Oes gennych chi hoff eitem o’r archif, neu hoff gasgliad?
Bob mis, mae Archifau Sir Gaerfyrddin yn arddangos un o’r uchafbwyntiau niferus o’u casgliad archifau, ar dudalen ‘Dogfen y Mis’ ar eu gwefan. Dyma rai o’n ffefrynnau:

Cyfeirnod: CDX/1280. Archifau Sir Gaerfyrddin
Croesi Afon Llwchwr, Cyfeirnod: CDX/1280
Dogfen mis Awst oedd cynllun ar gyfer pont ac arglawdd arfaethedig ar draws Afon Llwchwr, gan gysylltu’r lan uwchlaw Spitty Copper Works â’r lan gyferbyn ger Pwll Glo Casllwchwr ym 1831.
Cyn bod pontydd yn croesi’r aber, dibynnai’r teithwyr ar ryd lanwol a fferi, a rhaid oedd amseru’r teithiau i gyd-fynd â’r llanw. Ym 1831, datblygwyd cynlluniau ar gyfer pont barhaol fel bod cysylltiad mwy dibynadwy rhwng Llanelli ac Abertawe. Gan fod pobl yn dal i groesi’r aber, roedd yn rhaid ystyried traffig ffordd a thraffig afon wrth ddylunio.
Y groesfan gafwyd oedd pont siglo bren, a gwblhawyd ym 1833. Roedd ei bwa symudol yn caniatáu i longau gyrraedd glanfeydd i fyny’r afon, a chafodd trafnidiaeth yn y rhanbarth ei thrawsnewid gan ddod â chanrifoedd o ddibyniaeth ar y llanw i ben.
Mae’r dogfen hwn yn rhoi cipolwg diddorol ar fanylion y dyluniad gwreiddiol ar gyfer y groesfan uchelgeisiol hon.

Cyfeirnod CDX/1256/1/12. Archifau Sir Gaerfyrddin
Dydd Gŵyl Dewi Hapus! Cyfeirnod: CDX/1256/1/12
Dydd Gŵyl Dewi Hapus gan ddisgyblion Ysgol Gynradd Mynyddygarreg, 1966. Mae’r sleidiau hyn gan Ryszard Filemon Chechlacz o Denham Avenue, Llanelli, yn rhan o gasgliad ehangach sy’n cwmpasu’r cyfnod rhwng 1963 a 1982.
Ganwyd Ryszard yng Ngwlad Pwyl ym 1914, ac ymsefydlodd yn Llanelli ar ôl priodi’r athrawes leol Phyllis Thomas o Ysgol Mynyddygarreg ym 1959.Mae llawer o’r sleidiau yn y casgliad yn dangos Phyllis Thomas a’i disgyblion.

Cyfeirnod CRO 2 (M) 25, Archifau Sir Gaerfyrddin
Map John Speed o Gaerfyrddin, tua 1610 Cyfeirnod: CRO 2 (M) 25
Dyma’r map cynharaf o dref Caerfyrddin yn ein casgliad. Mae’n dangos y castell canoloesol, muriau a phyrth y dref, yn ogystal â’r bont, Eglwys San Pedr a’r Priordy. Nid yw’r map hwn wedi’i lunio i raddfa ac mae wedi’i alinio â’r de-ddwyrain ar frig y dudalen yn lle’r gogledd mwy arferol.
Allwch chi weld y tair croes dref? Allwch chi weld y stociau?

Cyfeirnod DERWYDD H16, Archifau Sir Gaerfyrddin
Noson i’w Chofio, Cyfeirnod: DERWYDD H16
Roedd dogfen mis Gorffennaf yn wir drysor cudd: ar yr olwg gyntaf, efallai y byddwch chi’n gweld pâr syml o fenig gwyn, ond mae ganddyn nhw stori gyfoethog a rhyfeddol. Wedi’u gwisgo gan Agnes Margaret Anderson ar noson 21 Awst 1860, mae dogfennaeth ategol i awgrymu bod Agnes wedi dawnsio gyda’i Huchelder Brenhinol Tywysog Cymru, Edward VII (mab hynaf y Frenhines Victoria a’r Brenin Edward VII yn y dyfodol), mewn dawns a gynhaliwyd er anrhydedd iddo yn Quebec yn ystod taith ddiplomyddol o America a Chanada.
Ynghyd â’r menig hyn mae cerdyn dawns Miss Aderson sy’n rhestru ei 16eg dawns o’r noson gyda “Ei Huchelder Brenhinol Tywysog Cymru” ochr yn ochr â thoriad papur newydd cyfoes yn adrodd yr achlysur. Fel atgof i gofio digwyddiadau’r noson, mae’r adroddiad yn cofio eu walts gan nodi gyda hiwmor chwerw sut y llwyddodd y tywysog i ddod â’i “drwyn brenhinol i gysylltiad uniongyrchol â’r llawr,” gan drawsnewid eiliad gymdeithasol fonheddig yn anecdot barhaol.
I weld yr eitemau hyn ac eraill, gwnewch apwyntiad i ymweld ag Archifau Sir Gaerfyrddin drwy ein ffonio ar 01267 228232 neu cysylltwch drwy e-bost: archifau@sirgar.gov.uk.
Gallwch bori drwy gasgliadau yn Archifau Sir Gaerfyrddin gan ddefnyddio eu catalog newydd, sydd ar gael drwy’r ddolen ganlynol: Catalog Archifau Sir Gaerfyrddin Catalog Archifau Sir Gaerfyrddin