Rhaglen Diogelu’r Didau

Darparwyd y rhaglen hyfforddiant ‘Diogelu’r Didau’ gan Staff Prosiect Cadwraeth Ddigidol yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn ystod mis Mehefin 2021. Mae’r adnoddau hyn yn dal ar gael i gyfeirio atynt, ond ni fydd y cynnwys yn cael ei ddiweddaru.

Nod y sesiynau hyn oedd cyfnewid gwybodaeth a phrofiad ymarferol mewn cadwraeth ddigidol er mwyn galluogi camau cadwraeth ddigidol i gael eu cymryd o fewn sefydliadau, a sicrhau bod y cynnwys digidol yn cael ei nodi a’i ddiogelu.

Roedd y sesiynau’n ymdrin â chwe phwnc:

1. Cyflwyniad
2. Gosod y Cefndir
3. Rheoli trosglwyddo cynnwys digidol i’r archif
4. Gwerthusiad technegol o gynnwys
5. Cadw a Storio
6. Mynediad

Mae’r dogfennau hyfforddi a’r ffeiliau ategol i’w lawrlwytho isod. Mae’r adnoddau hyn ar gael yn Saesneg yn unig.

Mae fideos o’r hyfforddiant ar gael yma:

Lawrlwythiadau