Mae dwy ffilm newydd sy’n archwilio trawsffurfio tirwedd Cymru ac effaith hynny ar fywydau pobl, newydd eu rhyddhau gan Brosiect Cynefin i ddathlu Diwrnod Rhyngwladol Archifau ar 9 Mehefin.
Yn y 1840au fe gomisiynwyd cyfres o fapiau i gynorthwyo gyda’r dasg o drefnu taliadau degymau. Mae Mapiau’r Degwm yn crisialu darlun o Gymru gyfan, fwy neu lai, gan roi cipolwg ar ein cenedl oedd ar fin ei thrawsnewid. Mae Prosiect Cynefin, sy’n cael ei gefnogi gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri a Llywodraeth Cymru, yn mynd ati i warchod, digideiddio ac archwilio’r mapiau hyn er mwyn sicrhau bod y drysorfa o wybodaeth sydd ynddynt ar gael i unrhyw un, ar lein, am ddim.
Mae un o’r ffilmiau yn canolbwyntio ar rwydwaith y rheilffyrdd. Mae mapiau’r degwm yn dangos rhwydwaith y rheilffyrdd yn dechrau ymlwybro ar draws y dirwedd, ond roedd yn wahanol iawn i’n rhwydwaith ni ar gyfer teithwyr, sydd mor gyfarwydd heddiw. Arweiniodd y cysylltiadau newydd hyn at newidiadau yn hanes llawer o drefi. Ymhen amser byddai’r rheilffyrdd sy’n dechrau ymddangos ar y mapiau hyn yn cysylltu dociau Caerdydd â diwydiannau glo a dur Merthyr. Maes o law byddai’r berthynas hon yn trawsnewid Caerdydd o fod yn dref fach yn y 1880au i fod yn brifddinas Cymru.
Mae pobl a diwylliant Cymru wedi’u plethu’n dynn â’n tirwedd, ond mae ein perthynas â’r tir a’r ffordd rydym yn ei ddefnyddio wedi newid yn ddramatig ar draws y canrifoedd. Mae’r ffilm arall yn adrodd hanes newid ein diwylliant trwy gyfrwng yr enwau a roesom i leoedd a gallwn deithio’n ôl mewn amser i ddeall bywydau a phryderon pobl oedd yn byw ganrifoedd yn ôl.
Dywedodd Einion Gruffudd, Rheolwr Prosiect Cynefin: “Rydym wedi’n cyffroi wrth ryddhau’r fideos hyn ar Ddiwrnod Rhyngwladol Archifau. Mae’n ddiwrnod delfrydol i ddathlu treftadaeth ein cenedl a’r casgliadau hanesyddol bendigedig sydd i’w cael mewn archifau ar hyd a lled Cymru. Mae mapiau’r degwm yn adrodd hanes ein hynafiaid, ac yn eu tro’n cyfrannu at ein hunaniaeth bersonol ac ar y cyd yma yng Nghymru.”
Mae Prosiect Cynefin yn awyddus i gael pobl Cymru i gymryd rhan yn y dasg o drawsgrifio mapiau’r degwm a dogfennau dosrannu’r degwm sy’n enwi perchnogion tir, meddianwyr tir, defnydd tir ac enwau caeau. Bydd hyn o gymorth i greu dull arloesol a chynhwysfawr o chwilio ar y we, fel y gall pobl ei gyrchu a’i ddefnyddio i chwilio.
Meddai Helen Palmer, Cadeirydd, Cyngor Archifau a Chofnodion Cymru, “Mae Prosiect Cynefin yn un o lawer o enghreifftiau gwych o dimau archifau a chofnodion ledled Cymru yn cydweithio i ddarparu’r dogfennau gwerthfawr sy’n cynrychioli ein hanes ni oll, a hanes ein cenedl. Mae archifau yn helpu i adrodd hanes ein gorffennol a diogelu cof cenedl a hunaniaeth ddiwylliannol. I ddod o hyd i’ch archif agosaf a mwy am y gwaith y maent yn ei wneud, mae croeso i chi lawrlwytho copi o’n cyhoeddiad newydd – AGOR YR ARCHIFAU: Dathlu archifau yng Nghymru oddi wrth archifaucymru.org”