Dathlu Archwilio Eich Archif
Bydd ymgyrch Archwilio Eich Archif yn digwydd rhwng 10fed a 16eg Tachwedd 2014 mewn archifau ledled y DU. Yng Nghymru mae archifau yn dathlu trwy gynnal cyfres o ddigwyddiadau, gweithgareddau a gweithdai i dynnu sylw at y gwasanaethau gwych y mae archifau yn eu cynnig.
Oeddech chi’n gwybod y gallwch chi gefnogi’r ŵyl ar-lein trwy ledaenu’r gair am ba mor wych yw archifau ar Facebook a Twitter? Yn ystod yr wythnos byddwn yn defnyddio cyfres o hashnodau i annog sgyrsiau am archifau ac am y straeon y mae pobl sy’n eu defnyddio wedi’u darganfod.
Ymunwch!
Drwy gydol yr ymgyrch byddwn yn defnyddio #archwilioarchifau. Fodd bynnag, gallwch gymryd rhan mewn sgyrsiau archif penodol bob dydd yn ystod yr ymgyrch gan ddefnyddio’r hashnodau canlynol:
Dydd Llun 10fed Tachwedd – #DiwrnodYnMywyd – persbectif mewnol ar ddiwrnod nodweddiadol mewn archif. Heddiw yw’r diwrnod i staff yr archif ddatgelu’r holl wybodaeth am eu gwaith o ddydd i ddydd mewn archif. Byddai ffotograffau a straeon yn wych!
Dydd Mawrth 11eg Tachwedd – #ArchifauRhyfelByd1 – Cyfle i gofio a choffáu hynafiaid y Rhyfel Byd Cyntaf ac i archwilio straeon a chofnodion a gedwir mewn casgliadau archif
Dydd Mercher 12fed Tachwedd – #holiarchifwyr- Cyfle unigryw i’r cyhoedd gysylltu’n uniongyrchol â’r arbenigwyr a chael atebion i’w cwestiynau!
Dydd Iau 13eg Tachwedd – #archiveselfies – Creu a rhannu eich hunluniau archif a’ch hunluniau hanesyddol a geir yn yr archifau
Dydd Gwener 14eg Tachwedd – #anifeiliaidarchif – Straeon, lluniau ac anifeiliaid anwes anifeiliaid!
Dydd Sadwrn 15fed a Dydd Sul 16eg Tachwedd – Rwyf wrth fy modd yn #archwilioarchifau oherwydd… – llenwch y bwlch a gadewch i ni wybod pam rydych chi wrth eich bodd yn archwilio eich archif leol!
Gallwch hefyd gofrestru ar gyfer y National Thunderclap sef trydariad torfol a fydd yn cael ei anfon allan ar 10 Tachwedd i nodi dechrau’r ymgyrch.
Dewch o hyd i ni ar Twitter a Facebook:
– @archiveswales / @archifaucymru
– Facebook.com/archiveswales / Facebook.com/archifaucymru
Gallwch hefyd ddilyn yr ymgyrch Genedlaethol ar Twitter drwy: @explorearchives