Helo bawb, Jen sydd yma, Swyddog Prosiect Gwirfoddoli Digidol ar gyfer CrowdCymru.
Dyma ddiweddariad ar gynnydd ein prosiect gwirfoddoli gydag archifau digidol. Ariennir y prosiect gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol ac mae’n cael ei rhedeg ar y cyd gan Archifdy Gwent, Archifau Morgannwg, ac Archifau & Casgliadau Arbennig Prifysgol Caerdydd. Dyma’r pedwerydd blog yn y gyfres; i ddarllen y rhai blaenorol, defnyddiwch y blwch chwilio uchod i chwilio am ‘CrowdCymru’.
Wel nawr, am gyfnod prysur rydyn ni wedi’i gael yn ddiweddar!
Yn gyntaf, mae’r prosiect wedi cael ei hymestyn. Roedd 12 mis y prosiect i fod i ddod i ben yn ganol mis Gorffennaf, ond gwnaethom gais llwyddiannus am estyniad a byddwn nawr yn parhau i weithio ar y prosiect tan ddiwedd mis Tachwedd. Rydym i gyd wrth ein bodd gyda’r newyddion hyn, ac mae gyda ni cynlluniau mawr am y misoedd nesaf.
Mae’r gwaith ar Archif Lenyddol Edward Thomas wedi’i gwblhau yn barod, gyda’r gwirfoddolwyr yn trawsgrifio bron i 500 o’i lythyrau mewn ychydig o fisoedd! Ar hyn o bryd maent yn trawsgrifio naw dyddiadur o gyfnod y rhyfel a ysgrifennwyd gan Priscilla Scott-Ellis. Yn ferch i’r 8fed Arglwydd Howard de Walden, magwyd Priscilla ym moethusrwydd Belgrave Square, Llundain a Chastell y Waun, Wrecsam. Fel y soniwyd yn ein blog ddiwethaf, yr hyn sy’n ei gwneud yn eithriadol yw iddi wirfoddoli fel nyrs yn ystod Rhyfel Cartref Sbaen a’r Ail Ryfel Byd. Ar ben hynny, tra cyhoeddwyd ei dyddiaduron Rhyfel Cartref Sbaen ar ôl ei marwolaeth ym 1995 (‘The Chances of Death: Diary of the Spanish Civil War’), ni chyhoeddwyd ei dyddiaduron yr Ail Ryfel Byd, felly mae’r prosiect trawsgrifio yma yn bwysig iawn.

Mae ein gwirfoddolwyr hefyd yn gweithio trwy ddau gasgliad ffotograffig, i dagio a disgrifio’r delweddau. Mae Casgliad Cymunedol Dociau Caerdydd yn cynnwys portreadau o unigolion a grwpiau gan gynnwys menywod a phlant, o gymuned dociau Caerdydd, a dynnwyd rhwng 1900-1920. Roedd yr ardal hon yn cael ei hadnabod yn gyffredin fel “Tiger Bay” a daeth yn un o gymunedau amlddiwylliannol cyntaf y DU gyda phobl o dros 50 o wledydd, gan gynnwys Somalia, Yemen a Gwlad Groeg. Ymgartrefasant nhw yma erbyn dechrau’r Rhyfel Byd Cyntaf, gan weithio yn y dociau a diwydiannau cysylltiedig.
Mae Archif Clwb Rygbi ac Athletau Casnewydd yn cofnodi hanes y clwb ac yn cynnwys delweddau o grwpiau a thimau, aelodau’r pwyllgor, diwrnodau chwaraeon, a delweddau o’r 1900au cynnar o bobl yn sglefrio ar lynnoedd wedi’u rhewi, a phlymio i Gamlas y 14 Loc!

Mae cymuned #CrowdCymru yn tyfu ac mae gennym bellach 90 o wirfoddolwyr. Ym mis Mehefin fe wnaethom ddathlu Wythnos Gwirfoddolwyr gyda chyfres o ddigwyddiadau gymdeithasu ar-lein. Cyflwynais ar y prosiect yng Nghyfarfod Cyffredinol Blynyddol Cymdeithas Hynafiaethol Sir Fynwy a gynhaliwyd yn Eglwys Sant Steffan a St. Tathan yng Nghaerwent, lleoliad hardd iawn.
Cynhaliwyd gweithdai gwych yng Nghaerdydd a threfnwyd gan Wythnos Gweithredu Dementia. Treuliais y diwrnod gyda chynrychiolwyr o Gymdeithas Alzheimers Cymru, Tŷ Hapus, Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, Dewis Cymru ac Age Cymru, yn dysgu am y gwaith y maent yn ei wneud. Roeddwn hefyd yn gallu rhyngweithio â rhai grwpiau o gartrefi gofal trwy ddangos ffotograffau iddynt a gofyn cwestiynau. Siaradais ag un ddynes oedrannus iawn; roedd gyda hi golwg gwael ac roedd rhaid i mi ddisgrifio un o ffotograffau Cymuned Dociau Caerdydd iddi. Disgleiriodd ei hwyneb yn syth, a dechreuodd siarad am sut roedd hi’n cofio’r mewnfudwyr a gyrhaeddodd Tiger Bay, a sut y cawsant eu hystyried yn wahanol yn y ffordd yr oeddent yn gwisgo a siarad. Roedd hi’n cofio am elyniaeth ac amheuaeth, ond bod ei mam wedi mynd allan o’i ffordd i fod yn gyfeillgar ac yn garedig iddyn nhw, gan ddweud wrthi am wneud yr un peth ym maes chwarae’r ysgol. Roedd hynny’n uchafbwynt y dydd mewn gwirionedd.

Mynychais Ddiwrnod Treftadaeth Insole Court ym mis Gorffennaf. Roedd llawer o chwilfrydedd yn yr holl ffotograffau ar fy mwrdd, a chofrestrodd ambell wirfoddolwr newydd hefyd. Cerddais o gwmpas y plasty a’r gerddi hyfryd a dysgais hanes hynod o ddiddorol y teulu Insole.
Recordiais fy podledaid cyntaf! Mae’r Gymdeithas Archifau a Chofnodion wedi recordio llawer o gyfweliadau diddorol gan bobl sy’n gweithio gydag archifau ar gyfer eu cyfres Out the Box. Fel rhan o Wythnos Gwirfoddolwyr, fe wnaethon nhw recordio sawl pennod am wirfoddoli, ac roedd Crowd Cymru yn un ohonynt. Gallwch wrando ar y bennod yma.
Ac yn olaf, ydych chi’n cofio fi’n sôn wrthych chi am Liz Davis yn fy blog ddiwethaf? Mae Liz yn un o’n gwirfoddolwyr a gafodd ei hysbrydoli gymaint gan gasgliadau Edward Thomas a Priscilla Scott-Ellis nes iddi eu cynnwys yn ei gwaith ar gyfer MA mewn Celf Gain yng Ngholeg Celf Henffordd [HCA]. Mae gwirfoddoli i Crowd Cymru wedi bod yn rhan o’i harchwiliad o’r archif a’r cof, a’r ffordd y mae bywydau’r gorffennol yn cael eu cadw a’u cofnodi. Gwahoddodd Liz fi i ymuno â hi i gyflwyno ei gwaith yn gyfarfod lleol Sefydliad y Merched [Grŵp Llandenny a’r Cylch]. Ar ôl i mi egluro am y prosiect i’r grŵp, cyflwynodd Liz ei phrosiect celf fel un a daeth yn fyw drwy weithio ar brosiect Crowd Cymru, a trwy edrych yn ôl ar ei harchif deuluol bersonol. Gan gyfuno’r profiad gwirfoddoli hwn a cheisio adrodd straeon ei theulu ei hun trwy greu archif personol, penderfynodd greu cyfres o gylchgronau ‘zines’. Roedd zines yn ffordd o hunan-gyhoeddi a ddefnyddiwyd drwy’r ganrif ddiwethaf gan gefnogwyr ac anarchwyr, ffeministiaid, ac eraill i gyfathrebu diddordebau tebyg.

Daeth ei gwaith celf, ei diddordeb mewn archifau, a chyfranogiad gyda Crowd Cymru at ei gilydd i greu ei zine cyntaf, wedi’i ysbrydoli gan ddeunydd o fywyd Edward Thomas [a’i wraig, Helen] a Priscilla Scott-Ellis. Thema’r noson oedd ‘O Archif i Zine’ ac roedd yn ymdrin â’r hyn yr oedd Liz wedi’i ddysgu o wirfoddoli; yn benodol am awduron y gwaith a gynhwysir yn y casgliadau yr oedd hi wedi’u trawsgrifio, ac arferion yr archifyddion sy’n dewis, cadw a diogelu’r gwrthrychau ffisegol hyn. Gwahoddodd y grŵp i ystyried y broses benderfynu ynghylch pa ddeunydd sy’n gwneud archif delfrydol, a buom yn archwilio creu zine fel dull amgen o rhannu ein hatgofion, ein casgliadau personol ein hunain, ein ffotograffau ac ephemera teuluol.

Roedd Liz wedi creu tri zine hardd maint A4 ac mae un ohonyn nhw’n adrodd hanes ei neiniau a theidiau mamol a thadol. Er i ni edrych trwy dudalennau’r, fe ddywedodd hi eu straeon wrthym ni. Wedyn, roedd gweithdy lle rhoddwyd taflen bapur i bob person gydag wyth cwestiwn i’w hateb ynghylch un o’n neiniau. Ar ôl i ni ateb y cwestiwn cyntaf, cafodd y dudalen yna ei phlygu fel bod yr ateb I’r cwestiwn hwnnw wedi’i guddio, ac fe wnaethon ni basio’r ddalen i’r person ar ein chwith. Yna fe wnaethom ateb yr ail gwestiwn [o’r ddalen o bapur a roddwyd i ni gan y person hwnnw ar y dde] plygu’r dudalen fel bod yr ateb hwnnw wedi’i guddio a’i basio ymlaen, a pharhaodd hyn nes bod yr holl gwestiynau wedi’u hateb. Ar ôl ei gwblhau, roedd 27 dalen yr un yn cynnwys wyth ateb o sawl ffynhonnell. Eglurodd Liz mai nod yr ymarfer hwn oedd creu deunydd archifol newydd ar gyfer ei zine nesaf a fydd yn seiliedig ar y syniad o “nain gyffredinol”. Cafodd gwaith Liz ei arddangos hefyd fel rhan o Arddangosfa Futures Unknown [i ddathlu’r MA mewn Celfyddyd Gain HCA] yn Oriel Canwood ym mis Gorffennaf 2023.
Mae’n anodd rhoi mewn geiriau pa mor gyffrous, balch ac emosiynol roeddwn i’n teimlo ar y noson. Roedd Liz a minnau wedi bod yn trafod ei gwaith am wythnosau dros ebost, ond dim ond drwy wrando arni yn siarad a’i gwylio hi’n rhyngweithio â’r grŵp y llwyddais i werthfawrogi cwmpas a dyfnder ei phrosiect yn llawn. Fe’m hysbrydolodd i feddwl am fy archif deuluol fy hun, a rhai prosiectau creadigol y gallwn eu gweithredu yn y dyfodol.
Jennifer Evans
Digital Volunteering Project Officer / Swyddog Prosiect Gwirfoddoli Digidol
Trydar/X: CrowdCymru
Ffôn: 01495 742450
Ebost: jennifer.evans@gwentarchives.gov.uk
Mae’r blog hwn gan Jennifer Evans dan drwydded Creative Commons Attribution 4.0 International License.