Newyddion

#CrowdCymru: Diweddariad y Prosiect

Helo pawb, Jen sydd yma, Swyddog Prosiect Gwirfoddoli Digidol ar gyfer #CrowdCymru.

Dyma ddiweddariad ar gynnydd ein prosiect gwirfoddoli gydag archifau digidol. Ariennir y prosiect gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol ac mae’n cael ei rhedeg ar y cyd gan Archifdy Gwent, Archifau Morgannwg, ac Archifau & Casgliadau Arbennig Prifysgol Caerdydd. Dyma’r trydydd blog yn y gyfres, mae’r cyntaf ar gael i’w darllen yma a’r ail yma.

Clwb Rygbi ac Athletau Casnewydd, Archifau Gwent

Ar ôl datrys rhai materion technegol, lansiwyd ein platfform digidol ym mis Chwefror. Treuliais ychydig o wythnosau prysur iawn yn cynnal sesiynau hyfforddiant ar-lein ar gyfer ein cymuned o wirfoddolwyr lleol, cenedlaethol, a byd-eang. Bu’n rhaid i ni ddarparu ar gyfer gwirfoddolwyr sydd yn byw yn parthau amser rhyngwladol gwahanol gan fod gennym aelodau yn UDA, Canada, Awstralia, a De Corea erbyn hyn.

Trefnwyd y rhan fwyaf o sesiynau mewn grwpiau bach, ond cynigiais sesiynau un-i-un, a chynnal rhai sesiynau dros y ffôn hefyd. Yn ffodus, diolch i Lyfrgell Genedlaethol Cymru, mae’r llwyfan yn hawdd i’w ddefnyddio, a chafodd ein gwirfoddolwyr ddim trafferth wrth dechrau gwaith ar ein casgliad cyntaf, sef Archif Edward Thomas. Un o’r prif heriau fu darllen ei lawysgrifen, ond mae ein tîm wedi dyfalbarhau a bron â chwblhau’r casgliad cyfan o 474 llythyren/tudalen.

Mae’r archif bersonol gyfoethog hon o un o feirdd llai adnabyddus y Rhyfel Byd Cyntaf yn cynnwys gohebiaeth, llawysgrifau gwreiddiol, a cherddi teipysgrif. Dioddefodd Edward o iselder aciwt ar hyd ei oes, ac mae’r llythyrau at ei ffrindiau yn mynegi ei loes feddyliol yn fanwl iawn. Ymrestrodd yn y Fyddin Brydeinig ym mis Gorffennaf 1915, er ei fod yn ddyn priod aeddfed a allai fod wedi osgoi ymrestru. Lladdwyd Edward yn fuan wedi iddo gyrraedd Ffrainc ym Mrwydr Arras ar Ddydd Llun y Pasg, 9 Ebrill 1917.

Mae stori Thomas wedi bod yn boblogaidd gyda’r grŵp ac mae aelodau ymroddedig o’n Grŵp Facebook wedi bod yn brysur yn rhannu gwybodaeth a chysylltiadau yn ymwneud â’i fywyd a’i waith. Darganfu ein gwirfoddolwr Liz Davis gysylltiad daearyddol â’r bardd wrth i’w mab reoli tafarn yn Steep, Hampshire, lle’r oedd Edward yn byw. Mae wedi rhannu ei gwybodaeth am hyn gyda’i mab ac mae bellach mewn cysylltiad â hanesydd lleol yn trafod syniadau ar sut i ddathlu’r cysylltiad hwn drwy gerddi Edward a’r teithiau cerdded lleol yr oedd wrth ei fodd yn eu cymryd.

Mae Liz wedi bod yn ddigon caredig i ysgrifennu ei phrofiad hi o’r prosiect hyd yn hyn. Dyma sylwadau Liz yn y Saesneg gwreiddiol:

Being a volunteer with Crowd Cymru

One reason I joined Llandenny Women’s Institute was to get involved in the wider world after the isolation of lockdown and my own propensity to avoid social events and meeting new people.  That sounds a bit mad as I had spent my working life meeting people every day and often in difficult circumstances – but somehow that was different.

When I saw the opportunity to get involved with Crowd Cymru – the project to transcribe and review the archives of people with a connection to Wales I thought it might be fun.  The opportunity also gave a different perspective to the curation and fine arts course I was doing at Hereford College of Arts.

It is early days for Crowd Cymru, but I am already hooked! I would sum up the experience so far with three ‘P’s’ – patience, passion, and privilege.  The first project is transcription of Edward Thomas’s archive. A poet and writer, friend of Robert Frost and died in France in WW1. It had taken a while for the team to be ready with suitable technology to make the archive available to us but that pales into insignificance at the need for my technical competence to catch up – that’s where the patience came in.  But the task of transcribing also requires patience – the handwriting can be impenetrable and often requires a bit of detective work to decipher what is written.  I am not known for my patience but suffice to say the words drew me in and I have relished the challenge.

Archif Sefydliadol Prifysgol Caerdydd, Casgliadau Arbennig ac Archifau, Prifysgol Caerdydd

The second P – passion – relates to the context and relationships that archives give us.  A window on a world. My passion is to tell the stories of the people whose history is both absent and silent.  Whilst many take on the genealogical challenge of tracing their family into the distant past, I have a passion for understanding their lives and livelihoods always with a focus on women.  Crowd Cymru and the Edward Thomas archive consists mainly of letters to his wife Helen.  I almost immediately disappeared down the rabbit hole of researching her and her life – be warned this work makes afternoons disappear and dinners left unprepared!

And that is where the third P comes in – privilege.  What a special thing to be able to see into the intimate lives of people, their thoughts and love, their indifferences, and their passions.  The first few transcription I have done relates to the mundane – questions about shopping and give us a sense of the ‘poverty’ but it still feels like a privilege to see them.  I am now trying to decipher Edwards’ letters from France – written in pencil (now terribly faded) on wafer thin paper.  I have not got far but knowing that these may be some of the last words he wrote I am moved and feel a deep responsibility to do the best I can. 

This early activity has left me asking about archiving in the digital age – we have apparently to rely on exchanges of WhatsApp messages floating in the cloud – will someone someday be able to read and reflect on our archive?

Liz Davis [#CrowdCymru Volunteer] March 2023

Diolch o galon i Liz am adroddiad mor ddiddorol ac sy’n procio’r meddwl.

Y casgliadau nesaf y bydd ein gwirfoddolwyr yn gweithio arnynt fydd dau gasgliad o Archifau a Chasgliadau Arbennig Prifysgol Caerdydd. Byddwn yn trawsgrifio dyddiaduron yr Anrhydeddus Priscilla Scott-Ellis a fu’n gwirfoddoli fel nyrs yn ystod Rhyfel Cartref Sbaen a’r Ail Rhyfel Byd. Mae ei dyddiaduron, o 1934 hyd at 1941, yn gofnodion o’i amser yn Llundain yn ystod y Blitz. Bydd casgliad o ffotograffau Archif Cof Sefydliadol Prifysgol Caerdydd, sy’n olrhain hanes y sefydliad ers 1883, yn cael ei thagio gan y gwirfoddolwyr. Bydd Archif Ffotograffig Clwb Rygbi ac Athletau Casnewydd o Archifau Gwent hefyd yn cael ei thagio.

Archif Sefydliadol Prifysgol Caerdydd, Casgliadau Arbennig ac Archifau, Prifysgol Caerdydd

Yn ddiweddar cefais y pleser o gyflwyno’r prosiect i lawer o wahanol grwpiau a chymdeithasau gan gynnwys Cymunedau Digidol Cymru, U3A Wales, Cymdeithas Hanes Lleol Grangetown, Cymdeithas Hanes Teulu Morgannwg, Cyngor Dinas Casnewydd [adrannau Adfywio Cymunedol ac Adfywio Cymunedol, Cynhwysiant Digidol a Chelfyddydau Cymunedol] a Phrifysgol Aberystwyth [Dysgu o Bell ac Ar-lein, Astudiaethau Gwybodaeth, a Llyfrgell a Grwpiau Achau Dysgu Gydol Oes Cymru]. Cyflwynais ar y prosiect hefyd i Archifau Morgannwg ac Archifau Gwent fel rhan o’u cyfres o sgyrsiau cyhoeddus ar-lein. Mynychais i ddigwyddiad gwych yng Nghanolfan Glan yr Afon Casnewydd i ddathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod.

Rwyf hefyd wedi bod yn brysur yn hyrwyddo’r prosiect drwy erthyglau ac mae nifer eisoes wedi eu cyhoeddi, gan gynnwys cylchgrawn Who Do You Think You Are Magazine, Archive & Records Association Magazine, Archives and Records Council of Wales, papur newydd Cymraeg Gogledd America [Ninnau], Cymdeithas Manitoba Cymru, Cylchgrawn Cymdeithas Hanes Teulu Morgannwg a Chymdeithas Lenyddol Casnewydd a Gwent.

Mae ein llwyfannau cyfryngau cymdeithasol yn tyfu, ac yn ddiweddar rydym wedi bod yn rhannu cynnwys ar Drydar ar gyfer #GirlsandWomeninSportsDay, #NationalLoveYourPetDay, #DiwrnodRhyngwladolyMerched, #WythnosWyddoniaethPrydain a #InternationalDayofSportforDevelopmentandPeace. Fe wnaethon ni drydar ar gyfer ymgyrch Archwiliwch Eich Archif #EYAFloraandFauna yn ystod mis Mawrth, ac ar hyn o bryd rydym yn rhannu cynnwys ar gyfer ymgyrch #Achive30 yr Archives and Records Association Scotland.

Casgliad Priscilla Scott-Ellis Collection, Casgliadau Arbennig ac Archifau, Prifysgol Caerdydd

Mae’r gwirfoddolwyr sydd yn aelod o’n Grŵp Facebook wedi bod yn trafod pynciau amrywiol gan gynnwys Ysbrydegaeth Fictoraidd, Mynwent Père Lachaise, a’r llawenydd o lythyrau sydd wedi’u hysgrifennu â llaw.

Ni allwn fod wedi dychmygu wrth recriwtio ar gyfer y prosiect hwn pa mor ymroddedig a diddorol fyddai’r grŵp o wirfoddolwyr. Cefais fy nharo pa mor frwdfrydig ac ysbrydoledig oedden nhw, tra hefyd yn amyneddgar o’r oedi gyda’r ochr technegol. Mae’r gwaith maen nhw wedi’i llwyddo i gwblhau mewn cyfnod mor fyr, ac o fewn ei bywydau prysur, wedi creu argraff fawr arna’i. Mae rhai yn mynd ati a chreu amserlen er mwyn gyfrannu’n rheolaidd oherwydd eu bod yn credu ym mhwysigrwydd y prosiect hwn. Wrth gwblhau ffurflen gofrestru cyn cael mynediad i’r platform, mae cwestiwn ar y ffurflen: ‘dywedwch wrthym beth hoffech chi ei gael allan o’r prosiect hwn’. Mae’r rhan fwyaf yn ticio’r blwch “i wneud gwahaniaeth”, ac mae hyn yn amlwg o’u cyfraniadau helaeth a’u brwdfrydedd diflino.

Rwyf hefyd wedi cael fy llethu gyda haelioni pur y sector a’r gymuned archifau treftadaeth. Mae’r prosiect hwn wedi derbyn cymorth a chefnogaeth, gyda gwir ymdeimlad o gydweithio, wrth gefnogi ymdrechion unigol er lles y sector cyfan. Mor bleserus yw bod yn rhan o gymuned mor wych.

Cysylltwch â ni os hoffech ymuno â’n prosiect a chymuned fyd-eang newydd sbon.

Jennifer Evans

Digital Volunteering Project Officer / Swyddog Prosiect Gwirfoddoli Digidol  
https://www.gwentarchives.gov.uk/en/partnership-and-projects/crowdcymru/
Twitter: @CrowdCymru
Phone / Ffôn: 01495 742450
Email / Ebost: jennifer.evans@gwentarchives.gov.uk

Mae’r blog hwn gan Jennifer Evans dan drwydded Creative Commons Attribution 4.0 International License.

Jane Phillips o Abertawe, bydwraig, 1859

Mae mis Mawrth yn Fis Hanes Menywod. I ddathlu, mae Gwasanaeth Archifau Gorllewin Morgannwg yn rhannu straeon ac arddangos dogfennau o’r casgliadau am fywydau rhai o ferched lleol yr ardal. Bydd y straeon yn canolbwyntio ar fenywod sydd heb gael eu hysgrifennu am na’u cydnabod eto. Mae’r stori hon am Jane Phillips, bydwraig, yn un enghraifft o’r eitemau maen nhw’n eu rhannu y mis hwn.

Jane Phillips o Abertawe, bydwraig, 1859
Llyfr y Clochydd, (Silffoedd yr Ystafell Ymchwil) Y Santes Fair, Abertawe

Wrth bori drwy rhai o’r cofnodion cynharach sydd i’w cael yn yr Archifau, des i ar draws enwau tair bydwraig; roedd Mrs Ann Williams yn fydwraig ar Wind Street, Abertawe ym 1758 (P123/23, Llyfr Trethi Cymorth y Tlodion), ac roedd Elizabeth Howell yn fydwraig yn Abertawe ym 1791 (Universal British Directory).  Cefais hyd hefyd i gyfeiriad at Mrs Phillips, bydwraig 71 oed a gladdwyd yn Eglwys y Santes Fair, Abertawe.

Ar ôl ymchwilio ymhellach, dysgais mai Jane oedd enw Mrs Phillips, a bod yr arysgrif ar ei charreg fedd yn dweud:

Er cof am Mrs Jane Phillips o’r dref hon, bydwraig, gwraig i Thomas Phillips, saer maen, a fu farw ar 7 Mehefin, 1859, yn 71 oed.  Dros gyfnod o 30 mlynedd, helpodd gyda genedigaethau 9,000 o blant.

Drwy ymchwilio ymhellach, des i o hyd i ysgrif goffa ar gyfer Jane ym mhapur newydd The Cambrian, dyddiedig 10 Mehefin 1859.  Mae’n disgrifio Jane Phillips fel “gwraig a oedd yn uchel ei chlod ymysg yr holl ddosbarthiadau…roedd galw mawr am ei gwasanaethau gan wragedd mawr eu parch yn ogystal â’r rheini yn y cylch mwy diymhongar… roedd Mrs Phillips, a fu’n fydwraig am dros 30 mlynedd, wedi cynorthwyo yng ngenedigaethau naw mil o blant – digon i boblogi tref bron dwbl maint Castell-nedd… Yn sicr mae’r fath wraig yn haeddu i’w henw gael ei draddodi i’r oesoedd i ddod fel un a wnaeth gryn gymwynas â’i chyfnod a’i chenhedlaeth.”

The Cardiff and Merthyr Guardian Glamorgan Monmouth and Brecon Gazette, 18fed o Fehefin, 1859

Rwy’n falch fy mod wedi dod o hyd i enw Jane Phillips, ac yn gallu rhannu’i stori â chenhedlaeth newydd.  Ys gwn i faint o breswylwyr Abertawe sy’n ddisgynyddion i blant a anwyd gyda help Mrs Phillips?

Gwasanaeth Archifau Gorllewin Morgannwg

Straeon Caru

Hail! genial season of the year

To faithful lovers ever dear

Devoted be this day to praise

My Anna’s charms in rustic lays

Now billing sparrows, cooing doves

Remind each youth of her he loves

My heart and head are both on flame

Whene’er I breath my Anna’s name

Ysgrifennwyd y llinellau hyn gan ŵr o’r enw y Capten Bennett mewn cerdd Sant Ffolant a ysgrifennwyd yn 1818 i Mrs Wyndham, a enwir hefyd yn ‘Anna’.  Beth am edrych yn fanylach ar y stori y tu ôl i’r gerdd hon, a chasgliadau eraill sy’n cynnwys cariad a rhamant yn Archifau Morgannwg.

Gellir gweld y gerdd ymhlith casgliad Castell Ffwl-y-mwn Archifau Morgannwg (cyf. DF/V/133) a cheir cyfanswm o 78 o linellau o gwpledau sy’n odli, sef cryn dipyn yn fwy na’r negeseuon Sant Ffolant bachog a geir mewn cardiau modern.  Yn y gerdd mae’r Capten Bennett yn rhoi mynegiant llawn i’w ochr ramantus, gan ddisgrifio delweddau o Cinderella a’i Thywysog, yn clodfori Anna, yn cynnwys ei thraed tylwyth teg, yn ogystal â chodi amheuon ynghylch addasrwydd y dynion eraill sy’n ei chanlyn, yn cynnwys un a enwir ganddo yn Arglwydd Tredegar.  Mae’r bardd hefyd yn disgrifio llunio blaenlythrennau neu ‘cypher’ Anna yn y tywod gyda ffon gerdded, ac er gall y tonnau olchi i ffwrdd enw ei anwylyd, ni all y tonnau ‘blot that cypher from my heart!’

poem_compressed

Felly pwy oedd y Capten Bennett ac Anna, ac a fu diweddglo hapus i’w stori?  Er bod y gerdd yn rhan o gasgliad Castell Ffwl-y-mwn mae hefyd yn cyfeirio at Dwn-rhefn, sef ystâd ger Southerndown a fu’n eiddo i deulu Wyndham. Mae gwaith ymchwil wedi datgelu fod Anna yn ferch Thomas Ashby o Isleworth, Llundain a Charlotte, merch Robert Jones o Ffwl-y-mwn (sy’n egluro’r cysylltiad â Ffwl-y-mwn).

anna_edited

Gŵr cyntaf Anna oedd Thomas Wyndham o Dwn-rhefn a Llys Clearwell yn Fforest y Ddena (Aelod Seneddol Morgannwg) ond bu farw yntau yn 1814. Fodd bynnag, ailbriododd Anna ym mis Gorffennaf 1818, ychydig fisoedd ar ôl i’r gerdd gael ei chyfansoddi.  Ei gŵr newydd oedd John Wick Bennett o Drelales, a gellir tybio mai hwn yw’r un ‘Capten Bennett’ a anfonodd y gerdd Sant Ffolant.  Ymddengys nad oedd ei ymdrechion barddol yn ofer ac efallai i’r gerdd helpu i ddarbwyllo ei gariad i dderbyn ei gynnig!

Gall fod yn anodd dod o hyd i gyfeiriadau at ‘gariad’ a ‘rhamant’ yn yr archifau, gan nad ydynt yn dermau a geir fel arfer mewn disgrifiadau catalog!  Fodd bynnag, gellir dod o hyd i lawer o straeon rhamantus, p’un ai mewn dyddiaduron neu lythyrau preifat, yn enwedig y rheini a ysgrifennwyd pan roedd y cariadon ar wahân a dyna oedd yr unig ffordd iddynt gadw mewn cysylltiad. Gwahanwyd llawer o gariadon gan ryfeloedd, ac mae gennym sawl stori am gariad yn blodeuo o dan amgylchiadau anodd.

Daeth y Prif Nyrs Isabel Robinson o hyd i gariad pan oedd yn gweithio yn Ysbyty’r Groes Goch yng Nghaerdydd yn 1916.

sister-isabel-robinson_compressed

Tra roedd yn nyrsio yno, cyfarfu â Daniel James Dwyer o fyddin Awstralia, a phriododd y ddau. Roedd ef yn gwella yn yr ysbyty ar ôl cael anaf i’w ben yn y ffosydd yn Ffrainc.

daniel-dwyer_compressed

Ymgartrefodd y ddau yn Awstralia yn ddiweddarach yn St. Kilda, Victoria, ond dychwelodd y ddau i’r ynys hon a bu Isabel farw yn Lloegr yn 1965. Cedwir albwm ffotograffau Isabel yn yr Archifau, ac mae’n cynnwys ffotograffau o staff a chleifion mewn ysbytai milwrol ym Mhen-y-bont ar Ogwr a Chaerdydd (cyf.  D501).

Un o’n casgliadau pwysicaf sy’n ymwneud â’r Ail Ryfel Byd yn Archifau Morgannwg yw’r llythyrau niferus a ysgrifennwyd gan Pat Cox o Gaerdydd i’w darpar ŵr, Jack Leversuch, a oedd yn gwasanaethu tramor yn y lluoedd arfog (cyf. DXGC263/2-32). Anfonodd Pat lythyrau rheolaidd at Jack drwy gydol y rhyfel yn adrodd ei newyddion.  Cadwodd Jack bob un o’r llythyrau a gafodd gan Pat, a daeth â hwy adref gydag ef pan ddaeth ei wasanaeth tramor i ben.

leversuch-letters_compressed

Mae’r llythyrau yn cynnwys manylion personol carwriaeth y ddau yn ogystal â disgrifio sut roedd Caerdydd yn ymdopi â chyrchoedd awyr y gelyn, diffodd y goleuadau oherwydd y ‘black out’, mudo a dogni.

Ceir hefyd cardiau Sant Ffolant ymhlith y casgliadau.  Roedd llawer o gardiau o’r 19eg ganrif wedi’u gwneud â llaw a’u lliwio’n brydferth, weithiau wedi’u haddurno â lluniau torri cywrain.   Ymddangosodd cardiau a argraffwyd yn fasnachol tua diwedd y ganrif honno, ac mae’r cardiau hyn wedi’u haddurno’n brydferth i’n golwg modern ni.  Dyma ddwy enghraifft o gardiau Sant Ffolant o Oes Fictoria (cyf. DX554D/18/3,9), ill dwy ag ymylau pluog.

valentine-1_compressed
valentine-2_compressed

A oes gennych unrhyw hen ddogfennau, ffotograffau neu gardiau Sant Ffolant?  Os felly rhowch wybod i ni oherwydd hoffem eu hychwanegu at ein casgliad.

Archifau Morgannwg
Wefan: https://glamarchives.gov.uk/?lang=cy
Ebost: glamro@caerdydd.gov.uk

Dydd Miwsig Cymru 2023

Ar gyfer Dydd Miwsig Cymru rydym yn rhannu rhai o gasgliadau cerddoriaeth boblogaidd yr 20fed ganrif o’r Archif Gerddorol Gymreig yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Sefydlwyd Yr Archif Gerddorol Gymreig yn y Llyfrgell Genedlaethol yn 2017, er mwyn casglu, a hyrwyddo defnydd o, archifau a llawysgrifau cerddorol yn y Llyfrgell.

Y Blew

Band roc o Gymru oedd ‘Y Blew’ a sefydlwyd ym 1967. Nhw oedd y band roc cyntaf i ganu yn Gymraeg. Mae’r casgliad o bapurau’r grŵp ‘Y Blew’ yn cynnwys llythyron yn ymwneud â’u perfformiadau, 1967-1969, copïau o gyfweliadau ag aelodau o’r grŵp, hanes sefydlu’r Blew, copïau o ffotograffau a deunydd hyrwyddo, rhai papurau ariannol, 1967-1968, a ffeil sylweddol, 1978-2001, ar y sylw mae’r Blew wedi ei gael ers iddynt chwalu. NLW ex 2219.

Poster o 1967 i hyrwyddo’r sengl ‘Maes B’. Hawlfraint Y Lolfa
Y Blew, 1967 Ffoto ©️ Alcwyn Deiniol (Llyfr ffoto LLGC 3788)

Dafydd Iwan

Yn ddiweddar mae Yma o Hyd wedi dod yn anthem answyddogol ar gyfer Pêl-droed Cymru, a chyrhaeddodd Rhif 1 yn siartiau iTunes ym Mehefin 2022. Fe’i hysgrifennwyd gan Dafydd Iwan yn 1981, canwr a gwleidydd cenedlaetholgar a daeth i enwogrwydd yn ysgrifennu a pherfformio cerddoriaeth Gymraeg. Mae’r casgliad Caneuon Dafydd Iwan yn cynnwys copïau holograff o eiriau i ganeuon Dafydd Iwan gan gynnwys ‘Carchar’ (‘Mae Rhywun yn y Carchar’), ‘Yr Hawl i Fyw’, ‘Magi Thatcher’ (fersiwn cyntaf), ‘Yma o Hyd’, ‘Y Chwe Chant a Naw’ a ‘Ciosg Talysarn’, Hawl i Fyw. NLW ex 1935:

‘Yma o Hyd’ yn llawysgrifen Dafydd Iwan gyda’r cordiau gitâr. Caneuon Dafydd Iwan (NLW ex 1935)

Y Trwynau Coch

Roedd Y Trwynau Coch yn cael ei ystyried fel un o’r bandiau Cymraeg gorau cyfnod pync. Mae’r casgliad yn cynnwys papurau Y Trwynau Coch. [1978] gan cynnwys cytundeb, 1978, rhwng Cymdeithas yr Iaith Gymraeg a’r grŵp i berfformio yng nghlwb nos Tito’s yng Nghaerdydd a’r amodau, ac ychydig o dorion o’r ‘Cymro’ yn ymwneud â’r grŵp. NLW ex 2617.

Super Furry Animals

Dyma gasgliad o bapurau a gasglwyd a threfnwyd gan Dr Carl a Dorothy Clowes, rhieni Dafydd Ieuan a Cian Ciarán, aelodau o’r grŵp cerddoriaeth Indi/Tecno/Roc-seicoledig Cymreig, y Super Furry Animals (Anifeiliaid Blewog Anhygoel). Ar 15 Mai 2000 rhyddhawyd yr albwm ‘Mwng’ ar eu label eu hunain ‘Placid Casual’. Hwn oedd yr albwm Cymraeg a werthodd y mwyaf o gopïau erioed. Mae’r Papurau Super Furry Animals (Carl Clowes), 1991-2016 yn cynnwys toriadau o erthyglau papur newydd, cyfweliadau, ffotograffau a hysbysebion am y grŵp, ynghyd ag eitemau am aelodau’r band, a bandiau Cymreig cysylltiedig.

 Papurau Super Furry Animals (Carl Clowes), Yr Archif Gerddorol Gymreig

  

Clipiau i’r wasg o lyfr lloffion y Super Furry Animals rhif 1 Mehefin 1995 – Ebrill 1996,
Yr Archif Gerddorol Gymreig

Steve Eaves

Casgliad o bapurau, 1982-1983; caneuon, barddoniaeth a llythyron yn ymwneud â geiriau caneuon gwahanol grwpiau Cymraeg diwedd y 1970au a dechrau’r 1980au, wedi eu crynhoi gan Steve Eaves. Caneuon yn y gyfrol Y Trên Olaf Adref, a gyhoeddwyd ym 1984.  NLW ex 2133.

Posteri

Mae gan y Llyfrgell lawer o bosteri o gigs a chyngherddau.  Derbyniwyd llawer o bosteri yn ddigidol yn dilyn apêl #poster2020 gan gynnwys posteri a ddyluniwyd gan Meirion Wyn Jones a dylunwyr eraill, a threfnwyr cyngherddau. Ymhlith y casgliad posteri amlycaf a gedwir yn y Llyfrgell ar hyn o bryd mae casgliad Gwilym Tudur. Mae’n cynnwys cyfres helaeth o dros 120 o bosteri, sy’n wleidyddol eu natur ac yn hyrwyddo gigs a chyngherddau hanesyddol Cymreig.

Casgliad Ffansîn Rhys Williams

Derbyniwyd y casgliad hwn o 16 o ffansîns cerddoriaeth pop Gymreig, 1982-1990, gan Rhys Caerdydd (Rhys Williams), a oedd yn gyfrifol am y wefan Ffansîn Ynfytyn. Ymhlith y copïau gwreiddiol o’r ffansins ar gyfer y casgliad cenedlaethol mae: Amser Siocled, Yn Syth o’r Rhewgell , Llmych / Chymll / Ychmll / Hymllc, Dyfodol Dyddiol, Ish, Groucho neu Marks, Llanast, Rhech, Gwyn Erfyl yn y Glaw, Cen ar y Pen ac ANKST 03. Chwiliwch Gasgliad Ffansîn Rhys Williams

O’r ffansin ‘Yn syth o’r Rhewgell’ Mehefin 1985

Ffansîn Ms Gwenith Nadolig 1988

Dilynwch yr Archif Gerddorol Gymreig ar Trydar: @CerddLlGC

I ymholi am eitemau cerddorol penodol yng nghasgliadau’r Llyfrgell, cysylltwch â’r Gwasanaeth Ymholiadau

Hiwmor yn yr Archifau

Pe gofynnir i chi feddwl am rywbeth digrif, nid yw’n debygol mai archifau fyddai’r peth cyntaf i ddod i’ch meddwl. Ond os edrychwch chi yn ofalus, mae ein casgliadau yn llawn anecdotau doniol, cartwnau direidus, dychan gwleidyddol – ac, wrth gwrs, jôcs gwael! O gerdd Fanny Tuckfield o’r 19eg ganrif i gasgliad o folardiau mewn llyfryn Ystadau Prifysgol Abertawe – gallwn ni wastad ddod o hyd i rywbeth difyr yn ein casgliadau archif.

Un o’n casgliadau mwyaf doniol yw papurau newydd Undeb y Myfyrwyr. Maent yn cynnwys dros 700 o gyhoeddiadau a grëwyd gan fyfyrwyr, ac yn dyddio’n ôl i 1921. Mae’r casgliad yn cynnig mewnwelediad (boed yn ddifrifol neu’n ddychanol) i bob agwedd ar fywyd myfyrwyr, megis agweddau tuag at y Brifysgol, rhyw, rhywioldeb, ffasiwn, perthynas, gwleidyddiaeth a materion cyfoes, a’r gymuned gyfagos yn Abertawe.

Casgliad o bapurau newydd yr Undeb Myfyrwyr, 2019. © ARCW

Mae’r casgliad hwn yn cynnwys detholiad o gylchgronau RAG, sy’n dyddio rhwng 1928 a 1980, a werthwyd i gyd-fyfyrwyr, staff a’r gymuned leol yn ystod wythnos RAG. Roedd wythnos RAG (‘Raise and Give’) yn rhan ganolog o galendr Prifysgol y myfyrwyr ac yn ddigwyddiad cyffredin ar draws Prifysgolion yn y DU. Byddai myfyrwyr yn cymryd rhan mewn digwyddiadau doniol yn ystod yr wythnos i godi arian i elusennau.

Mae cylchgronau’r RAG yn cynnig cipolwg unigryw ar ddatblygiad hiwmor yn yr ugeinfed ganrif. Roedd cylchgronau’r 1920au a’r 30au yn aml yn gwneud hwyl ar ben y strwythur a dosbarthiadau cymdeithasol. Roeddynt yn cynnwys cyfres o ‘very social notes‘; tebyg iawn i’r clecs cymdeithasol a welir gan Lady Whistledown yn y gyfres Bridgerton, a phroblemau chwerthinllyd ar gyfer y modrybedd ofidiau preswyl, Countess Brylcream a Lady Dough-Cooper (weithiau Lady Cough-Dooper).

Ay Yah! Cylchgrawn RAG, 1929. t.40

Ymdrinnir â pherthnasau mewn ffordd ysgafn a chwareus iawn, trwy gartwnau a cherddi comig – er eu bod yn aml yn cynnwys stereoteipiau a rhywiaeth. Er bod y 1920au yn cynnig rhyddid a mynegiant mwy rhamantus o’i gymharu â’r degawd cynt, gwgwyd ar y defnydd o iaith rywiol ac anlladrwydd mewn hiwmor. Ar y llaw arall wrth i ni deithio trwy’r degawdau, gwelwn fod yr hyn oedd yn amhriodol mewn un cyfnod, yn dod yn dderbyniol mewn un arall.

Gyda chwyldro diwylliannol y Swinging Sixties a dechrau’r mudiad myfyrwyr gwelwn dystiolaeth o fyfyrwyr yn herio barn a gwerthoedd y cenedlaethau o’u blaen. Mae’r hyn a ystyriwyd ar un adeg yn bynciau tabŵ bellach yn cael eu cydnabod a’u gwneud yn hwyl. Ym 1968 caiff cylchgrawn RAG ei adnabod fel cylchgrawn ‘SLAG’, ac mae’r cynnwys yn dod ychydig yn fwy beiddgar a phryfoclyd, wrth ddarparu tystiolaeth o ymwybyddiaeth gynyddol gan fyfyrwyr mewn gwleidyddiaeth, y cyfryngau a materion cyfoes.

Cylchgrawn SLAG, 1968. t.14   
Cylchgrawn SLAG, 1979. t.14

Yn ogystal â’r elw o werthu cylchgronau’r RAG, roedd myfyrwyr Abertawe hefyd yn codi arian i elusennau trwy ddulliau eraill. Roedd digwyddiadau poblogaidd yn cynnwys gorymdeithiau o fflotiau drwy dref Abertawe, gyda’r myfyrwyr yn wisg ffansi a chasglu rhoddion o’r cyhoedd mewn bwcedi. Wedi’i ysbrydoli gan draddodiadau pantomeim, roedd y gorymdeithiau elusennol hyn yn cynnwys trawswisgo, comedi slapstic, a pharodïau o ddiwylliant poblogaidd – gan gynnwys dylanwadau o gomedi fel Monty Python.

RAG fancy dress, 1922 (UNI/SU/PC/5)

Roedd styntiau, neu pranks hefyd yn boblogaidd ymysg y myfyrwyr yn ystod wythnos RAG trwy ddarparu llawer iawn o gyhoeddusrwydd, ac felly yn cynyddu’r rhoddion. Fodd bynnag, roedd myfyrwyr yn aml yn cael eu rhybuddio y gallai styntiau ffôl, answyddogol, a ‘wacky’ arwain at gyhoeddusrwydd gwael, beirniadaeth a drwgdeimlad gan y gymuned leol – ac weithiau – trafferth gyda’r gyfraith.  Yn y clip yma, mae myfyriwr Economeg o’r 1960au, Sal Lalani, yn adrodd hanes un digwyddiad yn arbennig:-

URL – https://soundcloud.com/user-42709892/ragweek?si=d104baca58294588a0f6f974877d177d&utm_source=clipboard&utm_medium=text&utm_campaign=social_sharing

Mae’r casgliadau o archifau sy’n ymwneud ag wythnos RAG ym Mhrifysgol Abertawe yn rhoi cipolwg unigryw i ni ar ddatblygiad hiwmor yn yr ugeinfed ganrif. Gwelwn fod yr hyn oedd yn briodol mewn un cyfnod, yn troi’n sarhaus ac yn amharchus yn un arall. Mae bob amser cysylltiad agos rhwng comedi a chyd-destun gwleidyddol a chymdeithasol y cyfnod: mae hyn yn esbonio pam y gallai rhai puns, jôcs a chartwnau wneud i ni chwerthin (neu ddim) yn y presennol. Wrth i’n gwerthoedd a’n diwylliant newid, mae hiwmor hefyd yn newid- ac felly mae unrhyw eitemau o hiwmor yn yr archifau yn werthfawr iawn er mwyn ddeall ein gorffennol.

Emily Hewitt,
Archifau Richard Burton, Prifysgol Abertawe