Newyddion #CrowdCymru – gwirfoddoli digidol gydag archifau Cymru
Helô bawb, Jen sydd yma, Swyddog Prosiect Gwirfoddoli Digidol #CrowdCymru gyda llond lle o newyddion i’w rhannu!
Estyniad i’r prosiect a wyneb newydd!
Yn gyntaf, rwy’n falch iawn o gyhoeddi bod Llywodraeth Cymru wedi ymestyn ein cyllid hyd nes 31 Hydref 2026, gan roi saith mis arall i ni i drawsgrifio dogfennau a thagio delweddau o’n naw sefydliad partner, i’w gwneud yn fwy hygyrch ar gyfer ymchwil. Mae’r cyllid newydd hwn hefyd yn golygu aelod newydd o staff ar ffurf ail Swyddog Prosiect i weithio ochr yn ochr â fi, gan gryfhau ein gallu i gefnogi ein gwirfoddolwyr gwych. Felly, rydyn ni’n falch o groesawu ein swyddog newydd, Steph Roberts [yn y llun isod]. Mae ei chefndir mewn amgueddfeydd, yn gweithio gyda chasgliadau celf yn bennaf a bob amser a phwyslais ar bobl.

Meddai Steph; Roeddwn i gydag Amgueddfa Cymru am 16 mlynedd (lle gwnes i gwrdd â Jen am y tro cyntaf) fel Curadur, a Swyddog Dysgu ac Ymgysylltu. Yn fwy diweddar, gweithiais ar brosiect digido murluniau Art UK, a oedd hefyd yn golygu cefnogi tîm o wirfoddolwyr. Enynnwyd fy niddordeb cymaint nes i mi ddod yn wirfoddolwr fy hun!Mae gen i ddiddordeb yn y ffordd y gellir defnyddio casgliadau i ddeall ein profiadau bywyd yn well, yn enwedig persbectifau sy’n croestorri a phersbectifau ymylol: boed hynny’n straeon a phrofiadau’r dosbarth gweithiol, menywod, y gymuned gwîar, trefedigaethol, anabl neu fwyafrif byd-eang.
Mae Steph bellach wedi dechrau yn ei rôl newydd a mae ei phenodiad yn amserol dros ben, gan ein bod ni wedi cael llu o wirfoddolwyr newydd yn ymuno â ni yn ddiweddar; mae gennym 121 o wirfoddolwyr erbyn hyn, ac mae pobl newydd wedi ymuno â ni o India a Denmarc!
Newyddion am ein casgliadau
Mae’r gwaith ar y rhan fwyaf o’r casgliadau y soniais amdanynt yn fy neges flaenorol [darllenwch yma] nawr wedi’i gwblhau ac mae ein gwirfoddolwyr newydd ddechrau gweithio ar gasgliad newydd sbon, y cyntaf o Archifau Conwy!
Dyma gasgliad mawr [ychydig o dan 600 o lythyrau] o ohebiaeth bersonol y teulu Atkinson, yn bennaf i Edgar Atkinson, ac oddi wrtho, yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf tra roedd yn gwasanaethu fel Dirprwy Swyddog Cyflenwi yn 17eg Fataliwn Ffiwsilwyr y Cymry Brenhinol, yn Ffrainc yn bennaf. Gohebodd ag aelodau gwahanol o’i deulu, yn enwedig ei frawd Norman [mae’r cerdyn post isod oddi wrth Norman i’w rieni]. Mae’r casgliad gwych hwn yn llawn mewnwelediadau diddorol dros ben i fywydau’r brodyr yn Ffrainc a Phalesteina yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf ac mae hefyd yn dweud llawer wrthym am eu rhieni a’u chwaer gartref yn Llandudno, Gogledd Cymru.


Casgliad Atkinson [Archifau Conwy]
Bydd Archifau Conwy hefyd yn cyflwyno ail gasgliad yn fuan iawn – casgliad o Lyfrau Ardrethi Cynnar o’r 1900au. Roedd ardrethi yn drethi lleol, a defnyddiwyd yr arian a gasglwyd i gynnal a chadw eglwysi, cyflenwadau dŵr, carchardai, ffyrdd, ysbytai, gofalu am y tlodion ayb. Mae’r llyfrau wedi’u trefnu fesul stryd, a gellir defnyddio’r delweddau i olrhain hanesion tai a dysgu enwau cenedlaethau blaenorol a oedd yn byw yn eich cartref, ac mae hefyd yn opsiwn ardderchog yn lle’r cyfrifiad ac yn ffenestr ddiddorol dros ben i fywyd dinesig. Gofynnir i wirfoddolwyr fwydo data fel enw’r preswylydd, enw’r perchennog, y cyfeiriad, y math o eiddo a’r flwyddyn.

Llyfr Ardrethi Conwy [Archifau Conwy]
Bydd partner arall y prosiect, Archifau Sir Gaerfyrddin, hefyd yn cyflwyno’i gasgliad cyntaf cyn bo hir – Adroddiadau Archwiliadau Tai Gwledig o 1945 ar gyfer Sir Gaerfyrddin. Rhwng 1945 a’r blynyddoedd cynnar ar ôl y rhyfel, dogfennwyd archwiliadau tai yng nghefn gwlad Cymru yn Adroddiadau Blynyddol y Swyddog Iechyd Meddygol ar lefel y Cyngor Dosbarth Gwledig. Roedd yr adroddiadau hyn yn ymwneud â glanweithdra, amodau tai, a chyflenwadau dŵr, o gardiau archwiliadau tai unigol.


Adroddiadau Tai Sir Gaerfyrddin [Archifau Sir Gaerfyrddin]
Mae’r delweddau uchod yn enghraifft o’r hyn sydd i’w weld ar flaen un o’r cardiau ac ar y cefn. Ar y blaen rydym yn dechrau gyda’r wybodaeth fwyaf sylfaenol fel dyddiad yr archwiliad, enw’r archwilydd, enw’r tenant, galwedigaeth, math, oedran, a nifer y preswylwyr yn y tŷ. Yna rydym yn symud ymlaen at fanylion yr aelwyd, fel cyflenwad dŵr, mannau golchi, cyfleusterau coginio, mannau pantri, mannau glanweithdra, gwaredu sbwriel a draenio. Ar gefn y cerdyn, rydym yn parhau gyda’r cyflwr tu allan, sy’n cynnwys gerddi, waliau, toeau a simneiau, yna’r cyflwr tu mewn sy’n cynnwys waliau, nenfydau, lle tân, goleuadau, awyru, a grisiau. Mae’r wybodaeth ar y cardiau yn rhoi darlun byw o amodau byw yn y 1940au a bydd, rwy’n siŵr, yn ysgogi trafodaeth ddiddorol a bywiog.
Arolwg Adborth Gwirfoddolwyr: mae’r canlyniadau I MEWN!
Yn ogystal â darparu deunydd ysgogol i ddifyrru ein gwirfoddolwyr, rydym hefyd yn ceisio gwella ein heffeithiolrwydd drwy’r amser, er mwyn gwella profiad gwirfoddolwyr. Un ffordd rydyn ni’n gwneud hyn yw dosbarthu holiadur adborth yn rheolaidd, ac anfonwyd yr un diweddaraf at ein gwirfoddolwyr ym mis Chwefror. Roeddem yn hapus iawn gyda’r ymatebion – dywedodd 96% eu bod wedi dysgu sgiliau newydd, dywedodd 91% fod ganddynt fwy o hyder gyda TG a nododd 96% welliant yn eu hymdeimlad o lesiant. Roedd gwirfoddolwyr yn aml yn canmol hyblygrwydd y prosiect, mewnwelediadau archifol ystyrlon, a chefnogaeth gref gan dîm y Prosiect. Amlygodd yr ymatebion i’r arolwg y prosiect fel menter wirfoddol gefnogol, ddifyr a gwerth chweil, sy’n dod â phleser ac sy’n ysgogi deallusrwydd, gyda phwyslais ar y teimlad ystyrlon a geir wrth gyfrannu at y gwaith o warchod treftadaeth Cymru fel tîm. Mae’r prosiect yn amlwg yn datblygu sgiliau, yn rhoi hwb i hyder digidol, ac yn gwella llesiant mwyafrif y cyfranogwyr. Mae’r arolwg yn paentio darlun o gymuned ffyniannus o wirfoddolwyr sy’n llawn cymhelliant, y mae ei chyfraniadau yn cefnogi nodau Crowd Cymru a Llywodraeth Cymru mewn ffordd ystyrlon.
Darllenwch bopeth amdano!
Ar ôl rheoli’r gwirfoddolwyr a’u cefnogi, fy ngwaith craidd nesaf yw hyrwyddo’r prosiect ymhellach ac rwy’n gwneud hyn yn rhannol trwy’r cyfryngau cymdeithasol. Dros y misoedd diwethaf, rydw i wedi postio delweddau o’r casgliadau ar ein cyfrif Bluesky i nodi digwyddiadau fel Dydd Sant Ffolant, Dydd Gŵyl Dewi, Diwrnod Merched a Menywod mewn Chwaraeon a Diwrnod Rhyngwladol y Merched. Fis Mawrth roedd hi’n Fis Hanes Menywod ac fe fuon ni’n postio gan ddefnyddio hashnodau misol Archwilio Eich Archif. Fe wnaethom hefyd bostio ar flog Archives & Records Association ac roedd yr erthygl hefyd yng nghylchgrawn ARC i aelodau. Ac yn olaf, cawsom ein cynnwys fel un o’r 50 gwefan i’w gwylio yn 2026 yn rhifyn Ionawr / Chwefror 2026 o Gylchgrawn Who Do You Think You Are!
Mynediad a sbardun!
Rydym bellach yn bartneriaeth o 9 sefydliad sy’n tyfu ac sy’n llawn casgliadau diddorol dros ben i’w rhannu gyda Chymru a’r byd. Ein nod craidd yw cynyddu mynediad a sbarduno ymchwil newydd. Er mwyn cyflawni hyn, rydym wedi dechrau partneriaeth newydd gyffrous gyda Chasgliad y Werin Cymru, yr archif ddigidol genedlaethol sydd wedi ymrwymo i warchod hanesion amrywiol Cymru a’u rhannu. Dyma’r platfform perffaith i ddathlu’r casgliadau digidol a’r data amhrisiadwy, hanfodol a ddarperir gan ein gwirfoddolwyr, a rhoi mynediad atynt; siop un stop sy’n dod â phopeth at ei gilydd! Bydd rhai o’n casgliadau cynharaf yn cael eu lanlwytho’n gyntaf, gan gynnwys ffefrynnau cadarn fel Ffotograffau Cymuned Ddociau Caerdydd Archifau Morgannwg a Dyddiaduron Priscilla Scott-Ellis o Gasgliadau Arbennig ac Archifau Prifysgol Caerdydd. Fodd bynnag, mae’r gwaith wedi dechrau gyda thri chasgliad o ohebiaeth bersonol ynglŷn â’r bardd o’r Rhyfel Byd Cyntaf, Edward Thomas o’r archifau sydd ar gadw gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Phrifysgol Caerdydd fel y’u trawsgrifiwyd gan ein gwirfoddolwyr. Bydd angen ychydig o wirio a labelu ar y lanlwythiadau hyn, ond i’w gweld nhw i gyd fel y maent, rhowch “Edward Thomas” yn y bocs chwilio ar hafan Casgliad y Werin Cymru. Gallwch weld enghraifft yma.
Os hoffech chi ymuno â’n tîm bywiog o wirfoddolwyr Crowd Cymru, neu, os ydych chi’n rhan o gymuned/grŵp a allai fod â diddordeb yn barod, cysylltwch â Steph a minnau. Byddem yn hapus i ddod i siarad â chi am y prosiect a gallwn gynnal sesiynau hyfforddi naill ai ar-lein neu wyneb yn wyneb.
Jennifer Evans
Swyddog Prosiect Gwirfoddoli Digidol / E-bost: CrowdCymru@gwentarchives.gov.uk
Mae’r erthygl hon gan Jennifer Evans wedi’i thrwyddedu o dan Drwydded Ryngwladol Creative Commons Attribution 4.0

