Mae archifdai yn ailagor ar draws Cymru. Ond i gadw ymwelwyr a staff yn ddiogel, rydym wedi gorfod gwneud newidiadau. Dyma’r hyn y dylech ei ddisgwyl pan fyddwn yn eich croesawu yn ôl.
- Cysylltwch â’r archifdy. Bydd angen i chi wneud apwyntiad i ymweld.
- Bydd angen i chi hefyd archebu’ch holl ddogfennau cyn eich ymweliad. Os oes gan yr archifdy gatalog ar-lein, edrychwch arno i ddod o hyd i’r dogfennau rydych chi eisiau eu gweld.
- Ewch â phopeth y bydd ei angen arnoch chi ar gyfer yr ymweliad. Gallai hyn gynnwys eich pensil eich hun, llyfr nodiadau, chwyddwydr, gliniadur neu ddyfais arall, a chamera.
- Pan fyddwch chi’n cyrraedd, bydd mesurau pellhau cymdeithasol a hylendid ar waith.
- Bydd y dogfennau mewn cwarantîn am o leiaf 72 awr. Os ydych chi angen copïau o ddogfennau, cysylltwch â’r archifdy am gyngor cyn i chi ymweld.
- Ni fydd mynediad at gyfrifiaduron, mynegeion, catalogau, llyfrgelloedd cyfeirio, microfiche a darllenwyr microfiche yn yr ystafell ymchwilio ar gael.
- Ni fydd cyfleusterau ar gyfer cael egwyl, megis peiriannau bwyd a diod ac ardaloedd bwyta ar gael i’w defnyddio.
- Er eich diogelwch eich hun ac eraill, ceisiwch gyffwrdd â’r dogfennau ac arwynebau bwrdd cyn lleied â phosibl yn ystod eich ymweliad.
- Os na allwch chi ymweld yn bersonol, mae’n bosibl bod yr archifdy yn cynnig Gwasanaeth Ymchwil ac yn ymgymryd ag ymchwil ar eich rhan. Edrychwch ar eu gwefan am ragor o fanylion.
Yn olaf, croeso’n ôl, a diolch am ein helpu ni i sicrhau diogelwch pawb.