Taflen werthu eiddo hanesyddol ar gyfer castell ‘I’m a Celebrity’ yn cael ei darganfod fel rhan o wythnos Archwiliwch Eich Archif
Mae taflen werthu eiddo hanesyddol ar gyfer Castell Gwrych, sef lleoliad cyfres I’m a Celebrity… Get Me Out of Here! eleni, wedi cael ei darganfod cyn Wythnos Archwiliwch Eich Archif (dydd Sadwrn 21 Tachwedd – ddydd Sul 29 Tachwedd 2020)

Castell ac ystad Gwrych ger Abergele, sy’n dyddio o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg, yw’r lleoliad cyntaf i gael ei ddefnyddio ym Mhrydain ar gyfer y sioe flynyddol boblogaidd, sy’n cael ei ffilmio fel arfer yn hinsawdd cynhesach Awstralia.
Mae’r daflen werthu eiddo, a’r lluniau cysylltiol a ddarganfuwyd yn dyddio o 1946, ac yn cynnig y castell i’w werthu mewn ocsiwn. Cafodd ei ddisgrifio fel “Castell hyfryd adnabyddus” yn y daflen, ac mae’n rhoi blas gwerthfawr i ni o sut roedd y castell yn edrych dros 80 mlynedd yn ôl. Mae’r ddogfen yn nodi i’r castell gael ei adeiladu yn ystod Cyfnod y Rhaglywiaeth gan Lloyd Bamford Hesketh, Yswain, a’i fod “wedi costio’n ddrud i’w adeiladu”.




Mae’n nodi bod yr eiddo’n cynnwys 26 ystafell wely a 7 ystafell ymolchi, oedd yn rhan o ystad 1400 erw a oedd yn cynnwys tai allan, porthdai, gerddi, coetir a pharcdir.
Mae gan y castell hanes diddorol, fel cartref i deulu Ieirll Dundonald, atyniad i dwristiaid, a chynigion yn ystod yr 1990au i’w droi yn westy moethus. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd roedd yn noddfa i gannoedd o blant Iddewig fel rhan o Ymgyrch Kindertransport. Bellach, mae’r castell yng ngofal Ymddiriedolaeth Cadwraeth Castell Gwrych a lwyddodd i’w brynu yn 2018 ar ran y genedl.


Cafodd yr hanes diddorol yma ei rannu gan Archifau’r Gogledd Ddwyrain a chafodd y lluniau eu darparu gan Wasanaeth Archifau Gwynedd fel rhan o wythnos Archwiliwch Eich Archif, sy’n cael ei threfnu gan Gymdeithas Archifau a Chofnodion y Deyrnas Unedig, ac sy’n cael ei chefnogi gan Gyngor Archifau a Chofnodion Cymru. Mae’r ymgyrch flynyddol wythnos o hyd yn annog pobl ledled Cymru i ddarganfod rhywbeth newydd a chyffrous yn archifau’r genedl, boed hynny’n bori drwy hanes eu teulu eu hunain neu ddarganfod straeon am bobl a lleoliadau sydd wrth galon ein cymunedau.
Meddai Sarah Roberts, archifydd yn Archifau’r Gogledd Ddwyrain: “Roedd Castell Gwrych wedi cadw’r teulu Dundonald mewn moethusrwydd ers yr 1870au, a byddai wedi bod yn lle llawer mwy cyfforddus i fyw ynddo na’r cromgelli llawn nadroedd mae’r cystadleuwyr yn gorfod eu dioddef ar I’m a Celebrity ar hyn o bryd.
“Ar ôl yr Ail Ryfel Byd, pan oedd yr adeilad yn cael ei ddefnyddio fel cartref i ffoaduriaid Iddewig fel rhan o’r ymgyrch Kindertransport, penderfynodd y teulu werthu’r tŷ mewn ocsiwn. Er gwaethaf sawl ymdrech dros y blynyddoedd i droi’r adeilad yn westy neu’n atyniad i dwristiaid, trodd y castell yn adfail nes ei drosglwyddo i Ymddiriedolaeth Cadwraeth Castell Gwrych. Mae’n wych gweld y castell yn cyrraedd cartrefi pobl ledled Cymru, a gall pobl ddysgu am yr hanes ac adeiladau tebyg drwy chwilio yn eu harchifau lleol.”



Yn ogystal â thaflen werthu eiddo Castell Gwrych, mae Archifau Cymru yn rhannu llythyr a ysgrifennwyd cyn 1879 sy’n defnyddio ffurf cynnar ar emojis, dogfennaeth am Haint Colera yng Nghaernarfon yn 1866, a’r llyfryn Stampiau Green Shield oedd i’w weld mewn llawer o gartrefi yn ystod yr 1960au.
Mae Archifau Cymru yn hyrwyddo gwaith Gwasanaethau Archifau Cymru a threftadaeth ddogfennol gyfoethog y wlad. Fel arfer, byddai gwasanaethau sydd wedi’u lleoli mewn swyddfeydd cofnodion awdurdodau lleol, sefydliadau cenedlaethol a phrifysgolion, yn gwahodd aelodau o’r cyhoedd i ymuno â nhw mewn amrywiaeth o ddigwyddiadau, ond oherwydd pandemig Covid-19, bydd yr ymgyrch yn cael ei chynnal yn ddigidol eleni. Mae pobl ledled Cymru a thu hwnt yn cael eu hannog i fewngofnodi i archifau ar-lein i ddysgu mwy am hanes Cymru.
Meddai’r Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, yr Arglwydd Elis-Thomas: “Yn ystod y cyfnod digyffelyb yma, mae archifau’n parhau i fod yn adnodd hanfodol er mwyn i ni ddysgu am hanes ein gwlad, ein cymunedau a’n pobl. Gan nad ydy pobl yn gallu ymweld â’u harchifau yn y cnawd ar hyn o bryd, bydd yr ymgyrch yma’n atgyfnerthu sut mae modd i ni fwynhau ein treftadaeth archifol gyfoethog ar-lein. Rwy’n annog pawb i fanteisio ar y cyfle yma i ddysgu rhagor am yr hyn sydd gan ein harchifau i’w cynnig iddyn nhw, ac i archwilio hanesion teuluoedd, pobl, busnesau a sefydliadau lleol sydd i’w cael yn yr archifau.”
Meddai Hayden Burns, Cadeirydd Cyngor Archifau a Chofnodion Cymru: “Rydyn ni’n falch iawn i gymryd rhan yn wythnos Archwiliwch Eich Archif unwaith eto eleni. Mae’r ymgyrch yn gyfle gwych i addysgu pawb am werth archifau a pha mor bwysig yw gwarchod a chynnal ein treftadaeth ddogfennol.
“Mae’r casgliadau hanesyddol sydd gan wasanaethau archifau Cymru yn gofnod o atgofion pobl Cymru, ein digwyddiadau a’n lleoliadau. Maen nhw’n adrodd ein hanesion ni, a thrwy wneud hynny yn ein cysylltu ni â’r gorffennol ac yn rhoi ymdeimlad o hunaniaeth i ni.”
Er mwyn dechrau pori, ewch i weld eich gwasanaeth archifau lleol ar-lein – https://archifau.cymru/archifdy/