Thema’r Wythnos Ryngwladol Archifau eleni yw ‘Archives Are You‘, sy’n rhoi cyfle delfrydol i ni bwysleisio’r pwysigrwydd o sicrhau bod ein casgliadau yn fwy cynrychioliadol. Drwy gydol hanes, mae menywod wedi gwneud cyfraniadau rhyfeddol, yma yng Nghymru ac ar draws y Byd. Yn aml, doedd y cyfraniadau yma ddim yn cael eu cofnodi, ac mae’r frwydr i fenywod gael eu derbyn ac i sicrhau hawliau cyfartal mewn cymdeithas wedi bod yn broses hir ac araf.

Ond mae gan Gymru Hanes Menywod cudd. Cliciwch isod i weld ein ffilm fer ar hanes menywod yn yr archifau.

Fe fydden ni wrth ein boddau yn gweld rhagor o ddeunydd fel hyn ymhlith y casgliadau sy’n cael eu cadw gan wasanaethau archifau Cymru. Efallai y bydd rhywbeth sy’n ymddangos yn ddi-nod i chi – poster neu daflen, casgliad o hen lythyrau neu ffotograff – o ddiddordeb mawr i ni. Felly, os ydych chi’n meddwl bod gennych chi ddeunydd a allai fod o ddiddordeb, cysylltwch â’ch gwasanaeth archifau lleol, i ni gael dal ati i greu darlun o hanes cudd Cymru.

Cysylltwch â Ni

Dilynwch ni:

Leave a Reply