2020 oedd y flwyddyn pryd y gwnaethom ‘glapio dros ein gofalwyr’, a dathlu ein harwyr iechyd yn gyhoeddus. Roedd y proffesiwn nyrsio yn rhan fawr o hyn, ac maent wedi parhau â’u gwaith a’u hymroddiad anhygoel trwy gydol y pandemig COVID-19.
Wrth edrych yn yr archifau, mae’n amlwg bod y gwerthfawrogiad hwn o nyrsys a’r proffesiwn nyrsio yn un hir sefydlog ac mae’n dod yn arbennig o amlwg ar adegau o adfyd. I ddathlu Diwrnod Rhyngwladol Nyrsys 2021, dyma flog gan Archifau Richard Burton, Prifysgol Abertawe, yn sôn am rai o’r eitemau perthnasol sydd yn eu casgliadau.

Rhyfel Byd Cyntaf – Mae’r cerdyn Nadolig hwn o gyfnod y rhyfel yn dangos y rhan bwysig a chwaraewyd gan fenywod yn darparu gofal a chefnogaeth feddygol i filwyr a oedd wedi’u hanafu.

Maes Glo De Cymru – Ar ôl iddi ymddiswyddo ym 1922, ar ôl bron i 20 mlynedd o wasanaeth, cyflwynodd y gweithwyr yng Nglofeydd a Gweithfeydd Golosg Llanbradach y rhodd hyfryd hwn i Nyrs James fel arwydd o’u ‘gwerthfawrogiad parhaol’, gan fynegi diolch am ei ‘Thynerwch, ei Medrusrwydd a’u Gofal’.

‘‘It is well known how much the Medical Practitioners valued your services, and the many successes of your faithful treatment of serious cases of accidents and illnesses are well known and appreciated.’
Mae’r poster sidan hwn gan Ebley Portable Theatre o 1892 yn tynnu sylw at y rôl bwysig a chwaraewyd gan nyrsys ardal yn un o Feysydd Glo De Cymru cyn dyddiau’r GIG. Mae’n hyrwyddo perfformiad arbennig i godi arian i nyrsys ardal, a ddisgrifir fel ‘deserving women…full of self-sacrifice and devotion’.

Cymdeithasau Nyrsio – mae cofnodion Cymdeithas Nyrsio Ardal East Side (Cyf. LAC/64/7) yn cynnwys manylion am y ‘gwaith defnyddiol’ cynyddol a wnaed gan nyrsys ardal, cyn amser darpariaeth statudol ar gyfer nyrsio ardal (a gyflwynwyd yn 1948). Roedd y Cymdeithasau hyn yn cefnogi gwasanaeth nyrsio amgen yn lle’r gwasanaeth nyrsio a ddarperid mewn cartrefi preifat drud. Mae’r adroddiad hwn o 1916 hefyd yn rhoi manylion am ‘gymorth gwerthfawr’ Nyrs Morris, y Nyrs Mamolaeth gyntaf yn Eastside, Abertawe.

Ym 1931 fe wnaeth Cymdeithas Nyrsio Clydach gydnabod eu nyrsys rhagorol a’r gefnogaeth leol iddynt, er gwaethaf amseroedd caled.

Casgliad Raissa Page- Yn fwy diweddar, cymerodd y ffotograffydd dogfennol Raissa Page lawer o ddelweddau trawiadol o nyrsys wrth eu gwaith, yn bennaf yn ystod yr 1980au – mewn ysbytai, cartrefi gofal, sefydliadau iechyd meddwl ac allan yn y gymuned (Cyf. DC/3).

Mae’r poster hwn yn defnyddio un o ffotograffau Raissa Page a dynnwyd yn Ysbyty Hackney Homerton. Fe’i cyhoeddwyd ar gyfer ymgyrch tâl / graddio nyrsio gan MATSA (Managerial Administrative Technical and Supervisory Association), adran staff undeb GMB ym 1988.

Tystia hyn i’r ffaith digalon braidd bod trafodaethau ynglŷn â chyflog teg i’r proffesiwn nyrsio yn parhau, dros 30 mlynedd ar ôl i’r poster hwn gael ei gynhyrchu.
Ond ar nodyn mwy cadarnhaol – mae dogfennau yn ein casgliadau archif yn dangos yn glir nad oes diffyg gwerthfawrogiad i’r nyrsys a’r proffesiwn nyrsio ymhlith y rhai sydd yn hynod ddiolchgar am y gofal meddygol, y cysur a’r caredigrwydd y meant yn ei dderbyn. O ryfeloedd byd i gyfnodau pandemig, bydd nyrsys bob amser yn arwyr.