Bydd pedwar gwasanaeth archif yng Nghymru yn cael cyfanswm o dros £28,000 i wneud gwaith cadwraeth hanfodol ar eitemau yn ein casgliadau sy’n fregus neu wedi eu difrodi, diolch i bartneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru a’r Ymddiriedolaeth Cadwraeth Llawysgrifau Genedlaethol (the National Manuscripts Conservation Trust – NMCT).
Bydd y cyllid yn talu am ddiogelu eitemau na fu’n bosibl i bobl eu gweld oherwydd eu cyflwr, er mwyn sicrhau eu bod ar gael i ddefnyddwyr lleol, myfyrwyr ac ymchwilwyr.
Bydd y broses ddiogelu yn ei gwneud yn bosibl digideiddio’r dogfennau hyn, gan sicrhau bod treftadaeth ddiwylliannol Cymru ar gael yn ehangach i gynulleidfaoedd ar-lein o Gymru a thu hwnt.
Mae’r sefydliadau a’r prosiectau llwyddiannus yn cynnwys mapiau o gasgliad Ystâd y Penrhyn, sef cyfres ddi-dor o ddogfennau sy’n dystiolaeth unigryw a gwerthfawr o sut y cafodd yr ystâd hon yn y Gogledd ei rheoli yn ystod y 19eg ganrif.
Mae rhai o’r mapiau’n cyfeirio at faterion hanesyddol y cyfnod, er enghraifft, cafodd map Penrhyn/2219 ei gynhyrchu o ganlyniad i’r epidemig o golera ym Mangor yn yr 1850au. Mae felly’n adnodd ymchwil gwerthfawr ar gyfer deall y cyfnod arwyddocaol hwn yn hanes cymdeithasol y ddinas.
Cafodd papurau Ystâd y Penrhyn eu derbyn ar ran y genedl yn lle treth etifeddiant yn 2010, ac ystyrir eu bod o arwyddocâd eithriadol yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.
Casgliad arall a fydd yn cael ei ddiogelu yw casgliad o lyfrau ryseitiau a phresgripsiynau meddyginiaethol, sy’n adlewyrchu twf L. Rowland and Son Ltd (Numark), o fod yn fusnes lleol i fod yn un o’r busnesau pwysicaf a mwyaf uchel ei barch yn Wrecsam.
O ran Cymru, mae’r casgliad hwn yn bwysig fel cofnod manwl o ryseitiau meddyginiaethol a’u defnydd fel presgripsiynau. Mae’r llyfrau presgripsiynau yn enwedig yn adlewyrchu sut mae arferion yn newid, ac ym mha wahanol ffyrdd y bu’r ‘Druggist’ yn gwasanaethu’r gymuned. Maent yn cynnwys ryseitiau fel yr Horse Embrocation Cream, yr ‘Horse Pills’ a’r ‘Bug Powder’ nad oes unrhyw eglurhad ohonynt yn y llyfrau cynharaf, a phowdrau lemonêd a diod sinsir ym 1921.
Dywedodd y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, Ken Skates:
“Mae yna amrywiaeth ddiddorol o eitemau sy’n cael cyllid eleni, gan gynnwys eitemau o archif Gwaith Haearn Mynachlog Nedd, casgliad sydd yng nghofrestr Cof y Byd UNESCO, a chasgliadau Ystâd y Penrhyn, yr ystyriwyd eu bod o arwyddocâd eithriadol pan gawson nhw eu derbyn ar ran y genedl yn lle treth etifeddiant.
“Dw i wrth fy modd hefyd o allu helpu i ddiogelu dau gasgliad pwysig lleol, un ohonyn nhw’n cynnwys tystiolaeth ynghylch datblygiad Dinbych a’r llall yn cynnwys gwybodaeth hynod ddiddorol am waith fferyllydd ym 1759 yn Wrecsam.
“Hoffwn ddiolch i Ymddiriedolwyr NMCT am eu cymorth ac am helpu gwasanaethau archif yng Nghymru i sicrhau y bydd rhai o’n heitemau mwyaf arbennig ar gael i ni ac i genedlaethau’r dyfodol eu gwerthfawrogi a’u mwynhau.”
Ers 2008, mae’r NMCT, mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, wedi cefnogi 35 o brosiectau. Mae eitemau a chasgliadau o bwys cenedlaethol a rhyngwladol mewn archifau ledled Cymru, gan gynnwys llythyrau o’r ffosydd yn y Rhyfel Byd Cyntaf, achau teuluoedd a mapiau hanesyddol, wedi eu diogelu.
Bydd y gwaith cadwraeth yn hwyluso mynediad i’r eitemau hyn. Os byddant mewn cyflwr sefydlog, bydd yn bosibl cyffwrdd â nhw a’u hastudio, a bydd yn ddiogel eu digideiddio er mwyn iddynt fod ar gael ar-lein i gynulleidfa ehangach.
Dywedodd yr Arglwydd Egremont, Cadeirydd NMCT:
“Rydyn ni mor falch bod ein partneriaeth tymor hir gyda Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod mwy o lawysgrifau pwysig o Gymru nag erioed o’r blaen yn cael eu diogelu.
“Mae ein partneriaeth wedi helpu i ddenu cyllid arall, ac o ganlyniad, gyda’n gilydd, rydyn ni wedi buddsoddi dros £200,000 mewn gwaith i ddiogelu treftadaeth ysgrifenedig Cymru – y cyfan ohoni bellach ar gael i’r cyhoedd ei gweld diolch i’r cymorth rydyn ni wedi ei roi.”