Lansiwyd ein harddangosfa ‘Gwaed Morgannwg’ yn Hydref 2019 ac roedd ar gael i’w weld yn Archifau Morgannwg tan ddiwedd y flwyddyn.

Roedd disgwyl i’r arddangosa teithio i leoliadau ar draws de Cymru yn ystod 2020. O ganlyniad i’r pandemig Covid19 bu’n rhaid i ni ddod a’r daith i ben, dim ond ychydig fisoedd ar ôl dechrau. Mae’r baneri nawr wedi eu cadw nes bod modd i ni ail-gychwyn ar y daith.
Yn y cyfamser, rydym wedi ychwanegu cynnwys yr arddangosfa i’n gwefan fel bod modd ei weld a’i fwynhau o adref.
Cefnogwyd yr arddangosfa yn ariannol gan Cyngor Archifau a Chofnodion Cymru. Mae’n dathlu cyflawni ein prosiect tair blynedd, ‘Gwaed Morgannwg’, i gatalogio a chadw cofnodion y Bwrdd Glo Cenedlaethol a’r cwmniau glo oedd yn bodoli cyn gwladoli’r diwydiant. Daeth y cyllid ar gyfer y prosiect ei hun gan yr elusen ymchwil meddygol, Ymddiriedolaeth Wellcome, ac o ganlyniad mae’r arddangosfa yn ymchwilio i nifer o elfennau o iechyd a llesiant yn y diwydiant glo yn ne Cymru.

Mae’r rhain yn cynnwys datblygiad baddonau pen pwll a chyfleusterau megis ysbytai a chanolfanau adsefydlu.

Ymchwiliwn i effaith gwaith tanddaear ar Iechyd glowyr trwy edrych ar afiechydon diwydianol – niwmoconiosis, silicosis a nystagmus.

Mae’r peryg o fewn y diwydiant yn glir yn y nifer o drchinebau mawr effeithiodd ar faes glo de Cymru, gan gynnwys y trychineb lofaol fwyaf yn nywidiant glo Prydain yn Senghennydd ym 1913.

Mae’r arddangosfa’n bwrw golwg hefyd ar ochr mwy positif o fywyd yn y maes glo trwy’r gweithgareddau a ddigwyddiadau cymunedol, sy’n cynnwys chwaraeon, bandiau a chorau, clybiau bechgyn a merched a Sefydliadau’r Glowyr.
Gallwch weld yr arddangosfa yma: https://glamarchives.gov.uk/gwaed/?lang=cy
Cymerwch gip er mwyn darganfod mwy am gasgliadau glo Archifau Morgannwg.
Rhian Diggins,
Archifau Morgannwg