Rolls a Rolls Royce Charles Stewart yn Archifau Gwent
Mae Archifau Gwent yn dal casgliad o bapurau teulu Rolls sy’n cynnwys dogfennau amrywiol gan gynnwys cyfrifon cartref, ffotograffau, printiau a phaentiadau a hyd yn oed fwydlenni dyddiol ar gyfer eu tŷ yr Hendre yn Llangattock-Vibon-Avel. Wedi’u cynnwys yn y casgliad hwn mae dogfennau sy’n ymwneud â Charles Stewart Rolls, un o sylfaenwyr Rolls Royce Ltd.

Mae gohebiaeth rhwng Charles a’i dad John Allen Rolls (Barwn Llangattock) yn datgelu diddordeb Charles mewn peiriannau a’r ‘autocar’. Ym 1893, yn un ar bymtheg oed, gofynnodd Charles i’w dad am beiriant petrol ‘Otto’ ar gyfer y Nadolig, ac ysgrifennodd ym 1896 am ei daith ‘hyfryd’ mewn autocar ffrind pan lwyddodd i gyrraedd ugain milltir yr awr. Erbyn mis Hydref yr un flwyddyn roedd Charles wedi arbed digon o arian i brynu ei gar ei hun, Peugot Phaeton, ym Mharis.

Erbyn 1903 roedd gan Charles ei gwmni ei hun C.S. Rolls & Co. yn gwerthu ceir yn Llundain, ond cyfarfu â Frederick Henry Royce, gwneuthurwr ceir, ym 1904 a dechrau gwerthu ceir gyda’r enw Rolls Royce.

Rhwng Tachwedd 1905 a Medi 1906 cofrestrwyd tri deg o geir Rolls Royce yn Sir Fynwy, naill ai gan Charles ei hun neu berchnogion amrywiol o bob cwr o’r wlad. Ffurfiwyd Rolls Royce Ltd. ddechrau 1906 ond bu’n rhedeg ar yr un pryd â delwriaeth ceir Charles tan o leiaf Hydref 1906 pan ysgrifennodd Charles y gallai’r cwmnïau gael eu huno. Bu farw Charles Rolls mewn damwain hedfan ym 1910.
Am ragor o wybodaeth am eich gwasanaeth archifau lleol ewch i www.archiveswales.org