Crowd Cymru’n ennill Gwobr Gwirfoddoli Archif CAaCh 2026

Steph Roberts, Swyddog Prosiect Gwirfoddoli Digidol Crowd Cymru

Dychmygwch ddechrau swydd newydd ac ennill gwobr yn yr wythnosau cyntaf…

Steph ydw i, Swyddog Prosiect Gwirfoddoli Digidol newydd #CrowdCymru, yn gweithio ochr yn ochr â Jen Evans, a fydd yn gyfarwydd i nifer ohonoch chi o flogiadau blaenorol. Ac roeddem ni wrth ein bodd o fedru rhannu bod Crowd Cymru wedi ennill Gwobr Gwirfoddoli Archif CAaCh 2026!

Mae wedi bod yn fwrlwm! Wrth gwrs, does a wnelo’r wobr dim oll â fi, ond mae’n dyst i waith anhygoel #CrowdCymru dros y flwyddyn ddiwethaf – ac yn arwydd fy mod i wedi ymuno â thîm o sêr!

Beth yw Gwobr Gwirfoddoli Archif CAaCh?

Mae’r wobr flynyddol hon yn cydnabod gwaith sy’n cynnwys gwirfoddolwyr mewn gwasanaeth archif sefydliadol yn y DU neu Iwerddon. Mae’n dathlu rôl gwirfoddolwyr mewn gwasanaethau archif, ac yn rhannu astudiaethau achos arfer da gyda’r sector ehangach.

Roedd y newyddion yn hwb enfawr i ni, ac yn ffordd wych o anrhydeddu cyfraniadau ein gwirfoddolwyr. Dywedodd Jen, sydd wedi bod yn adeiladu ein tîm o wirfoddolwyr yn gyson ers 2022, ‘Rwy’n falch iawn o’r gymuned rydyn ni wedi’i hadeiladu gyda’n gilydd. Mae ein gwirfoddolwyr amrywiol a gwych bob amser yn fy syfrdanu gyda’u brwdfrydedd, eu parodrwydd i weithio a’u cyfeillgarwch.’ Maen nhw’n amlwg yn teimlo’r un fath. Mewn arolwg diweddar o’n gwirfoddolwyr, dywedodd 96% fod cyfrannu at y prosiect wedi gwella eu lles, a soniwyd yn arbennig am Jen am fod yn Swyddog Prosiect mor gefnogol, cyfeillgar a hygyrch. Pan fyddwch chi’n gweithio gyda gwirfoddolwyr – yn enwedig gwirfoddoli o bell – dyma’r pethau sy’n gwneud y gwahaniaeth!

Gweithdy Crowd Cymru

Roedd y gwirfoddolwyr hefyd yn gwerthfawrogi cymryd rhan mewn rhywbeth sy’n ysgogi’r meddwl, ac sydd wedi helpu i ddatblygu eu sgiliau digidol.

Dywedodd un o’r beirniaid, ‘Roeddwn i’n meddwl bod natur gynhwysol y model yn haeddu canmoliaeth yn ogystal â’r meddwl a roddwyd i’r heriau o wirfoddoli o bell – mae gwirfoddoli o bell yn wahanol iawn i’r model personol gyda heriau penodol i staff.’

Beth rydyn ni’n ei wneud

Prosiect torfol digidol a ariennir gan Lywodraeth Cymru ar gyfer archifau Cymru yw Crowd Cymru.  Rydym yn cefnogi tîm o 120 o wirfoddolwyr i helpu i wneud eitemau yn archifau Cymru yn haws i’w chwilio a’u darganfod yn ddigidol.

Ers 2022, mae ein gwirfoddolwyr wedi trawsgrifio a thagio dros 6000 o dudalennau o ddeunydd archifol, gan gynnwys lluniau hanesyddol o gymuned dociau Caerdydd, posteri ac effemera o Grŵp Lesbiaidd a Hoyw Gwent, a dyddiaduron Priscilla Scott-Ellis, cymdeithaswraig a nyrs gwirfoddol yn ystod rhyfel cartref Sbaen.

Lluniau diolch i Archifau Morgannwg

Dyw ein gwirfoddolwyr ddim yn gweithio ar dasgau arferol – maen nhw’n gwneud cyfraniadau medrus a gwerthfawr sy’n cyfoethogi’n uniongyrchol y data a gedwir yn ein harchifau, gan greu etifeddiaeth barhaol i dreftadaeth Cymru. Ac oherwydd bod y prosiect yn gwbl weithredol o bell, gall pobl o gymunedau a lleoliadau amrywiol gymryd rhan.

Mae hyn yn helpu i ddileu rhai o’r rhwystrau sy’n gysylltiedig â theithio, cost, symudedd, amserlenni gwaith anhyblyg neu gyfrifoldebau gofalu – gwers a ddysgwyd gennym yn ystod Covid, ond sy’n anffodus wedi ei hanghofio gan lawer o sefydliadau eisoes.

Llun diolch i Gasgliadau Arbennig ac Archifau Prifysgol Caerdydd

Adeiladu ein stori genedlaethol

Dywedodd Alan Hughes, Arweinydd Prosiect Crowd Cymru, a Phennaeth Casgliadau Arbennig ac Archifau ym Mhrifysgol Caerdydd: ‘Mae’n fraint gweithio gyda phobl a chymunedau ledled Cymru a’r byd i’n helpu i ddiogelu, dathlu a thyfu ein stori genedlaethol fel un tîm cysylltiedig. Rydym i gyd wrth ein bodd gyda’r gydnabyddiaeth hon gan y sector archifau yn y DU ac Iwerddon.’

Trwy ddatblygu sgiliau digidol a chynnig manteision llesiant, mae’r prosiect wedi ehangu effaith gymdeithasol a pherthnasedd archifau, ac wedi ymestyn ein hymgysylltiad â chynulleidfaoedd newydd. Dywedodd Heledd Fychan AS, Gweinidog y Cabinet dros Ddiwylliant a Chwaraeon, ei fod yn ‘enghraifft gref o sut y gall buddsoddi mewn diwylliant ac ymgysylltu digidol gyflawni manteision parhaol ledled Cymru, gan sicrhau bod stori Cymru yn perthyn i bawb mewn gwirionedd.’

I wybod mwy, ewch i wefan CAaCh, a dilynwch ni ar Bluesky neu ein cyfrif Instagram newydd.

Dyna’r cyfan am y tro – rydyn ni’n mynd i ddathlu!