Ein Hoff Bethau – Zine Cymunedol Archifau Morgannwg

Rhian Diggins, Archifau Morgannwg

Diwrnod Archifau Rhyngwladol Hapus 2026! Heddiw rydym yn dathlu cyfoeth casgliadau archifol, a phwysigrwydd gwaith archifwyr a sefydliadau archifol ledled y byd. Yn y blog hwn, mae Rhian Diggins yn Archifau Morgannwg yn disgrifio sut y creodd staff yn Archifau Morgannwg ‘Zine’ i dynnu sylw at eu hoff eitemau yn yr Archifau.

Ym mis Mawrth 2026 cyhoeddodd Archifau Morgannwg ei zine cymunedol cyntaf, ‘Ein Hoff Bethau’.

Cyhoeddiad anfasnachol yw zine, fel arfer wedi ei greu a’i dosbarthu gan unigolyn, sy’n canolbwyntio ar ddiddordeb arbennig, neu sy’n fodd o fynegiant creadigol neu, yn aml, gweithredaeth.

Buom yn gweithio gyda Charles Johnston, ymgynghorydd creadigol gyda phrofiad o greu zines a chefndir mewn hanes ac ymchwil archifol, i greu ein zine. Cyfwelodd Charles ag aelodau o dîm staff Archifau Morgannwg, yn eu gwahodd i drafod eu hoff eitemau yn yr Archifau. Ymchwiliodd y sgyrsiau yma i pam yr oeddent yn hoff o’r eitemau yma, sut roeddent wedi eu defnyddio, a sut cyfrannodd yr eitemau at eu gwaith a’u hymchwil.

Fel rhan o’r broses yma, anogwyd cyfranogwyr i gyfrannu at y zine trwy ddarlunio, hefyd, os hoffent wneud, gan fynegi yn greadigol eu meddyliau am yr eitemau roeddent wedi dewis.

Trawsgrifiwyd y sgyrsiau gan Charles, ac fe’u defnyddiwyd fel sail i zine aml-dudalen, gyda thudalen neu mwy ar gyfer pob eitem unigol.

Ynghyd a detholiadau o’r sgyrsiau, mae’r zine yn cynnwys delweddau o’r eitemau a ddewiswyd a gwaith celf wedi ysbrydoli gan eu cynnwys a’r themâu a phwysleisiwyd can y bobol a’u dewisodd.

Mae’r zine hefyd yn cynnwys canllaw mynediad i Archifau Morgannwg, sy’n cynnig cyfarwyddiadau cam wrth gam i’r rhai nad ydynt efallai wedi defnyddio archifau o’r blaen, er mwyn eu hannog i deimlo fod ganddyn nhw’r hawl i wneud.

Mae’r eitemau dewiswyd gan staff yn cynnwys cerdyn post o weithiwr cyflegrau yn y Rhyfel Byd Cyntaf, dyfrlliwiau a darluniau gan yr artist Mary Traynor, llyfr cofnodion Pwyllgor Tŷ Gwallgofdy Morgannwg, cofrestri olion bysedd a ffotograffau Heddlu Caerdydd, collfarnau yn erbyn pobl ifanc, a darluniau William Burges ar gyfer Castell Caerdydd.

Mae’r zine ar gael yn ddigidol ac fel copi printiedig. Mae’r zine digidol wedi ei rhannu drwy gyfryngau cymdeithasol sydd wedi eu creu i fwrw goleuni ar zines ac ar waith creadigol, lle mae ar gael i’w lawrlwytho am ddim: https://manmadezines.itch.io/our-favourite-objects-the-glamorgan-archive-community-zine

Mae hefyd ar gael ar wefan Archifau Morgannwg: https://glamarchives.gov.uk/ein-hoff-bethau-zine-cymunedol-archifau-morgannwg/?lang=cy

Gosodwyd copïau printiedig yn Archifau Morgannwg ac yn lleoliadau creadigol a hybiau cymunedol, caffis ac ym mhrifysgolion. Diflannodd y copïau cyntaf o Archifau Morgannwg mor gyflym fel bod rhaid gwneud ailargraffiad yn fuan wedyn!

Cymerwch gip ar i zine er mwyn darganfod mwy am Ein Hoff Bethau.