Archwiliwch Eich Archif
Ydych chi’n ystyried ymchwilio i’ch coeden deulu? Beth am edrych ar hanes eich cartref neu’ch cymuned? Efallai eich bod chi newydd ddechrau cwrs ac angen help gyda phrosiect. Beth bynnag y bo, pam na ddechreuwch archwilio’ch archif heddiw.
Mae ymgyrch Archwilio Eich Archif yn eich annog i ddarganfod y straeon, y ffeithiau, y lleoedd a’r bobl sydd wrth wraidd eich cymunedau. Mae archifau ledled y DU ac Iwerddon yn cymryd rhan i bwysleisio gwerth archifau i gymdeithas ac amlygu’r amrywiaeth gyfoethog o gynnwys sy’n cael ei ddal, ei gadw a’i wneud ar gael i ddefnyddwyr.
I ddathlu’r ymgyrch; mae digwyddiadau arbennig a blychau stori i arddangos y casgliadau wedi’u trefnu mewn archifau ledled Gogledd Cymru.
Cynhaliodd Archifdy Sir y Fflint ddigwyddiad lle gallech ddysgu crefft hynafol rhwymo llyfrau a gwneud eich llyfr nodiadau hardd eich hun wedi’i rwymo â llaw. Cynhaliodd Archifau Sir Ddinbych ddigwyddiad ‘Hanes Teulu i ddechreuwyr’ am ddim yn Llyfrgell Llanelwy ddydd Llun 2 Rhagfyr. Mae blychau stori yn seiliedig ar lyfr herodraeth yr 17eg ganrif wedi’u cynhyrchu a’u gosod mewn llyfrgelloedd ledled y sir.
Dywedodd Archifydd Sir Ddinbych, Sarah Winning, “Mae’r blychau’n llawn ffeithiau diddorol am herodraeth, templedi i greu eich arfbais eich hun a darnau o’r llyfr wedi’i baentio ei hun. Mae’r blychau ar gael i’w gweld yn llyfrgelloedd Corwen, Llangollen, Dinbych, Rhuddlan, Y Rhyl, Rhuthun, Llanelwy ac ym Mhrestatyn pan fyddant yn agor yn eu lleoliad newydd ar 25 Tachwedd.”
Mae o y tu ôl i chi! Ewch i ymweld ag archifau Wrecsam lle byddwch chi’n dod o hyd i flwch stori am bantomeimiau hanesyddol Wrecsam. Dywed Joy Thomas, Llyfrgellydd Astudiaethau Lleol sydd wedi helpu i greu’r blwch stori “I mi, mae’r casgliad bach hwn o ffotograffau, posteri a rhaglenni yn adrodd stori ddiddorol am adloniant theatrig yn Wrecsam yn yr 20fed Ganrif.”
Ymwelodd Cwmni Pantomeim Wrecsam a’r Cylch â’r archifau i weld y blwch stori.
Y mis Chwefror hwn bydd y Cwmni’n llwyfannu ‘Babes in the Wood with Robin Hood’ yn Neuadd William Aston, rhwng Chwefror 22 a 28ain. Fel arall, dewch i weld perfformiad rhyngweithiol i’r teulu cyfan ddydd Sadwrn 4ydd Ionawr yn Archifau Wrecsam. Chwiliwch am bosau a jôcs i ddarganfod pam na ddylai Wrecsam byth anghofio Walter Roberts.
Sylwodd John Chambers, Prif Weithredwr, Cymdeithas Archifau a Chofnodion (DU ac Iwerddon):
“Bydd Archwilio Eich Archif yn newid y gêm go iawn i’r sector. Wrth i archifau ym mhob rhan o’r DU ac Iwerddon ddod at ei gilydd fel erioed o’r blaen i gyfathrebu â’r cyhoedd, mae gennym gyfle gwirioneddol i ysbrydoli pobl nad ydynt eto wedi cerdded i mewn i’n byd na chlicio arno.”
Mae Llyfrgellydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aled Gruffydd Jones, yn cefnogi’r ymgyrch i ysbrydoli pobl i archwilio archifau, ac ychwanegodd:
“Gall ymweld ag archif fynd â chi ar antur – efallai y byddwch chi’n darganfod llawer mwy nag yr oeddech chi wedi’i ddychmygu. Mae archifau’n llawn cynnwys diddorol i’w ddarllen, ei gyffwrdd a’i archwilio. Cymerwch amser i archwilio archifau – p’un a oes gennych chi ddiddordeb mewn ffasiwn, chwaraeon, bwyd neu UFOs, bydd rhywbeth i’ch ysbrydoli mewn archifau.”
I ddechrau eich antur eich hun, ewch i’ch gwasanaeth archifau lleol, ewch i archiveswales.org neu dewch o hyd i Archifau Cymru ar Facebook a Twitter. Am ragor o wybodaeth am y digwyddiadau sy’n digwydd mewn Archifau ledled Cymru, ewch i www.archifaucymru.org