Tu Ôl i’r Llen: Archwilio Archifau Theatr yng Nghymru
Nod y prosiect hwn yw codi’r llen ar gasgliadau archif sydd gyda’i gilydd yn tystio i ddatblygiad perfformiadau theatrig a cherddorol Cymru o ganol yr 20fed ganrif hyd heddiw. Drwy gyllid a dderbyniwyd o grant consortiwm Datgelu Archifau yr Archifau Cenedlaethol, bydd casgliadau theatr arwyddocaol iawn yn cael eu catalogio dros y ddwy flynedd nesaf, a bydd amrywiaeth o weithgareddau ymgysylltu yn digwydd.
Mae hwn yn brosiect partneriaeth, dan arweiniad Archifau Gwent, gydag Archifau Ceredigion, Archifau Morgannwg, Archifau Gwynedd, Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac Archifau Gogledd-ddwyrain Cymru.
Bydd y prosiect hwn yn gwneud casgliadau archif mawr sy’n canolbwyntio ar gwmnïau a lleoliadau theatr ranbarthol allweddol yn fwy hygyrch. Daw’r pum casgliad archif craidd o Theatr Clwyd, Neuadd Dewi Sant Caerdydd, Theatr Gwynedd, Theatr Gwent, a Chasgliad Mike Pearson. Bydd y prosiect hefyd yn catalogio dau gasgliad ychwanegol: casgliad archif Canolfan Gelfyddydau Chapter yng Nghaerdydd, a chasgliad portffolio o Archifau Ceredigion, sy’n cynnwys rhaglenni ar gyfer digwyddiadau diwylliannol a gynhelir mewn amrywiaeth o leoliadau yn Aberystwyth.
Drwy gatalogio’r casgliadau hyn, a darparu mynediad ar-lein drwy gymhorthion canfod cynhwysfawr, bydd pobl yn gallu adnabod, cyrchu a defnyddio’r wybodaeth sydd ynddynt yn well. Bydd cyfleoedd hefyd i gymunedau lleol, gwirfoddolwyr, myfyrwyr, a phobl o bob oed gyfrannu ac ymgysylltu â’r archifau hyn drwy ystod o weithgareddau wedi’u cynllunio, gan gynnwys datblygu arddangosfeydd, cynnwys ar-lein, gweithdai a hanesion llafar. Bydd gwasanaethau archif ledled Cymru yn gallu dod ynghyd i adrodd stori theatr a pherfformio yn eu cymunedau lleol, yn rhanbarthol ac yn genedlaethol.







