Nid tasg hawdd yw dathlu canmlwyddiant digwyddiad mor cataclysmig â’r Rhyfel Byd Cyntaf. Roedden ni’n mwyn cynhyrchu rhywbeth fyddai’n wahanol a pharhaus, a allai fod yn ganolbwynt i gofio, ac ar yr un pryd adnodd i helpu pobl i ddarganfod y rhan y chwaraeodd eu cyndadau yn y rhyfel. Ond sut i wneud hynny?

Dros y blynyddoedd, rydyn ni wedi derbyn nifer o rhestrau anrhydedd. Weithiau fe’u rhoddwyd i ni gyda’r geiriau “Mae’n debyg fyddwch chi ddim yn mwyn hyn, ond …”, ac yna rhywfaint o syndod pan wnaethom ni. Mae llawer ohonyn nhw wedi dod o eglwysi a chapeli sydd wedi cau, ac mae cyfuniad o flynyddoedd o leithder ac esgeulustod wedi niweidio eitemau addurnol iawn oedd unwaith yn y lle blaenaf.

West Glam Blog 2018 3Roedd newid cynnil yn y ffordd cafodd gwasanaeth rhyfel ei goffáu. Yn ystod y rhyfel, roedd y pwyslais mwyaf ar werthfawrogi’r rhai oedd yn gwasanaethu. Roedd hyn yn golygu’r milwyr, yn amlwg, ond yn aml roedd yn cynnwys menywod hefyd, oedd yn gwasanaethu fel nyrsys neu weithwyr arfau. Dechreuodd nifer o sefydliadau restr anrhydedd: i rai, poster oedd hon, a luniwyd fel arfer gan galigraffydd, gan gynnwys rhestr o enwau’r rhai oedd yn ymladd. Yn yr un modd, gellid ei argraffu a’i ddosbarthu fel llyfryn. Ymatebodd cymunedau eraill mewn ffordd fwy ymarferol, trwy sefydlu pwyllgorau a chodi arian ar gyfer cysuron neu eitemau coffa i’r dynion ar y ffrynt.

Ar ôl i’r rhyfel ddod i ben a daeth y dynion adref, bu’r genedl yn trafod sut orau i ddelio â’r hyn a ddigwyddodd. Symudodd y ffocws i’r rhai nad oeddent wedi dod adref: yn ystod y degawd wedi’r rhyfel, cododd llawer o gymunedau dabledi, croesau a chofgolofnau, neu adeiladwyd neuaddau a chapeli, i gofio eu meiron ac i ddarparu canolbwynt ar gyfer cofio blynyddol. Aeth yr amser heibio, a chafodd y rholiau anrhydedd oedd yn lle amlwg yn ystod y rhyfel eu symud i ystafelloedd llai, atigau a storfeydd, a’r hen filwyr y mae eu henwau a restrwyd arddyn nhw wedi diflannu un wrth un.

West Glam Blog 2018Mae sefydliadau fel Comisiwn Beddau Rhyfel y Gymanwlad yn gweithio’n galed i gasglu’r wybodaeth am y dynion a fu farw. Gall y rhai a ddaeth adref fod yn fwy amheus i’r ymchwilydd: dychwelon nhw i’w cartrefi a’u swyddi, yn aml heb siarad am y lleoedd roeddent wedi bod a’r pethau a welon nhw. Ble gall yr ymchwilydd fynd i ddarganfod amdanyn nhw? Dyluniwyd ein coffa i helpu.

Gwnaethon ni ddigideiddio’r cofebion a rholiau anrhydedd rhyfel i gyd sydd yn Archifau Gorllewin Morgannwg, trawsgrifio’r holl enwau a’u gwneud yn mynegai. Cafodd hyn ei uwchlwytho ar ein gwefan fel rhestr anrhydedd ddigidol. Mae gan bob enw ar y mynegai (mae 4295 ohonyn nhw) ddolen i’r gofeb lle maent yn ymddangos, gyda gwybodaeth am ble cafodd ei harddangos a sut cafodd ei gwneud.

Gellir gweld yr adnodd ar ein gwefan, www.abertawe.gov.uk/archifaugorllewinmorgannwg.West Glam Blog 2018 2

Mae ein gobaith y bydd hyn yn gofeb barhaol i’r dynion a menywod o’n hardal a gymerodd ran yn y rhyfel, a bydd yn adnodd yn ddefnyddiol ar ôl i goffau arbennig eleni ddod i ben.

Leave a Reply