Sefydlwyd y gwobrau ‘Paperless Awards’ gan y Sector Cyhoeddus yn 2017 i annog cynnydd digidol, i gydnabod cyflawniad, ac i hybu arfer da gyda drawsnewid digidol o fewn sefydliadau sector cyhoeddus.

Eleni roedd nifer o gategorïau, yn amrywio o ddiogelwch data, rhyngweithredu system, gofal a phrofiad cwsmeriaid, ac effeithlonrwydd llif gwaith. Wrth i waith Grŵp Cadwedigaeth Ddigidol Gyngor Archifau a Chofnodion Cymru ddatblygu fframwaith polisi, wedi’i gefnogi gan seilwaith technegol i sicrhau mynediad at, a chadw, data dilys, dibynadwy a diogel, fe’i cyflwynwyd cais i’w ystyried am wobr i gydnabod y gwaith hwn. Roedd y cais yn llwyddiannus a chafodd y prosiect ei roi ar y rhestr fer y gwobrau yng nghategori Diogelwch Data a Gwybodaeth.

Cynhaliwyd y seremoni wobrwyo ar 11eg o Orffennaf mewn awyrendy wedi’i addasu yng Nghanolfan Concorde, Maes Awyr Manceinion. Cawsom ein croesawu i’r digwyddiad gan dderbyniad siampên, ac yna pryd o fwyd ac adloniant gan y digrifwr, Milton Jones, a hefyd gynhaliodd y gwobrau.

Enillwyd ein categori gan NHS Digital ar gyfer eu ddatblygiad o becyn Cymorth Diogelwch ac Amddiffyn Data, ond er na wnaethom ennill, rhoddodd y digwyddiad gyfle i rwydweithio a chodi ymwybyddiaeth o waith Cyngor Archifau a Chofnodion Cymru, a phwysigrwydd cadw a darparu mynediad i gynnwys digidol. Hoffwn ddiolch i Gyngor Archifau a Chofnodion Cymru a Llyfrgell Genedlaethol Cymru am gefnogi fy mhresenoldeb yn y digwyddiad.

Sally McInnes,
Cadeirydd, Grŵp Cadwedigaeth Ddigidol Gyngor Archifau a Chofnodion Cymru

Leave a Reply