn unig yn hardd ond sydd hefyd yn ein hatgoffa am yr effaith a gaiff gwastraff ar ein planed a’i fywyd gwyllt”.

Bydd y darnau gorffenedig yn cael eu harddangos yng nghyntedd Archifdy Ynys Môn ym mis Ionawr 2020 ochr yn ochr â chopïau benthyg o’r mapiau, y cynlluniau a’r delweddau a fu’n ysbrydoliaeth iddynt.

Leave a Reply