Y Diemwnt Du a Thu Hwnt: Dwylo Cudd ac Iachau’r Tir
Adnodd Addysg Newydd gan Archifau Morgannwg

Gwasanaeth archifau wedi ei leoli yn ne ddwyrain Cymru yw Archifau Morgannwg. Rydym yn cadw dros 12km o gofnodion yn ein casgliad, sy’n dyddio yn ôl at y 12fed ganrif ac yn ymestyn hyd at y presennol. Mae’r cofnodion yma’n ymwneud a’r ardal ddaearyddol rydym yn ei wasanaethu sy’n cynnwys awdurdodau lleol Bro Morgannwg, Caerdydd, Merthyr Tudful, Pen-y-bont ar Ogwr, Rhondda Cynon Taf ac ardal Cwm Rhymni cynt o fewn Caerffili.
Mae ein casgliadau yn adlewyrchu hanes diwydiannol sylweddol Morgannwg. Dros y blynyddoedd diwethaf rydym wedi ymgymryd â phrosiectau catalogio mawr i wella mynediad i’r casgliadau yma, sy’n cynnwys cofnodion y Bwrdd Glo Cenedlaethol, Cymdeithas Porthladdoedd Prydain, a Chorfforaeth Datblygu Bae Caerdydd. Yn ogystal, yn 2023 derbyniwyd cyllid gan Gronfa Diwylliant Treftadaeth a Chwaraeon Cymru Wrth-hiliol i greu canllaw ymchwil ar gyfer olrhain hanes lleiafrifoedd ethnig yn ne Cymru.

Dros y flwyddyn ddiwethaf, yn enwedig, rydym wedi gweld cynnydd yn y nifer o ymweliadau ysgol a’r Archifau. Mae’r cwricwlwm newydd wedi creu galw cynyddol am adnoddau a pherthnasedd lleol. Mae athrawon yn cysylltu â ni yn chwilio am ffynonellau uniongyrchol a chyfleoedd sydd â chyswllt cryf a’u cynefin nhw, ynghyd ag adnoddau sy’n ymchwilio i hanesion ac anwybyddwyd yn aml yn y gorffennol, gan gynnwys hanesion bobl o dras y mwyafrif byd-eang.
Mewn ymateb i’r gofyn yma, ac fel modd o dynnu ynghyd y gwaith ar brosiectau cynt a’i gyflwyno i gynulleidfa iau, penderfynon ni creu adnodd addysg newydd i ysgolion, gyda’r nod o greu rhywbeth sydd yn addas o’r cychwyn at ddefnydd athrawon yn y dosbarth.
Cyflwynwyd cais llwyddiannus i Gronfa Diwylliant Cymru Wrth Hiliol Llywodraeth Cymru am gefnogaeth wnaeth caniatáu i ni gydweithio gyda’r addysgwyr Gwrth-hiliol Leon Andrews a Siân Smith, ynghyd ag ymchwilwyr ac arbenigwyr cymunedol, i greu’r adnodd yma.

Mae ‘Y Diemwnt Du a Thu Hwnt: Dwylo Cudd ac Iachau’r Tir’ yn adnodd arloesol sydd wedi’i gynllunio i ysbrydoli dysgwyr i archwilio gorffennol, presennol a dyfodol diwydiannol Cymru. Trwy lens cofnodion Morgannwg, mae’r deunydd yn datgelu cyfraniadau cudd ar draws pedair thema:
- Adnoddau Naturiol a Chyfoeth
- Arloesi a Moeseg
- Pobl a Lleoedd
- Iechyd ac Ymgyrchu Cymunedol
Rhan bwysig o’r adnodd hwn yw herio naratifau traddodiadol.
Mae’r thema Pobl a Lleoedd yn canolbwyntio ar rolau pobl o dras y mwyafrif byd-eang, menywod, plant ac anifeiliaid, ac mae wedi’i hategu gan ddau fideo pwrpasol gan yr ymchwilydd Myya Helm sy’n archwilio hanes glowyr Du. Mae’r ffilmiau hyn yn portreadu natur fyd-eang meysydd glo’r 19eg ganrif, gan ddangos sut y daeth y byd i Gymru yn yr un modd ag yr aeth Cymru i’r byd.

Mae’r thema Arloesi a Moeseg yn cwestiynu pwy sy’n cael ei ddathlu neu ei anwybyddu mewn hanes. Trwy archwilio’r ‘pam’ y tu ôl i’r naratifau hyn, mae dysgwyr yn datblygu lens feirniadol wrth archwilio’r angen am wneud yn siŵr bod arloesedd yn foesegol er mwyn sicrhau lles cymunedol yn y dyfodol.
Mae Iechyd ac Ymgyrchu Cymunedol yn dathlu’r gweithredu ar y cyd a luniodd genedl, gan dynnu sylw at ymarferwyr o dras y mwyafrif byd-eang a oedd o gwmpas cyn y GIG. Trwy fyfyrio ar gofebion, mae’n gwahodd dysgwyr i ddychmygu tirwedd gynhwysol o goffa sy’n anrhydeddu’r rhai sydd wedi cael eu hanwybyddu’n hanesyddol.
Mae’r gweithgareddau’n seiliedig ar brofiadau ac yn canolbwyntio ar themâu i wneud y mwyaf o ddysgu trawsddisgyblaethol a chynefin.
Mae’r anodd Ddwyieithog ar gael i’w lawrlwytho o wefan Archifau Morgannwg, sy’n hwyluso defnydd gan athrawon yn y dosbarth.
https://glamarchives.gov.uk/wp-content/uploads/2026/03/Coal-Booklet-Cymraeg.pdf
Hefyd, mae modd cynnal ymweliadau ar-y-cyd i Archifau Morgannwg, lle bydd cyfle i ddysgwyr cyd-weithio gydag archifyddion a defnyddio ffynonellau gwreiddiol,
Diolch i Lywodraeth Cymru am ddarparu’r Cyllid wnaeth caniatáu i ni greu’r adnodd yma trwy Gronfa Cymru Wrth-hiliol.