Archwilio Eich Archif: Sut mae Archifau Gwent yn cefnogi athrawon a myfyrwyr?
Mae gwasanaethau archifau ledled Cymru yn gyfle gwych i gefnogi athrawon a myfyrwyr, o bob ystod oedran, a chadarnhau gwerth casgliadau archifau mewn addysg. Thema ymgyrch Archwilio Eich Archifau heddiw yw ‘Dysgu’, ac roeddwn i eisiau tynnu sylw at un ffordd y mae’r tîm yn Archifau Gwent yn mynd i’r afael â’r cyfle hwn.
Ym mis Medi 2026, lansiwyd diweddariad o’r TGAU Hanes yn rhan o’r cwricwlwm newydd i Gymru. Mae’r TGAU newydd hwn yn archwilio hanes Cymru – yn fyd-eang, yn genedlaethol ac yn lleol – ac mae Uned 1 yn canolbwyntio ar ‘Astudiaeth fanwl ar hanes Cymru’.
Mae Uned 1 yn archwilio chwe phwnc hanesyddol ar draws tri chyfnod – canoloesol, modern cynnar a modern. Mae’n rhaid i fyfyrwyr sefyll arholiad ysgrifenedig ar un o’r pynciau hyn, sydd yn werth 30% o’u cymhwyster. Mae’r 6 phwnc fel a ganlyn:
Canoloesol:
1.1 Rhys ap Gruffudd, Tywysog Deheubarth c. 11-32-1197
1.2 Owain Glyndŵr c.1354–1416

Modern Cynnar:
1.3 Cymru a’r Tuduriaid Cynnar, c.1485–c.1547
1.4 Cymru yn oes y Rhyfel Cartref, 1603–1660

Modern:
1.5 Gwrthryfel a Phrotest yng Nghymru c.1831–c.1891
1.6 Cymru ar ddechrau’r ugeinfed ganrif i ganol yr ugeinfed ganrif.1914–c.1959

Felly, sut gall gwasanaethau archif gefnogi athrawon a disgyblion gyda’r TGAU newydd hwn?
Yn Archifau Gwent, rydym yn creu canllaw addysgol newydd ar gyfer y TGAU Hanes newydd. Bydd y canllaw hwn yn awgrymu rhestr o eitemau yn ein casgliadau gan gynnwys ein llyfrgell astudiaethau lleol ar gyfer pob un o’r 6 pwnc. Bydd y canllaw ar gael ar ein gwefan ac yn cael ei ddosbarthu i athrawon ar draws y pum cyngor y mae ein gwasanaeth archifau yn eu cwmpasu – Torfaen, Casnewydd, Sir Fynwy, Blaenau Gwent a Chaerffili. Gall y canllaw gael ei ddefnyddio gan athrawon sydd am ymweld â’r gwasanaeth archifau i wneud ymchwil, cynllunio gweithgareddau a llywio eu haddysgu o’r modiwl yn ogystal â’r gwasanaeth archifau fel rhestr o eitemau i’w tynnu ynghyd ar gyfer grwpiau TGAU Hanes sy’n ymweld â’r archif neu ymweliadau ag ysgolion.
Wrth baratoi ar gyfer y canllaw hwn, fe wnaethom gynnal dau weithdy yn Archifau Gwent gyda’r tîm i feddwl pa eitemau allai fod yn berthnasol ar gyfer pob pwnc. Yn y gweithdai hyn, fe adolygon ni’r 5 maes ym mhob pwnc yn fanwl a chreu rhestr o eitemau awgrymedig yn ein casgliad i gyfeirio athrawon atynt (gweler tudalennau 14 i 25 o Fanyleb CBAC ar gyfer y TGAU Hanes newydd sydd i’w gweld yma).

Gwnaethom yn siŵr ein bod yn nodi’r canllawiau presennol ar ein casgliadau a ble y gellid eu cyfeirio. Er enghraifft, o fewn 1.5 Gwrthryfeloedd a Phrotestiadau yng Nghymru c. 1831-1891, maes 1.5.3 yw Siartiaeth yng Nghymru. Gyda’n gwasanaeth archifau yn cwmpasu Casnewydd a De-ddwyrain Cymru, mae gyda ni lawer o eitemau yn ymwneud â Siartiaeth ac mae gennym eisoes ganllaw cynhwysfawr ar Siartiaeth ar draws ein casgliadau ar ein gwefan y gallwn gyfeirio ato yn y canllaw TGAU (gweler yma: Siartiaeth yn Sir Fynwy: Canllaw i Ffynonellau’r Siartwyr yn Archifau Gwent)
Yn ogystal â nodi eitemau yn ein casgliad ein hunain, rydym yn cynnwys yn y canllaw adnoddau ar-lein y gall athrawon eu cyrchu am ddim fel Papurau Newydd Cymru Ar-lein, Mapiau Degwm, Cylchgronau Cymru Ar-lein, Corneli Clip, Mapiau Ordnans a mwy.
Yn ystod y broses hon, cawsom heriau wrth roi’r canllaw hwn at ei gilydd. Mae rhai meysydd yn y 6 pwnc y tu hwnt i ffocws daearyddol ein casgliadau. Er enghraifft, er bod gennym lawer o eitemau ar Siartiaeth yn 1.5 Gwrthryfeloedd a Phrotest yng Nghymru Wales c. 1831-1891, mae Gwrthryfel Merthyr 1831, Terfysgoedd Beca 1839-1843 a Rhyfel y Degwm yng Ngogledd-ddwyrain Cymru, 1886–1891 i gyd y tu hwnt i’n ffocws daearyddol ac yn feysydd lle mai ychydig i gymorth y gallem ei roi y tu hwnt i rai llyfrau hanesyddol cyd-destunol yn ein llyfrgell astudiaethau lleol. Yn ogystal, mae ein casgliadau’n dechrau o’r 13eg ganrif ac felly yn yr un modd ar gyfer 1.1 Rhys ap Gruffudd, Tywysog Deheubarth c. 1132-1197, nid ydym yn gallu darparu eitemau o’n casgliad ar y pwnc hwn yn benodol.
Er mwyn lliniaru hyn, rydym yn cynnwys rhestr o feysydd a phynciau wedi’u hamlygu sy’n arbennig o berthnasol i’n hardal ddaearyddol. Bydd hyn yn tynnu sylw er enghraifft: Siartiaeth; eitemau o’r cyfnod Tuduraidd a’r Rhyfel Cartref; y Rhyfel Byd Cyntaf yn Ne-ddwyrain Cymru; diwydiannau glo, haearn a dur; Aneurin Bevan, y GIG a chofnodion iechyd; menywod ar draws ein casgliadau; profiad mewnfudwyr i Gymru yn enwedig yng nghymuned amrywiol amlhiliol Casnewydd ac effaith y dociau; sut y gall cestyll daflu goleuni ar y cyfnod canoloesol; a mwy. Bydd hyn yn cefnogi athrawon ymhellach wrth benderfynu pa un o’r 6 pwnc i’w dewis.
Mae hwn yn gyfle o’r newydd i wasanaethau archifau ledled Cymru dynnu sylw at ba mor werthfawr y gall ein casgliadau fod wrth gefnogi athrawon, myfyrwyr ac addysg yng Nghymru.
A fyddwch chi’n gwneud eich canllaw eich hun?