Newyddion

70 Mlynedd mewn 70 Diwrnod – ein dull amgen o goffáu’r Jiwbilî Platinwm

Yn gynharach eleni, cafodd Gwasanaeth Archifau Conwy a’n cydweithwyr yn yr adran Diwylliant a Gwybodaeth drafodaeth am sut yr oeddem yn mynd i gyfrannu at goffáu Jiwbilî Platinwm y Frenhines. Cawsom y syniad o greu ymgyrch cyfryngau cymdeithasol lle byddem yn postio/trydar ar gyfryngau cymdeithasol bob dydd yn ystod y 70 diwrnod yn arwain at benwythnos gŵyl banc y Jiwbilî, gyda phob diwrnod yn cynrychioli blwyddyn yn nheyrnasiad y Frenhines. Y diwrnod cyntaf fyddai delwedd o’r Archifau o 1953, y flwyddyn goroni, yr ail o 1954 ac yn y blaen nes y byddem yn cyrraedd 2022 ddydd Sul 6ed o Fehefin.

Roeddem i gyd yn gytûn y dylai’r 70 o ddelweddau adlewyrchu hanes pobl Sir Conwy o bob un o’r blynyddoedd hyn ac nid cynnwys “frenhinol”, oni bai bod digwyddiad/ymweliad sylweddol â’r ardal ar gyfer y flwyddyn honno. Gyda’r cynllun hwn mewn golwg, dechreuon ni ddewis delweddau a chyfansoddi testun ar gyfer pob blwyddyn o 1953-2022.

Llifogydd Towyn, (Conwy) 1990
CP359/51 Llifogydd Towyn, (Conwy) 1990

Roedd yn dasg ragorol i osod y ddau weithiwr ifanc newydd a oedd wedi dechrau gyda ni; Ottie, hyfforddai o’r Prosiect Uchelgais Diwylliannol, a phrentis modern, Elyssia. Penderfynwyd y byddai Elyssia yn dechrau ei hymchwil yn 1953 ac yn gweithio ymlaen, a byddai Ottie yn dechrau yn 2022 ac yn gweithio’n ôl, nes iddynt gwrdd yn y canol. Roedd hwn yn brosiect hyfforddi defnyddiol, gan ei fod yn cynnwys gweithio gyda chydweithwyr, ymchwil hanes lleol, defnyddio’r gronfa ddata CALM ar gyfer ymchwil catalog a gwybodaeth am leoliadau, adalw cofnodion, digideiddio lle bo angen, cyfansoddi testun deongliadol, ei gyfieithu ac yn olaf amserlennu cynnwys cyfryngau cymdeithasol.

Datguddio Palas Llywelyn Fawr, 1984
CP395/7/164 Datguddio Palas Llywelyn Fawr, 1984

Mae’r ymgyrch wedi cynyddu cynulleidfaoedd ar gyfer ein proffiliau cyfryngau cymdeithasol, ac rydym wedi cael ymgysylltiad cadarnhaol iawn gydag ein dilynwyr. Mae peth o’r cynnwys wedi ysgogi pobl i rannu atgofion. Ein post fwyaf poblogaidd hyd yma yw ffotograff 1982 o fusnes lleol adnabyddus ‘Red Garages’ o Landudno ar eu pen-blwydd yn 75 oed, a gyrhaeddodd dros 8.5 mil o ddefnyddwyr ar Facebook.

Elusendai Llanrwst, 1976
CP395/17/45 Preswylydd olaf yn gadael Elusendai Llanrwst, 1976

Cyhoeddwyd y post cyntaf ar 28ain o Fawrth gyda’r tag #JiwbilîPlatinwmConwy / #PlatinumJubileeConwy, ac ar hyn o bryd rydym wedi cyrraedd post rhif 40 (1992, Marina Conwy yn agor). Mae’r prosiect wedi bod yn un cadarnhaol, gan adeiladu cynulleidfaoedd cyfryngau cymdeithasol, darparu cyfle i ddatblygu sgiliau staff, a chaniatáu i ni ddod o hyd i ffordd briodol o nodi’r Jiwbilî sydd yn canolbwyntio ar hanes pobl leol.

Gallwch ddilyn Gwasanaeth Archifau Conwy ar y cyfryngau cymdeithasol drwy’r cyfrifon canlynol:
Trydar @DiwylliantConwy
Facebook @diwylliantconwyculture

Kate Hallett, Uwch Archifydd, Gwasanaeth Archifau Conwy

Atgyweirio Morgeisi Canoloesol yn AGDdC

Ym mis Rhagfyr 2021, bûm yn ddigon ffodus i allu treulio wythnos yn AGDdC, Penarlâg, yn dysgu sut i wneud atgyweiriadau memrwn gyda Mark Allen, y Cadwraethydd, gan weithio ar forgeisi a hawliadau ymadael yn Sir y Fflint yn dyddio o’r 1300au i’r 1600au.

Cam cyntaf y gwaith ymarferol oedd glanhau’r dogfennau â sbwng mwg, gan ddefnyddio symudiadau cylchol i godi cymaint o’r baw â phosibl. Mae strwythur y memrwn yn wahanol i un papur, felly gall gydio mewn unrhyw faw, yn enwedig os bu lleithder. Unwaith y byddai’r dogfennau’n rhydd o faw arwyneb, roedden nhw’n barod i gael eu lleithio’n ysgafn, gan ddefnyddio techneg ‘brechdan’ Persbecs, matin capilari a Gore-Tex. Yna cawsant eu sychu, eu gosod ar flotiwr gyda phersbecs ar y top, ynghyd â phwysau. Cafodd plygiadau ar y ddogfen, fel corneli siâp triongl, eu gwastatáu cyn gosod y Persbecs ar y top. Gall y ddogfen gymryd dyddiau i sychu ac mae angen ei gwirio’n rheolaidd.

Ar ôl ei lanhau a’i sychu, fe wnaethom symud ymlaen wedyn i atgyweirio unrhyw rwygau neu ddarnau coll. Gwneir atgyweiriadau memrwn gyda gelatin, ac atgyweirio’r un pethau â’i gilydd. Mae angen ystyried gwead, lliw, trwch, arwynebedd y croen ac unrhyw batrymau gwythiennau wrth gydweddu â’r darn cywir o femrwn i wneud atgyweiriad. I atgyweirio twll gydag ymylon cryf, gellir dargopïo clwt i orgyffwrdd ychydig ar yr ymyl a bydd yr ymylon yn cael eu paru i’w asio â’r ddogfen. Os yw’r ddogfen wedi’i difrodi’n fwy gyda memrwn tenau, sych a fflawiog o amgylch colled, neu’n wan iawn mewn rhai ardaloedd oherwydd y difrod, gellir paru clwt mawr i gynnal y rhan hon.

Rhoddir gelatin i angori’r atgyweiriad yn ei le a sicrhau y bydd yn aros yn ei le ar ôl iddo gael ei leinio’n gywir i’r rhan a atgyweiriwyd. Unwaith y bydd yn sych, caiff y gelatin ei roi eto mewn cynyddrannau bach ar hyd ymyl yr atgyweiriad, gan weithio ar ei hyd a sicrhau y bydd y cyfan yn gwbl sownd.

Ar ôl i’r holl atgyweiriadau gael eu cwblhau, mae angen gwneud y man storio cywir er mwyn iddo fod yn gyfforddus ac yn ddiogel. Mae’r dewis o dai yn dibynnu a oes gan y ddogfen sêl, a yw’n ddogfen aml-bilen, neu a yw’n arbennig o bwysig.

Erbyn diwrnod olaf fy wythnos yn dysgu sut i weithio gyda dogfennau memrwn o bob math, roeddwn i’n teimlo’n hyderus gyda phopeth roeddwn i wedi’i ddysgu drwy gydol yr wythnos. Mae memrwn yn un o’r deunyddiau hynny sydd ag enw gwael am wneud i nifer o gadwraethwyr a rhwymwyr llyfrau deimlo’n nerfus yn gweithio ag o, ond gyda fy ymchwil mewn i’w hanes, dwi’n meddwl ei fod yn ddiddorol iawn, felly roedd i’n edrych ymlaen at ddysgu sut i weithio gydag o. Mae’r profiad newydd yma wedi bod o fudd i mi fel egin gadwraethwr, a rhoddodd well ddealltwriaeth i mi o’r deunydd ei hun. Rydw i’n eithriadol o ddiolchgar am y cyfle rwyf wedi’i gael yn dysgu’r hyn wnes i yn ystod yr wythnos, ac mae fy mhrofiad yn treulio amser yn AGDdC gyda Mark a gweddill y tîm archif wedi bod yn gadarnhaol iawn.

Emily MacMillan, Hyfforddai Cadwraeth,
Archifau Gogledd Ddwyrain Cymru (AGDdC).

Pecyn Cymorth Ar-lein: Cofnodion mewn Perygl

Elfen allweddol o’n prosiect Cofnodion mewn Perygl oedd datblygu fframwaith i gefnogi gwasanaethau archifau ledled Cymru i arolygu ac achub cofnodion sefydliadau preifat. Rydym wedi datblygu nifer o ddogfennau adnoddau a chanllawiau sy’n rhoi gwybodaeth am fonitro risg a chynnal arolygon cofnodion, gan ganolbwyntio ar waith a gynhelir o bell. Gobeithiwn y bydd y pecyn cymorth yn helpu gwasanaethau archifau i nodi a chefnogi sefydliadau allanol a allai fod â chofnodion bregus o werth archifol, boed hynny drwy eu helpu i gynnal archif fewnol, neu drwy gaffael casgliad sydd mewn perygl.

Pa fathau o adnoddau sydd ar gael?
Mae’r pecyn cymorth yn cynnwys amrywiaeth o adnoddau sy’n berthnasol i wasanaethau archifau sydd â diddordeb mewn monitro archifau a chofnodion sydd mewn perygl, yn ogystal ag arolygu cofnodion sefydliadau allanol. Mae hyn yn cynnwys yn benodol:

  • Dogfen ganllaw a thiwtorial (fideo) ar gynnal arolygon cofnodion o bell. Mae hyn yn darparu gwybodaeth am gynllunio a gweithredu arolwg o arferion cadw cofnodion ymhlith sefydliadau allanol megis busnesau ac elusennau;
  • Dogfen ganllaw a thiwtorial (fideo) ar fonitro risg ansolfedd ac achub cofnodion busnes. Mae hyn yn dilyn pob cam o’r broses o ymchwilio ac adnabod cwmnïau ansolfent sydd â chofnodion o werth archifol, i gysylltu ag ymarferwyr ansolfedd, a threfnu i roi cofnodion i’ch gwasanaeth.
  • Canllawiau gan y Tîm Rheoli Argyfwng (CMT) ar achub cofnodion gan gwmnïau ansolfeidiol, gan gynnwys gwybodaeth i archifyddion ac ymarferwyr ansolfedd. Mae’r wybodaeth hon wedi’i hatgynhyrchu a’i chyfieithu i’r Gymraeg gyda chaniatâd y CMT, ac mae hefyd ar gael yn Saesneg ar eu gwefan.
  • Cofrestr datblygu casgliadau sy’n cysylltu â pholisïau datblygu casgliadau cyfredol gwasanaethau archifau ledled Cymru. Nod y gofrestr yw darparu mynediad at bolisïau mewn un man i sicrhau bod y rhai sy’n ymwneud ag achub cofnodion, gan gynnwys archifyddion a rhoddwyr posibl, yn gallu nodi ystorfeydd a allai fod ar gael i gartrefu casgliad archif mewn perygl.
  • Rhestr adnoddau a llyfryddiaeth gyda dolenni i adnoddau a gynhyrchir gan sefydliadau allanol.

Ble alla i ddod o hyd i’r adnoddau?
Bydd yr adnoddau’n cael eu cyhoeddi’n fuan ar dudalennau gwe pecyn cymorth staff Archifau Cymru. Ymhlith pynciau eraill sydd ar y pecyn cymorth ar hyn o bryd, gallwch ddod o hyd i wybodaeth ac adnoddau sy’n ymwneud â Pholisi Cadwraeth Ddigidol Cymru, rhaglen hyfforddi Diogelu’r Didau, ac adnoddau marchnata ar gyfer yr ymgyrch Archwiliwch eich Archif.

Pwy all ddefnyddio’r adnoddau?
Mae’r adnoddau Cofnodion mewn Perygl ar gael i’r cyhoedd ac ar gael i bawb a hoffai eu defnyddio. Maent wedi’u teilwra tuag at archifyddion a gwasanaethau archifau sy’n gweithredu yng Nghymru ond gallant fod o gymorth i unrhyw un sydd â diddordeb mewn arolygu ac achub archifau a chofnodion sefydliadau preifat.

Sut alla i gael rhagor o wybodaeth am yr adnoddau?
Bydd cyflwyniad i’r adnoddau Cofnodion mewn Perygl yn cael ei ddarparu yn Fforwm Cyngor Archifau a Chofnodion Cymru ar ddydd Mawrth, 22ain o Fawrth 2022. Byddwn hefyd yn croesawu siaradwyr gwadd i drafod eu profiadau o achub ac arolygu cofnodion, gan gynnwys cyfraniadau gan gynrychiolwyr o’r Archifau Cenedlaethol, The Ballast Trust, a Llyfrgell ac Archifau Hanes Lleol Tower Hamlets. E-bostiwch archifau.cymru os hoffech gofrestru ar gyfer y digwyddiad.

Mae’r prosiect i gynhyrchu’r adnoddau Cofnodion mewn Perygl ar ran Cyngor Archifau a Chofnodion Cymru wedi cael ei gyllido gan Gronfa Archifau Covid-19 yr Archifau Cenedlaethol.

Gemma Evans,
Rheolwr Prosiect Cofnodion mewn Perygl,
Cyngor Archifau a Chofnodion Cymru

Gwisg Genedlaethol Cymru: Menywod yn y Farchnad yn ystod yr 1880au

Wrth roi trefn ar hen gasgliad o sleidiau gwydr fe wnes i ddod o hyd i set o bedwar sleid yn dangos menywod mewn gwisg draddodiadol Gymreig.  Mae’r sleidiau gwydr yma yn rhan o Gasgliad WC Rogers (D/D WCR) yng ngofal Gwasanaeth Archifau Gorllewin Morgannwg.  Mae’r sleidiau’n mesur 12×16.4cm, ac mae pob un yn cynnwys rhwng 14 a 15 delwedd.

Darganfyddais hefyd y gyfrol wreiddiol ymhlith casgliad gwahanol (D144/1).  Mae’r gyfrol yn cynnwys yr un pedair tudalen o ddelweddau o fenywod mewn gwisg draddodiadol Gymreig (mae gweddill y gyfrol yn cynnwys golygfeydd lleol).

Mae’r gyfrol yn nodi James Andrews fel yr artist a’r ffotograffydd.  Mae’n debygol cafodd y ffotograffau eu tynnu yn ei stiwdio yn Abertawe a oedd wedi’i leoli gyferbyn â Sefydliad Brenhinol De Cymru rywbryd yn y 1880au, gyda’r bwriad o gynhyrchu cyfres o brintiau a chardiau post ar gyfer y fasnach dwristiaeth.  Roedd gwerthu cardiau post o’r fath yma yn ychwanegu at gyffredinoli ‘r syniad o wisg Gymreig.  Fodd bynnag, mae’r set hon yn dangos y gwahanol wisgoedd yng Nghymru yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Mae’r menywod yn gwisgo pais fflannel streipïog o dan fetgwn ffrynt agored, gyda ffedog, siôl a phenlliain neu gap.  Mae arddull y betgwn yn amrywio, gyda rhai tebyg i gotiau rhydd, rhai gyda bodis a sgertiau hir, a rhai byr.  Mae rhai yn gwisgo hetiau du tal, eraill yn gwisgo bonet.

Mae’r ddelwedd boblogaidd o wisg genedlaethol Gymreig; fenyw mewn clogyn gwlân coch a het ddu uchel, yn un a ddatblygodd yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg.  Roedd yn rhan o adfywiad ymwybodol o ddiwylliant Cymru yn ystod cyfnod pan oedd gwerthoedd traddodiadol o dan fygythiad.

Mae’n debygol byddai’r menywod yn y delweddau hyn yn gwerthu eu nwyddau ym Marchnad Abertawe. Mae’r delweddau yn dangos menywod yn cario llaeth, ieir wedi’i dibluo, a mam mewn gwisg Gymreig draddodiadol yn cario ei babi.  Efallai bod y rhai a wisgai wisg draddodiadol wrth werthu eu nwyddau yn y farchnad wedi gwneud hynny mewn ymgais i ddangos eu bod yn siarad Cymraeg, ac i ddangos eu bod yn gwerthu cynnyrch lleol.

O’r 1880au, pan oedd llai o ddefnydd cyffredinol o’r wisg draddodiadol, mabwysiadwyd elfennau dethol ohono fel Gwisg Genedlaethol.  O hynny ymlaen, fe’i gwisgwyd gan fenywod mewn digwyddiadau fel ymweliadau Brenhinol, gan gorau, yn yr eglwys a’r capel, ar gyfer ffotograffau, ac yn achlysurol mewn eisteddfodau.  Cafodd ei wisgo am y tro cyntaf gan ferched ifanc fel dathliad ar Ddydd Gŵyl Dewi o tua 1910.

Ni fyddwn byth yn gwybod sut y defnyddiwyd y delweddau yma; ai i’w gwerthu fel cardiau post i dwristiaid neu fel dathliad o fenywod o Gymru yn gwisgo gwisg Gymreig draddodiadol i werthu cynnyrch Cymreig lleol yn y farchnad. Y naill ffordd neu’r llall, Yr wyf yn falch iawn o allu eu rhannu gyda chi.  Dydd Gŵyl Dewi Hapus!

Katie Millien, Archifydd, Gwasanaeth Archifau Gorllewin Morgannwg

‘Good Wishes’: Cerdyn San Ffolant, 1875

Efallai eich bod wedi methu dydd Santes Dwynwen ond mae cyfle o hyd i chi ddatgan eich cariad drwy anfon cerdyn rhamantus ar ddydd Sant Ffolant.

Dyma enghraifft o gerdyn Sant Ffolant sy’n dyddio o’r 19eg ganrif sydd i’w ddarganfod ymysg llawysgrifau Wynn Hall, Archifau a Casgliadau Arbennig, Prifysgol Bangor. Daeth rhain yn boblogaidd iawn ar ddechrau’r ganrif honno a chynhyrchwyd rhai crand iawn gyda lês a rhubannau. ‘Cerdyn San Ffolant (16 Chwefror 1875) at Miss Lydia Kenrick yn Y Rhyl.’

Dyma’r geiriau sy’n ymddangos ar y cerdyn:

Good Wishes 

Oh! may thy way through life 

Be like the Summer tides, 

On which the white-winged lark 

With tranquil motion glides, 

May every joy be gained, 

An every hope fulfilled, 

As gains the bark her port 

When stormy winds  

are stilled  

Crewyd yr “Archif y Mis” yma gan Lynette Williams. Gallwch ddilyn tudalen Archif y Mis i weld mwy o Archifau a Chasgliadau Arbennig Prifysgol Bangor trwy’r linc yma: https://www.bangor.ac.uk/archives/archive-of-the-month/index.php.en