Mae Cymru’n genedl amlddiwylliannol, lle mae pobl o lawer o wahanol gefndiroedd diwylliannol wedi byw ochr yn ochr â’i gilydd ers cenedlaethau.  Fodd bynnag, er bod eu straeon i’w gweld mewn llu o gasgliadau, gan gynnwys dogfennau, ffotograffau, lluniau, arteffactau a deunydd clyweledol, mae profiadau bywyd pobl Ddu, Asiaidd ac ethnig leiafrifol yn aml yn cael eu tangynrychioli.

Dyfarnwyd cyllid i Gyngor Archifau a Chofnodion Cymru yn ddiweddar i gwblhau cam cyntaf prosiect i wella ymwybyddiaeth o, a mynediad at, gasgliadau diwylliannol i bobl o fewn cymunedau Pobl Dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig. Y nod yw creu sylfaen gref ar gyfer datblygu casgliadau gyda’r cymunedau hynny, gan sicrhau bod eu profiadau yn rhan annatod o’n cofnod cenedlaethol.

Mae cam cyntaf y prosiect hwn bellach wedi’i gwblhau, a’r canlyniad yw pecyn cymorth pwrpasol i gefnogi’r sector yn ei waith gyda’i gasgliadau a’i gymunedau. Mae’r pecyn yn cynnwys methodoleg arolwg i nodi deunydd o ystorfeydd archifol, casgliadau arbennig llyfrgelloedd ac amgueddfeydd sy’n adlewyrchu profiadau byw pobl Dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig ledled Cymru, a map ffordd, sy’n nodi rhaglen o weithgarwch yn y dyfodol.

Bydd yr allbynnau hyn yn dwyn ynghyd arfer gorau wrth weithio gyda chasgliadau a chymunedau, ac yn fan cychwyn ar gyfer rhaglen waith ehangach a fydd yn galluogi pobl i ddysgu am dreftadaeth ddiwylliannol unigryw, amrywiol a gwerthfawr Cymru ac i ddatgelu lleisiau newydd a straeon heb eu hadrodd.

Gallwch ddarllen mwy am y prosiect a lawrlwytho methodoleg y Pecyn Cymorth a’r Arolwg o’r dudalen ganlynol:

Datgelu Profiadau Bywyd Pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol yng Nghymru

Leave a Reply