Oherwydd y pandemig COVID19, caeodd Archifau Richard Burton ei ddrysau i’r cyhoedd dros dro ar 19eg Mawrth, ac ers hynny mae’r holl staff wedi bod yn gweithio o gartref. Mae’r mis diwethaf wedi bod yn dipyn o her, gyda sawl neges i’r adran TG, mynd i’r afael â gweithio o bell, a chynnydd mawr mewn snaciau! Ar y campws mae’n rhaid dringo 7 rhediad o risiau i gyrraedd yr ystafell de… ond does ond angen cerdded 7 cam i gyrraedd y tun bisgedi yn y ty!
Ond beth all archifydd ei wneud heb fynediad i archifau? Cryn dipyn fel mae’n digwydd! Dyma gipolwg ar ein diwrnod gwaith newydd:
Cyfarfod Tîm Dyddiol trwy Zoom
Yn gyffredinol, y cyfarfod yma yw’r unig strwythur go iawn sydd gennym bob dydd. Fel gyda unrhyw system technoleg newydd, roedd dod i arfer gyda defnyddio Zoom yn sialens. Yn ystod yr wythnos gyntaf, roedd gan rai ohonom sain ond dim fideo, ac roedd gan eraill fideo ond dim sain. Erbyn hyn mae pawb wedi ymgyfarwyddo. Wrth gwrs, mae distawrwydd lletchwith pob hyn a hyn pan nad oes unrhyw un yn dweud gair, ac wedyn mae pawb yn siarad yn sydyn ar unwaith, ond mae wedi dod yn rhan bwysig iawn o’r diwrnod. Rydyn ni’n rhannu unrhyw ddiweddariadau, yn siarad am unrhyw beth newydd rydyn ni’n gweithio arno, ac yn gofyn sut mae pawb. Byddem i gyd yn teimlo’n llawer mwy ynysig hebddo.
Ateb Ymholiadau o Bell
Er nad ydym wedi bod mor brysur ag arfer trwy e-bost neu ffôn, rydym yn falch bod pobl yn cysylltu â ni gyda’u hymholiadau. Nid oes gennym fynediad at y cofnodion corfforol, ond mae gennym fynediad at ein catalogau ar-lein. Rydym wedi cynorthwyo ymchwilwyr trwy edrych i weld lle y gellir dod o hyd i adnoddau ar-lein eraill, ac wrth wneud hynny, rydym wedi bod yn datblygu ein gwybodaeth ein hunain am ffynonellau eraill hefyd.
Gweithio ar Ddata Catalog
Yn 2017 fe wnaethom fewnforio swp sylweddol o ddata o hen system gatalogio (MODES) i’r un rydyn ni’n ei defnyddio ar hyn o bryd (CALM). Mae angen llawer o waith golygu ar y data, felly mae wedi aros ar ffurf drafft ers hynny. Nid yw’n waith y gallai unrhyw un ohonom neilltuo amser sylweddol iddo yn ystod ein diwrnod gwaith arferol, ond byddai’n darparu disgrifiadau cliriach i gannoedd o gofnodion, felly rydym wedi penderfynu dechrau ar y gwaith. Mae’r gwaith golygu yn ailadroddus ac ychydig yn ddiflas, ond mewn gwirionedd mae’n dasg berffaith ar gyfer gweithio gartref, yn enwedig pan fo angen rhoi sylw rheolaidd i blentyn 1 oed sy’n ceisio dringo ar fwrdd neu gnoi gwifren gliniadur tra eich bod chi’n gweithio!
Gwaith Canmlwyddiant
Bu’n rhaid gohirio gwaith catalogio cofnodion y Brifysgol, ond mae ymholiadau am y casgliad yn cynyddu yn ystod blwyddyn y canmlwyddiant. Mae Archifydd y Prosiect Emily Hewitt yn brysurach nag erioed. Er bod yr arddangosfa arfaethedig ‘Prifysgol Abertawe: Gwneud Tonnau er 1920’ yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe wedi’i gohirio am y tro, mae’r gwaith i baratoi ar ei chyfer yn parhau. Mae Emily wedi cael ei chyfweld gan Dr Sam Blaxland ar gyfer cyfres o bodlediadau ar hanes y Brifysgol. Mae hi hefyd wedi bod yn defnyddio Trydar i hybu’r canmlwyddiant yn ystod ymgyrch #Archives30 ym mis Ebrill, ac wedi gorfod meddwl yn greadigol i wneud defnydd da o’r ddeunydd a sganiwyd cyn i’r adeilad gau. Edrychwch trwy ein llinell amser Twitter @SwanUniArchives i ddarganfod mwy.

Crynhoi Hanes Llafar
Mae ein dau Gynorthwyydd Archif, Sarah Thompson a Stephanie Basford-Morris, wedi bod yn creu crynodebau o gyfweliadau ar gyfer prosiect hanes llafar ‘Lleisiau Prifysgol Abertawe’ (Voices of Swansea University), 1920-2020. Mae hyn yn rhan o’r gefnogaeth archifol yr ydym wedi bod yn ei darparu i Dr Sam Blaxland ar gyfer y prosiect, a gofnododd atgofion a phrofiadau unigolion sydd wedi astudio a/neu weithio ym Mhrifysgol Abertawe yn y gorffennol.
Cynhaliaeth yr Adeilad
Mae ein Pennaeth Gwasanaeth, Sian Williams, wedi bod yn ymweld â’r safle yn rheolaidd i sicrhau bod yr adeilad a’r casgliadau’n parhau i fod yn ddiogel.
Myfyrio
Mae gweithio o gartref wedi rhoi cyfle inni dreulio peth amser yn dal i fyny ar e-byst, edrych ar geisiadau ar gyfer prosiectau newydd a chyllid, ac i feddwl am gyfleoedd ar gyfer y dyfodol. Rydym wedi gweld rhai enghreifftiau gwych o ffyrdd i gefnogi dysgu ac addysgu digidol ar yr adeg hon gan ein cydweithwyr ym myd yr archifau, ac rydym yn cydnabod y byddem wrth ein bodd yn gallu gwneud mwy.
Ond mae hefyd wedi gwneud i ni sylweddoli nad oes dim byd tebyg i groesawu grwpiau yn bersonol i’r Archifau, a chlywed ambell ‘waw’ pan ddangoswn y silffoedd yn yr ystafell ddiogel iddynt. Rydyn ni’n gweld eisiau cael myfyrwyr yn cychwyn sgwrs ddifr am ddogfennau gwreiddiol, a chroesawu ymchwilwyr o leoedd diddorol o bedwar ban byd.
Rydym yn dymuno pob dymuniad da i chi, ac yn gobeithio eich bod chi’n cadw’n ddiogel ac yn iach. Edrychwn ymlaen at eich gweld chi i gyd yn yr Archifau yn fuan!
O.N. Os oes diddordeb gennych, gallwch fwynhau taith 360 o amgylch un o’n hystafelloedd diogel yma
Stacy O’Sullivan,
Archifau Richard Burton, Prifysgol Abertawe