Wythnos Archwilio eich Archif yn cael ei lansio gan yr athletwraig, anturwraig a darlledwraig Lowri Morgan.

Mae archifau ledled Cymru yn paratoi i ddathlu ac arddangos eu gwasanaethau a casgliadau ar gyfer wythnos Archwilio Eich Archifau, sydd eleni yn rhedeg rhwng 17 a 25 Tachwedd.

Explore Your Archive - Lowri Morgan at Glamorgan Archives 1

Mae’r ymgyrch wythnos o hyd yn annog pobl i ddarganfod y storïau, y ffeithiau, y lleoedd a’r bobl sy’n guriad calon cymunedau yng Nghymru, a bydd llawer o archifau yn cynnal gweithgareddau arbennig ac yn gwahodd y cyhoedd i brofi, deall ac ymfalchïo yng nghyfoeth ac amrywiaeth y deunyddiau sydd ganddynt.

Yr athletwraig, anturwraig a darlledwraig Lowri Morgan yw Llysgennad 2018 ar gyfer Archwilio Eich Archifau yng Nghymru. Wrth lansio’r ŵyl yng Ngwasanaeth Archifau Gwynedd yng Nghaernarfon, meddai: “Mae hanes yn fy nghyfareddu, ac mae gallu cerdded i mewn i archif a chael gymaint i’w archwilio ar flaenau’ch bysedd yn fraint. Rwyf eisoes wedi cael rhoi cynnig ar waith cadw dogfennau hanesyddol gyda gwirfoddolwyr eraill, adnabod a chatalogio rhoddion diweddar a hyd yn oed archwilio hanes fy nhŷ fy hun!

“Byddwn yn cymell unrhyw un i ymweld â’u harchif lleol, hyd yn oed os nad oes gennych syniad ble i ddechrau mae staff ar gael i helpu a rhoi cyngor – gall unrhywun a dylai unrhyw un fanteisio ar ein gwasanaeth archif gwych yng Nghymru.”

Fel rhan o Archwiliwch Eich Archifau, bydd nifer o ddigwyddiadau rhad ac am ddim ar gael mewn archifau ledled Cymru – o sgyrsiau ac arddangosiadau ffilm i sesiynau adrodd storïau i blant a gweithdai creadigol.

Dywedodd Gweinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon Llywodraeth Cymru, yr Arglwydd Elis-Thomas AC: “Mae archifau yn chwarae rhan annatod yn ffurfio ein cymunedau a’n helpu i ddatblygu ymdeimlad cyfoethog o le a hunaniaeth. Maen nhw’n unigryw, gan fod ganddynt gofnodion gwreiddiol o bobl, teuluoedd, busnesau a sefydliadau lleol, yn aml yn eu geiriau eu hunain. Rwyf yn gobeithio y bydd yr ymgyrch hon yn cyflwyno cynulleidfa newydd i ehangder yr hyn sydd ar gael yn y llefydd rhyfeddol hyn, a byddwn yn annog unrhyw un i ymweld, archwilio ac ymwneud â’u gwasanaeth archif lleol.”

Mae gan archifau Cymru gasgliad enfawr o ddeunyddiau, ond mae rhai o’r eitemau mwyaf anarferol yn y casgliadau yn cynnwys llyfr anodedig o wisgers cathod go iawn (gydag enw cath berchennog pob wisger); llyfr allfwriad o 1698 sy’n cynnwys cyngor am sut i fwrw allan gythreuliaid o stormydd; a llyfr o 1822 sy’n mesur 3cm yn unig.

Dywedodd Kevin Plant, Cadeirydd Cyngor Archifau a Chofnodion Cymru: “Nod Archwiliwch Eich Archifau yw ysbrydoli pobl i ddysgu mwy am rai o’r storïau treftadaeth anhygoel sydd ar eu trothwy trwy nifer o brofiadau gwahanol – byddwn yn eich annog i weld beth sydd ymlaen yn eich ardal leol a dechrau darganfod!”

Er mwyn dechrau archwilio ewch i’ch gwasanaeth archwilio lleol neu archifau.cymru

—DIWEDD—

Nodiadau i Olygyddion

Er mwyn cael mwy o wybodaeth, cyfweliadau a lluniau cysylltwch ag: archifau@four.cymru neu ffoniwch 01970 636400

#archwilioarchifau

 

  1. Datblygwyd ymgyrch Archwiliwch Eich Archifau gan yr Archifau Cenedlaethol a’r Gymdeithas Archifau a Chofnodion Genedlaethol (y DG & Iwerddon) ac fe’i cefnogir yng Nghymru gan Is-adran Amgueddfeydd, Archifau a Llyfrgelloedd Llywodraeth Cymru.
  2. Mae’r sector archifau yng Nghymru yn cynnwys:
  • 13 gwasanaeth archifau awdurdodau lleol (swyddfeydd cofnodion) gan gynnwys 3 cyd wasanaeth, a 15 man gwasanaeth
  • 5 gwasanaeth archifau addysg uwch
  • 3 gwasanaeth archifau sefydliadau cenedlaethol (Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Amgueddfa Cymru – National Museum Wales a Chomisiwn Brenhinol Henebion Cymru (CBHC)

Mae’r sefydliadau hyn yn gweithio gyda’i gilydd trwy’r corff partneriaeth strategol Cyngor Archifau a Chofnodion Cymru (CAChC) i gyflawni prosiectau datblygu Cymru-gyfan.

Leave a Reply