Wel, mae hi wedi bod yn gyfnod prysur iawn ers i mi ysgrifennu’r blog rhagarweiniol nôl ym mis Awst! [gallwch ei ddarllen yma] Yn gyntaf, rydw i wedi bod yn gweithio’n galed i hybu’r prosiect. Erbyn nawr, mae gwybodaeth amdani ar wefannau Wythnos Addysg Oedolion Cymru, Mis Hanes Pobl Dduon Cymru a’r Digital Preservation Coalition. Rydym hefyd wedi cael sylw ar-lein trwy Newyddion S4C, a bydd gwybodaeth am y prosiect yn ymddangos yn rhifyn mis Ionawr o gylchgrawn Who Do You Think You Are?

Ar y 7fed o Dachwedd, rhoddais gyflwyniad yn Fforwm Cyngor Archifau a Chofnodion Cymru a chefais adborth cadarnhaol iawn, a thipyn o ddiddordeb yn #CrowdCymru. Treuliais i’r diwrnod cyfan yno i wrando ar y cyflwyniadau eraill, gan gynnwys rhai hynod o ysbrydoledig gan Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru, Amgueddfa Ceredigion, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, ac Archifau Gogledd Ddwyrain Cymru.

Byddaf yn rhoi cyflwyniadau ar-lein i Gymunedau Digidol Cymru, myfyrwyr y cyrsiau Rheoli Archifau a Chofnodion ac Achyddiaeth Prifysgol Aberystwyth, a chyfres sgyrsiau ar-lein Archifau Gwent. Byddaf hefyd yn teithio tipyn yn ystod y dyddiau nesaf ar gyfer ymgyrch Archwilio Eich Archif; mi wnes i fynychu digwyddiad yn Archifau Morgannwg ar 30ain o Dachwedd, a byddaf yn Archifdy Sir Gaerfyrddin ar 6ed o Ragfyr. Efallai y gwelaf i chi yno!

Erbyn nawr mae gyda ni gyfrif Twitter, sef @CrowdCymru, i hyrwyddo ein gweithgareddau, amlygu casgliadau, ac i roi cefnogaeth ar gyfer archifau, llyfrgelloedd, amgueddfeydd, a chyfrifon treftadaeth eraill. Hyd yn hyn, rydym wedi trydar am Fis Hanes Pobl Dduon, Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd, Wythnos Addysg Oedolion, Diwrnod Cadwraeth Ddigidol y Byd, Diwrnod y Cofio, a diwrnod #ILoveToWrite. Mi roedd un postiad gyda delwedd o Gasgliad Cymunedol Ardal Doc Caerdydd yn boblogaidd iawn. Roedd yn bortread o ŵr ifanc o’r enw Samuel Sawyer a oedd wedi’i gwisgo’n arbennig o smart, a chafodd y llun ei hoffi gan 169 o bobl, ei ail-drydar 95 weithiau, a hynny wedi creu 116K o argraffiadau.

Samuel Sawyer, Casgliad Ffotograffau Cymunedol Doc Caerdydd, Archifau Morgannwg

Mae partneriaid y prosiect wedi penderfynu lansio’r platfform digidol ym mis Ionawr 2023. Mae’r rhan fwyaf o bobl yn brysur amser hyn o’r flwyddyn, ac mae’n debygol byddent yn fwy awyddus i ddechrau rhywbeth newydd ar ddechrau’r Flwyddyn Newydd, yn hytrach nag ar ddiwedd yr un yma.

Felly, pa gasgliadau digidol fydd ein gwirfoddolwyr yn gweithio arnynt ym mis Ionawr? Bydd hyn rhywfaint o wledd symudol; Wrth i’r prosiect fynd yn ei flaen, gall rhai casgliadau ymddangos am ychydig ac yna cael eu dileu os nad oes diddordeb ynddynt, a’i ddisodli gyda rhywbeth newydd.

Daw’r tri chasgliad cyntaf i weithio arnynt fydd o Archifau a Chasgliadau Arbennig Prifysgol Caerdydd.  Yn gyntaf, Archif Edward Thomas, un o’r beirdd rhyfel llai adnabyddus a laddwyd wrth ymladd ar ddiwrnod cyntaf Brwydr y Somme, a sonnir amdano yn y blog cyntaf. Mae’r ail gasgliad yn cynnwys dyddiaduron amser rhyfel yr Anrhydeddus Priscilla Scott-Ellis (1916-1983); merch o’r 8fed Arglwydd Howard de Walden. Magwyd Priscilla yn Sgwâr Belgrave ac yng Nghastell y Waun. Yn ystod Rhyfel Cartref Sbaen, cefnogodd Fyddin y Cenedlaetholwyr a oedd yn ymladd llywodraeth y Ffrynt Poblogaidd fel nyrs wirfoddol.

Llythyr o Archif Edward Thomas,
Archifau a Chasgliadau Arbennig Prifysgol Caerdydd

Mae ei dyddiaduron yn adrodd ar y cyfnod o 1934 hyd at 1941 ac mae’r cofnodion hefyd yn ymdrin â byw yn Llundain yn ystod y Blitz. Bydd y ddau gasgliad ar gael i’w drawsgrifio, tra bydd y trydydd casgliad ar gael i’w tagio a’i adnabod. Hwn yw Archif Sefydliadol Prifysgol Caerdydd, sef cof gweledol o fyfyrwyr a staff gyda chofnodion sy’n mynd mor bell yn ôl ag 1883, ac sy’n gynnwys bron i 1000 o ffotograffau yn siartio bywyd prifysgol. Mae’r casgliad yn cynnwys adrannau ar staff, myfyrwyr, ysgolion academaidd, a’r tu mewn a’r tu allan i adeiladau.

Myfyriwr ym Mhrifysgol Caerdydd yn y 1970au
Archifau a Chasgliadau Arbennig Prifysgol Caerdydd

Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at gychwyn gyda’r gwirfoddolwyr yn y Flwyddyn Newydd, byddaf yn anfon ffurflenni cofrestru yn gyntaf ac yna trefnu rhai sesiynau hyfforddiant ar gyfer grwpiau bach, lle gallaf dangos y platfform ac egluro tasgau gam wrth gam.

Yn y cyfamser, dymunaf dymor Nadolig hapus iawn i chi!

Jennifer Evans
Swyddog Prosiect Gwirfoddoli Digidol       
Trydar: @CrowdCymru
Ffôn: 01495 742450
E-bost: jennifer.evans@gwentarchives.gov.uk

Mae’r blog hwn gan Jennifer Evans dan drwydded Creative Commons Attribution 4.0 International License.

Leave a Reply