Casgliad Ffotograffiaeth Ernie Husson: Cipio Ffordd o Fyw Cenedlaethau ym Mhowys

Emma Jones, Swyddog Cymorth Prosiect Digidol (Ernie Husson), Archifau Powys a Rheoli Gwybodaeth

Ernie Husson: y Gŵr y Tu ôl i’r Camera

Yn rhychwantu mwy na phedwar degawd, mae Casgliad Ffotograffiaeth Ernie Husson yn cynnig cofnod gweledol unigryw o fywyd ym Mhowys. O ddigwyddiadau cyhoeddus mawr i weithgareddau cymunedol bob dydd, mae’r ffotograffau’n cipio cenedlaethau o bobl leol ac yn helpu i gadw hanes cymdeithasol y sir ar gyfer y dyfodol.

Ganwyd Ernie Husson yn Ne Cymru yn yr 1940au a symudodd i Bowys ym 1968.

Ochr yn ochr â’i waith fel ffotonewyddiadurwr ar gyfer Brecon and Radnor Express, roedd Ernie a’i wraig, Pheone, yn rhedeg Oriel Marina, siop anrhegion a stiwdio ffotograffiaeth yn Llandrindod. Fe wnaethant ymddeol pan gaeodd yr oriel ar 31 Rhagfyr 2020, ar ôl dros hanner cant o flynyddoedd mewn busnes ac yn aelodau gweithgar o gymuned Powys. Yn 2020, derbyniodd Ernie wobr y Barcud Arian, sy’n cydnabod trigolion Powys sydd wedi cynnig gwasanaeth rhyfeddol i’r sir yn ystod eu hoes. Mae enw Ernie Husson yn gyfarwydd oherwydd ei rôl fel y ffotograffydd cyntaf yn lleoliad trychineb Aberfan, y drasiedi genedlaethol a welodd 116 o blant ac 28 o oedolion yn colli eu bywydau gan dirlithriad domen sborion glo. Fodd bynnag, mae pobl ar draws Powys hefyd yn debygol o gofio Ernie yn fwy personol, fel aelod cyfarwydd a gweithgar o’u cymuned leol.

Ernie a Pheone Husson, 2005. ©ArchifauPowys

Mae’n bosibl y bydd pobl leol yn cofio Ernie yn tynnu eu lluniau pasbort neu’n cyrraedd digwyddiadau ledled y sir gyda’i gamera a’i ysgol fach enwog.

Mae Ernie Husson yn enghraifft o ffotograffydd sydd wedi creu cynrychiolaeth hanesyddol, werthfawr a manwl o ddiwylliant mewn ardal drwy ddelwedd; catalog cynhwysfawr â ffocws o ddiwylliant a phobl leol Powys.

Ynglŷn â’r Casgliad

Carnifalau, Cyflwyniadau Siec, Dydd Gŵyl Dewi, Sul y Cofio, Sioe Frenhinol Cymru, Chwaraeon, Ysgolion, Sefydliad y Merched, Clwb Ffermwyr Ifanc, Rotari, Tangent, Bwrdd Crwn, Clwb 41, Soroptimist, Gŵyl Fictoria dyma RAI enghreifftiau yn unig o ddigwyddiadau a chlybiau y byddai’n tynnu lluniau ohonynt bob blwyddyn. Mae ei gasgliad o ddelweddau yn gapsiwl amser o sut mae digwyddiadau a phobl nid yn unig wedi esblygu, ond mewn sawl ffordd, sut maent wedi aros yr un fath.

Cneifio Defaid yn Sioe Frenhinol Cymru, 1979 a 2011. ©ArchifauPowys

Er mai hi yw’r sir fwyaf yng Nghymru yn ddaearyddol, mae Powys yn un o’r rhai mwyaf prin ei phoblogaeth. Mae ei chymunedau gwledig bach wedi’u lledaenu ar draws ardaloedd mawr o dir bryniog a mynyddig, a gall cysylltiadau trafnidiaeth cyfyngedig ei gwneud hi’n anodd i bobl mewn gwahanol rannau o’r sir gysylltu. Mae ffotograffau Ernie yn rhoi cofnod ar y cyd o dreftadaeth gymdeithasol Powys, gan gipio’r digwyddiadau, y grwpiau a’r gweithgareddau cymunedol sydd wedi dod â phobl at ei gilydd ar draws y sir dros amser.

Mae’r casgliad yn cynnwys ffotograffau o bobl yn bennaf. Daw llawer o’i werth gan bobl leol yn adnabod y rhai sydd yn y llun ac yn cynnig eu henwau, gan helpu i sicrhau nad yw unigolion a’u straeon yn mynd yn anghof.

Mynediad Digidol a’r Archif

Rhoddodd Ernie ei gasgliad i Archifau Powys yn 2024. Mae’n cynnwys 40 blwch o negatifau ffotograffig, 297 CD, ac wyth llyfr log sy’n rhoi manylion teitlau a dyddiadau pob set o ddelweddau o’r blynyddoedd rhwng 1969 a 2014.

Yn 2026, derbyniodd Archifau Powys gyllid grant Llywodraeth Cymru i gatalogio, cadw yn ddigidol, ail-becynnu a hyrwyddo’r casgliad, yn ogystal â phenodi archifydd i gyflawni’r gwaith.

3 o blith 8 Llyfr Log Negatifau Delweddau (PHUS/BR/LB) a blychau CD.

Oherwydd y nifer fawr o negatifau oedd angen eu sganio, fe’u hanfonwyd at sefydliad allanol sy’n arbenigo mewn casgliadau treftadaeth ar gyfer eu digido.

Ar adeg ysgrifennu, nid ydym wedi derbyn y negatifau yn ôl. Fodd bynnag, mae’r CDs wedi caniatáu inni wneud ymdrechion cadwraeth ar gyfer y blynyddoedd rhwng 2001 a 2014. Rydym wedi symud y delweddau CD i ddau yriant caled ac wedi creu catalog dros dro o’r hyn y mae pob CD yn ei gynnwys a sut maen nhw’n cymharu â’r wybodaeth yn y Llyfrau Log. Mae’r prif gatalog ar CALM, yn ôl y teitlau yn y Llyfrau Log, yn mynd rhagddo.

Rydym hefyd wedi bod yn defnyddio Preservica i amlyncu’r delweddau CD hynny ymhellach i leoliad arall yn unol â DPC RAM, dyma ein menter gyntaf i’r feddalwedd cadwraeth ddigidol fel archif, a’n prosiect digido a chadwraeth ddigidol ar raddfa fwy cyntaf. Ein prif nod ar gyfer y prosiect yw digido’r delweddau, cadwraeth y delweddau wedi’u digido hynny yn ddigidol, a hygyrchedd trwy ein catalog ar-lein, a Preservica. Yn fwy diweddar rydym wedi gallu cymhwyso metadata safonol EAD i’r holl ddelweddau wedi’u gwerthuso o 2001 i 2014 (y mae gennym 25,198 ohonynt) gyda thua 80,000 heb eu gwerthuso, yr ydym yn dal i gadw ar yriannau caled at ddiben mynediad.

Allgymorth Cyhoeddus

Mae ymgysylltu â phobl leol wedi bod yn rhan ganolog o’r prosiect. Drwy ymweliadau gan grwpiau cymunedol, gwelsom fod adnabod pobl yn y ffotograffau yn un o apeliadau cryfaf y casgliad. Gall gwybodaeth leol ein helpu i lenwi bylchau drwy adnabod y rhai sydd yn y llun, ac ar yr un pryd yn sicrhau bod ffrindiau, aelodau o’r teulu a chymdogion yn cael eu cofio. Rydym yn awyddus i roi cyfleoedd pellach i bobl gyfrannu’r wybodaeth hon.

Rydym wedi rhannu diweddariadau am y casgliad ar dudalen Facebook StoriPowys ac wedi arddangos ffotograffau mewn diwrnod agored a gynhaliwyd fel rhan o ddigwyddiad blynyddol Drysau Agored Cadw. Gwahoddwyd ymwelwyr i ysgrifennu enwau unrhyw un roeddent yn eu hadnabod ar ffurflenni a roddwyd o dan y delweddau. Cafwyd ymateb cadarnhaol iawn i’r gweithgaredd, a mynegodd ymwelwyr ddiddordeb mewn cyfleoedd pellach i helpu i adnabod pobl mewn ffotograffau hŷn.

Y bwrdd a grëwyd ar gyfer Drysau Agored CADW. Yn cynnwys lluniau o Glybiau, Chwaraeon, y Sioe Frenhinol, Ymweliadau Brenhinol, Pantomeimau, a Charnifalau.

Wrth symud ymlaen rydym yn bwriadu cynnal arddangosfa lawn o’r casgliad cyfan yn Amgueddfa Sir Faesyfed, Llandrindod ym mis Chwefror /Mawrth 2027.

Gwybodaeth Bellach