Diwrnod Cadwedigaeth Ddigidol y Byd yw hi heddiw, sef chyfle i dynnu sylw at y gwaith a wneir gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru i sicrhau bod cynnwys digidol yn cael ei gadw ar gyfer y dyfodol. Er mwyn codi ymwybyddiaeth gyffredinol o’r materion sydd yn ymwneud â mynediad parhaus at gynnwys digidol (sy’n effeithio ar ddata personol yn ogystal â data sefydliadol), hoffwn gyflwyno Wilff i chi.

Ar ôl eistedd ar silff ers blynyddoedd lawer yn gwylio’r proses o gatalogio archifol, mae Wilff erbyn nawr yn gyfarwydd â chasgliadau ffisegol. Ond yn ddiweddar mae wedi ymddiddori mewn cynnwys digidol, a sut y bydd hyn yn hygyrch yn y dyfodol. O fewn y cyd-destun hwn, gofynnodd Wilff i ffrind fynd o gwmpas y Llyfrgell gydag ef i ffilmio gweithgareddau cadwedigaeth ddigidol y Llyfrgell. Mae’r ffilm ar gael i’w gweld yma:

Yn dilyn ei daith o gwmpas y Llyfrgell, roedd Wilff eisiau darganfod mwy am sut y gallai sicrhau bod y cynnwys digidol yn cael ei gadw’n ddiogel. Darganfu fod y Llyfrgell wedi ennill gwobr y Glymblaid Cadwedigaeth Ddigidol am ei rhaglen hyfforddiant Dysgu trwy wneud: meithrin sgiliau cadwedigaeth ddigidol yng Nghymru. Cyflwynwyd y wobr gan Rwydwaith Treftadaeth Ddigidol yr Iseldiroedd fel cydnabyddiaeth o werth gwaith y Llyfrgell wrth ddarparu hyfforddiant a gwella sgiliau i staff ledled Cymru. Trwy astudio’r adnoddau’r rhaglen, mae Wilff wedi datblygu sgiliau newydd a gall wirio cynnwys am firysau, nodi fformatau ffeil, gwirio nad yw data wedi’i lygru, a chreu metadata. Mae’r adnoddau i wneud y camau hyn ar gael i bawb eu gweld a’u defnyddio yma: https://archifau.cymru/pecyn-offer-staff/

Mwynhaodd Wilff ei anturiaethau yn y Llyfrgell, ond mae bellach yn ôl ar ei silff arferol. Mae’n deall erbyn nawr na ellir gadael cynnwys digidol heb gymryd camau bellach i’w gadw’n hygyrch a ddiogel. Os hoffech unrhyw help neu gyngor am gadwedigaeth ddigidol, cysylltwch â gofyn@llyfrgell.cymru <mailto:gofyn@llyfrgell.cymru>.

Sally McInnes, Pennaeth Cynnwys Unigryw a Chyfoes
Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Leave a Reply