Mae’r Cyngor Rhyngwladol ar Archifau (International Council on Archives) yn atgoffa pobl bod archifau’n parhau i fod yn hygyrch, er bod yr adeiladau ar gau i’r cyhoedd.

Mae gan gwasanaethau archifau a chofnodion rôl hanfodol yn yr amseroedd heriol hyn, ac maent yn parhau i weithredu i hwyluso gweithrediadau busnes a llywodraeth.

Sut ydych chi’n gwneud penderfyniad, yn darparu gwasanaethau gofal iechyd, neu’n cadw economïau i symud heb y wybodaeth a data cywir? Dyna le mae archifwyr, rheolwyr cofnodion a rheolwyr gwybodaeth yn dod i rym. Heb archifau, ni allai busnesau, cymdeithas sifil, y llywodraeth, a sefydliadau rhyngwladol eraill weithredu.

Mae gwasanaethau hefyd yn addasu i realiti newydd a modelau darparu gwasanaeth, nid yn ddidrafferth, ond yn dal i ymateb i’r anghenion o sicrhau llywodraethu sefydliadau cyhoeddus a phreifat. Maent yn hanfodol i gadw busnesau a’r llywodraeth i weithredu, er bod y staff yn gweithio o gartref. Maent yn ceisio gweithio mewn amgylcheddau digidol dosbarthedig, gan sicrhau ar yr un pryd y gall gweithwyr a’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau barhau i gyrchu cofnodion a data i gadw pethau i symud.

Mae’r Cyngor Rhyngwladol ar Archifau wedi datblygu map digidol i ddweud wrth y gymuned beth mae gwasanaethau archifau a chofnodion yn ei wneud, a beth sy’n hygyrch. Gallwch chwilio’r map i ddod o hyd i arddangosfeydd ar-lein, catalogau digidol, casgliadau digidol penodol neu brosiect cyrchu torf y gallwch chi gymryd rhan ynddo tra’ch bod chi’n #ArosAdref.

Gallwch weld y map digidol yma: Digital map

Leave a Reply