Lansiad ymgyrch Archwilio Eich Archif 2025 yn Archifau Gogledd Ddwyrain Cymru, Penarlâg

Cyngor Archifau a Chofnodion Cymru

Ar ddydd Gwener, y 28ain o Dachwedd, lansiwyd ymgyrch Archwilio eich Archif 2026 gan Jack Sargent AS, y Gweinidog dros Ddiwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol, yn Archifau Gogledd Ddwyrain Cymru yn Penarlâg. Thema’r dathliadau yn Hawarden oedd Cadwraeth – swyddogaeth hanfodol a chraidd o’n gwasanaethau archifau sy’n sicrhau bod cofnodion yn goroesi yn y tymor hir, ac yn parhau i fod yn hygyrch ac yn ddilys ar gyfer cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol.

Cynhelir yr ymgyrch flynyddol eleni rhwng y 29ain o Dachwedd a’r 7fed o Ragfyr 2025. Bydd archifdai ledled Cymru yn dathlu ac yn arddangos y gorau o archifau a gwasanaethau archif, ac yn annog ymwelwyr i ddarganfod y straeon, y ffeithiau, y lleoedd a’r bobl sydd wrth wraidd cymunedau Cymru. Fel rhan o’r dathliadau, bydd llawer o archifdai yn cynnal gweithgareddau arbennig ac yn croesawu’r cyhoedd i brofi, deall a chymryd balchder yn y cyfoeth a’r amrywiaeth o ddeunydd sydd ganddynt.

Yn ogystal ag ymweld â’ch gwasanaeth archifau lleol, gallwch gymryd rhan yn ymgyrch Archwilio Eich Archiftrwy’r cyfryngau cymdeithasol, gyda chyfleoedd i rannu eich straeon a’ch lluniau yn seiliedig ar y themâu dyddiol gan ddefnyddio’r hashnodau hyn:

Dydd Sadwrn 29 Tachwedd: #EYAConservation
Dydd Sul 30 Tachwedd: #EYABeauty
Dydd Llun 1 Rhagfyr: #EYAMedieval
Dydd Mawrth 2 Rhagfyr: #EYASilence
Dydd Mercher 3 Rhagfyr: #EYAPets
Dydd Iau 4 Rhagfyr: #EYADigital
Dydd Gwener 5 Rhagfyr: #EYAInclusion
Dydd Sadwrn 6 Rhagfyr: #EYAAnniversaries
Dydd Sul 6 Rhagfyr: #EYAYourArchives

Nod ymgyrch Archwilio Eich Archifyw annog ymwelwyr i archwilio’r casgliadau archifol rhyfeddol sy’n cael eu cadw gan sefydliadau – cyhoeddus a phreifat – ledled y DU ac Iwerddon. Mae’r ymgyrch yn eiddo i’r sector ei hun ac yn cael ei chyflwyno gan ystod eang o bartneriaid a rhanddeiliaid, gan gynnwys Yr Archifau Cenedlaethol (y DU – The National Archives) a’r Cymdeithas Archifau a Chofnodion (Archives and Records Association – y DU ac Iwerddon), ac fe’i cefnogir yng Nghymru gan Lywodraeth Cymru.

I ddechrau archwilio, pam na wnewch chi ymweld â’ch gwasanaeth archifau lleol?