Gwobr UNESCO i Gasgliad Archifau Gorllewin Morgannwg

Mae’n rhestr ddethol sy’n cynnwys Llyfr Dydd y Farn, Gwarant Marwolaeth Siarl I a phapurau Winston Churchill. Nawr, mae goroesiad unigryw 8,000 o luniadau peirianneg o Waith Haearn Abaty Nedd, sydd wedi’u cadw yn Archifau Gorllewin Morgannwg, wedi’u cydnabod trwy eu hysgrifennu yng Nghofrestr Genedlaethol y Deyrnas Unedig o Raglen Cof y Byd UNESCO, rhestr o dreftadaeth ddogfennol sydd ag arwyddocâd diwylliannol penodol i’r DU. Dyfarnwyd y wobr ar 19 Mehefin mewn derbyniad yng Nghaeredin a gynhaliwyd gan Gyngor Archifau’r Alban a Phwyllgor Cof y Byd UNESCO y DU.

Mae’r lluniadau yn y casgliad yn dyddio o 1792 i 1882 ac maent yn fanwl ac wedi’u llunio’n gain, gan adlewyrchu’r safonau gwaith uchel yr oedd y ffowndri yn enwog amdanynt. Mae’r casgliad yn cynnwys cynlluniau ar gyfer peiriannau pwmpio mwyngloddiau, ar gyfer llongau a locomotifau rheilffordd. Roedd Cwmni Haearn Abaty Nedd ar flaen y gad o ran datblygu peiriannau trawst ar gyfer maes glo De Cymru, ac adeiladodd ei locomotif rheilffordd cyntaf ym 1829 i’w ddefnyddio ar dramffordd Sirhywi yn Sir Fynwy a’i beiriannau morol cyntaf ym 1822 ar gyfer y llong stemar ‘Glamorgan’.

Dywedodd Kim Collis, Archifydd y Sir, “Mae’r casgliad yn oroesiad prin sy’n dangos cyfraniad De Cymru at chwyldro diwydiannol Prydain ac at ledaeniad technoleg mwyngloddio Prydain i weddill y byd. Bydd yr arysgrif UNESCO yn rhoi cyhoeddusrwydd ehangach i’r casgliad i gynulleidfa genedlaethol a rhyngwladol.”