Ffotograffau Cyffrous, Prin yn Archifau Conwy
Mae lluniau prin sy’n dangos cyfnod pwysig a chyffrous yn hanes Llandudno wedi’u rhoi i’w cadw’n ddiogel yn Archifau Conwy.
Wedi’u tynnu gan Mr George White o R White & Sons o Widnes, sef y peirianwyr a gontractiwyd ar gyfer Tramffordd Y Gogarth, maent yn dangos tramiau ac offer weindio yn cyrraedd Llandudno yn 1900-1902 ac yn cael eu cludo i fyny’r Old Road, gweithwyr yn adeiladu’r trac, y cerbydau newydd a’r ceir jocis, gyda phob un yn gwisgo lifrai Tramffordd y Gogarth yn falch.


Roedd y rhai a gyflwynodd y lluniau, John ac Edward Orme, yn gweithio i’r Whites. Roedd y cwmni, a sefydlwyd yn 1869, o bwysigrwydd sylweddol ym myd peirianneg, wedi arbenigo mewn rhaffyrdd awyrol a rheilffyrdd mynyddoedd. Nid Tramffordd y Gogarth oedd yr unig waith sylweddol ond adeiladwyd Rheilffordd yr Wyddfa ganddynt hefyd. Roedd y ddau Mr Orme yn cofio cyfnod hapus iawn gyda’r Whites ac yn llawn edifeirwch o’i weld yn mynd i ddwylo’r gweinyddwyr yn 1980. Fodd bynnag, dyma pryd y daethant o hyd i’r lluniau, wedi’u taflu fel sbwriel, a gan sylweddoli eu pwysigrwydd, maent wedi gofalu amdanynt ers hynny. Maent yn awr wedi’u rhoi yn yr Archifau, lle y gall pawb sydd â diddordeb yn hanes Llandudno eu gweld a’u mwynhau yn hanes Llandudno a hanes peirianwaith tramffyrdd.
Mae papurau eraill yn ymwneud â hanes Tramffordd y Gogarth eisoes ar gael yn yr archif (cyfeirif CX77), gan ddogfennu cyflwr anodd gwaith yr Whites, yn enwedig eu perthnasau gwaith gyda’r peiriannwr gwreiddiol, H Enfield Taylor a Chyfarwyddwyr Cwmni’r Dramffordd.


Gellir gweld rhestr o gofnodion Tramffordd y Gogarth ar ein catalog ar-lein a bydd sganiau o ffotograffau newydd yn cael eu hychwanegu yn fuan. Ewch i www.conwy.gov.uk/archifau a dilynwch y ddolen gyswllt i’r Gatalog Archifau.