Blog gwestai gan Aron Roberts
Fe gychwynnais i wirfoddoli yn Archifdy Sir Ddinbych ddechau mis Gorffennaf, gyda’r bwriad o ennill profiad gwaith gwerth chweil cyn mynd ati i wneud gradd Meistr mewn Gweinyddu Archifau ym Mhrifysgol Aberystwyth fis Medi. Yn fy nghyfnod yn yr Archifdy bûm yn gwella’r catalog ar gyfer Cynlluniau Rheoli Adeiladu Bae Colwyn drwy ychwanegu mwy o fanylion at ddisgrifiad pob eitem. Rwyf hefyd wedi asesu cyflwr pob un o’r cynlluniau, sy’n dyddio o 1890 i 1966, fel bod modd eu diogelu drwy bennu amodau priodol ar gyfer mynediad.
Cefais y syniad i ddod yn Archifydd yn ôl yn 2015, drwy wirfoddoli fel ymchwilydd ar brosiect oedd yn bwrw golwg ar brofiadau pobl ag anableddau dysgu yn Ysbyty Gogledd Cymru. Drwy hynny cefais ddod i fy Archifdy lleol yma yn Sir Ddinbych am y tro cyntaf.
Roedd yn wefr trin a thrafod y dogfennau hanesyddol, a rhoddodd hynny sicrwydd imi y byddwn i’n mwynhau gyrfa lle byddwn i’n diogelu’r holl dystiolaeth oedd yn y dogfennau hynny, ei rheoli a hwyluso mynediad ati.
Bryd hynny, fodd bynnag, roedd y syniad o ddychwelyd i’r Brifysgol i wneud y cwrs achrededig (yn fuan wedi imi gwblhau gradd Meistr mewn Astudiaethau Llenyddol) yn ddigon i droi fy ngwallt yn wyn, heb sôn am y ffaith bod gen i filiau i’w talu, ac felly fe ddilynais lwybr tra gwahanol i gefn gwlad, yn gweithio fel Swyddog Ardal dan Hyfforddiant yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy.
Yn Llangollen oedd fy swyddfa i, ac am flwyddyn a hanner bûm yn gweithio â thîm bendigedig ledled y Sir, a oedd yn gweithio’n galed i ddiogelu a hyrwyddo tirlun prydferth Sir Ddinbych. Roedd o’n benderfyniad anodd i ymadael â’r swydd honno fis Mehefin, ond roedd hi’n amser imi feddwl am y dyfodol – ac wrth wneud hynny, fel pawb arall rwy’n siŵr, roedd y gorffennol yn ddylanwad mawr arnaf.
I mi, dyna sy’n gwneud gweithio mewn Archifdy mor gyffrous, er gwaethaf y ddelwedd sychlyd. Mae Archifdai’n llawn dop o bethau pwysig, gwirioneddau cudd sy’n aros i rywun eu darganfod, a fedrai newid cwrs bywyd y sawl sy’n dod o hyd iddynt. Wrth wirfoddoli yma mae hynny wedi dod yn amlycach fyth imi, gan weld bod aelodau o staff Archifdy Sir Ddinbych yn geidwaid i’r grym y gall pethau o’r gorffennol eu cael yn y presennol, yn ddirgel tan i rywun ddod i mewn drwy’r drws a gofyn amdanynt.
Diolch yn fawr am y croeso a gefais i,
Aron Roberts
“Tra bu Aron gyda ni fe wnaeth argraff dda iawn ar bob un ohonom, a dymunwn yn dda iddo yn ei yrfa fel Archifydd ” – Archifau sir Ddinbych.