Mae gan Archifau Ceredigion gasgliad helaeth o ffotograffau o stiwdio John Turnor Mathias, a oedd yn gweithredu yn nhref Aberteifi o’r 1860au ymlaen.
Tynnodd Mathias lun o bawb – neu felly mae’n ymddangos o’r cannoedd o brintiau sydd gennym yn y casgliad yma. Nid oedd ei waith yn gyfyngedig i’r stiwdio; mae yna hefyd ffotograffau o strydoedd yn y dref, ac o bobl ac anifeiliaid y tu allan.

Yn anffodus, mae’r bobl yn lluniau Mathias yn anhysbys yn bennaf. Mae rhai eithriadau, ond yn y rhan fwyaf o achosion, dim ond ddelwedd atgofus ond dienw sydd gennym. Yn yr un modd, mae’n gasgliad mor hyfryd mewn sawl ffordd. Mae un eitem benodol yn cynnig cyfle arbennig i archwilio ac ystyried ffotograffiaeth Fictoraidd: albwm o dros 800 o ffotograffau a oedd yn gatalog ar gyfer archebu printiau dyblyg. Mae’r albwm wedi’u trefnu yn adrannau gan gynnwys dynion, menywod, plant, teuluoedd, brodyr a chwiorydd, pobl mewn gwisg Gymreig, ac eraill.

Oherwydd roedd y broses tynnu llun yn un cymhleth a oedd yn gofyn am lawer o offer, cydosod a gweithrediad medrus ac amser datguddio hir, cymerwyd y rhan fwyaf o ffotograffau cynnar mewn stiwdio, lle cedwir yr holl offer angenrheidiol i gynhyrchu ffotograff llwyddiannus. Weithiau, gosodwyd y cefnlenni a’r propiau tu allan i fanteisio ar y golau naturiol.

Er bod amgylchedd y stiwdio a’r amrywiaeth o bropiau yn ddiddorol, yr agwedd fwyaf diddorol a hudol o’r ffotograffau yw’r bobl.

Yr un ffactor sy’n uno pawb yn y lluniau yma yw bod pob un ohonynt wedi’i dewis cael eu llun wedi’i thynnu yn stiwdio Mathias. Y llall, sy’n weladwy i ni bron i ganrif a hanner yn ddiweddarach, yw eu presenoldeb dwys ‘Fictoraidd’. Ni fyddaf yn ceisio ei ddiffinio; i mi, mae’n drawiadol ac yn adnabyddadwy, a phan welir y delweddau’n yma mae’n rhywsut yn cymryd drosodd personoliaeth unigryw’r unigolion. Ond wrth gweld tudalen gyfan o ddynion, ferched, neu deuluoedd cyfan, gallwn werthfawrogi eu natur unigryw, eu dynoliaeth a’u hamrywiaeth gogoneddus.
Wrth edrych ar bortreadau’r bobl hyn sydd wedi marw ers tro, mae’n hawdd ddyfeisio straeon amdanynt, gan dychmygu nodweddion cymeriad, a gwerthuso, dehongli, a phasio ein barn fodern (ac hyn siwr o fod yn un anghywir!). Ac wrth wneud hynny, teimlaf ein bod nid yn unig yn nes at y gorffennol ond hefyd at y presennol.
Dr. Ania Skarżyńska, Uwch Archifydd, Archifdy Ceredigion