Diwrnod Cadwraeth Ddigidol y Byd 2026

Laura Cotton, Archifau Morgannwg, Cadeirydd Consortiwm Cadwraeth Ddigidol Cymru

Yng Nghymru, mae gwasanaethau archifau wedi bod yn gweithio’n galed dros y blynyddoedd diwethaf i ddatblygu ac ymgorffori cadwraeth ddigidol yn eu harferion gwaith arferol. 

Cadwraeth ddigidol yw rheoli, trwy gadwraeth a mynediad, ddeunyddiau digidol.  Mae Consortiwm Cadwraeth Ddigidol Cymru yn grŵp o’r gwasanaethau archifau hynny sydd wedi dod at ei gilydd i sefydlu system i’w helpu’n briodol i ofalu am gasgliadau digidol a digidedig.  Ochr yn ochr â’r casgliadau archifau mwy traddodiadol (fel y rhai a grëwyd ar bapur a memrwn), mae mwyfwy o wrthrychau digidol yn cael eu cynnwys mewn gwasanaethau archif ledled Cymru.  Mae ymdrin â’r deunydd hwnnw yn golygu sgiliau hollol wahanol i’r archifwyr.

Un o’r heriau allweddol y mae staff archifau wedi’u darganfod wrth fabwysiadu cadwraeth ddigidol yw cyrchu ffeiliau digidol ar gyfryngau darfodedig. 

Er y gall system cadwraeth ddigidol helpu i gael mynediad at fformatau ffeiliau darfodedig a’u rendro i fformat y gellir ei ddarllen, mae hynny’n ddefnyddiol dim ond ar ôl i chi adfer y ffeil o’r ddisg hyblyg, ffon gof neu gyfryngau eraill.  Rydym yn gweithio mewn byd lle mae cwmnïau technoleg yn datblygu syniadau newydd a thechnoleg newydd yn gyson.  Nid yw’r rhan fwyaf o bobl yn treulio amser yn mudo popeth maen nhw wedi’i storio draw i’r fersiwn newydd o galedwedd neu feddalwedd.  Felly, mae gwasanaethau archifo yn aml yn derbyn disgiau laser, disgiau hyblyg, CDau, DVDau, ffyn cof, gyriannau caled allanol neu ystod o gyfryngau eraill y mae angen iddynt dynnu’r ffeiliau ohonynt.

Er mwyn helpu i gael mynediad at y deunydd hŷn hwn, mae’r gwasanaethau wedi bod yn tynnu darnau o hen offer at ei gilydd sy’n gallu tynnu’r wybodaeth sydd ei hangen a’i throsglwyddo i offer sy’n fwy modern.  Er enghraifft, mae Archifau Morgannwg wedi caffael Gyriant Disg Sip ar gyfer cyrchu disgiau sip – technoleg sydd wedi bod yn ddarfodedig ers nifer o flynyddoedd.  Mae offer hŷn fel hyn yn aml ar gael ail-law ar safleoedd ocsiwn adnabyddus. 

Y broblem y darganfu’r tîm wrth gaffael y darllenydd hwn oedd bod y ceblau i’w ddefnyddio yn ddarfodedig hefyd, felly arweiniodd hyn at chwilio am gyfrifiadur hŷn gyda’r cysylltwyr cywir a phorth USB fel y gellid copïo’r ffeiliau draw i dechnoleg newydd cyn cael eu llwytho i’r system cadwraeth ddigidol.  Un enghraifft yn unig yw hyn o’r camau y mae staff archifau wedi bod yn eu cymryd er mwyn cael mynediad at y mathau hyn o ffeiliau.

Mae’r gwasanaethau archifau wedi bod yn hynod ddiolchgar i Lywodraeth Cymru am gefnogi’r gwaith hwn, o ddarparu cyllid i gefnogi’r gwaith o fabwysiadu system yn ogystal â chaffael offer.  Er bod cryn ffordd i fynd, mae cynnydd sylweddol wedi’i wneud ledled Cymru i sicrhau nad yw ein treftadaeth ddigidol yn diflannu.